Cyflwyniad

Gyda phob cymhwyster newydd rydyn ni’n ei gyflwyno, ein nod yw gwneud y defnydd gorau o'r technolegau digidol sydd ar gael i ddysgwyr a chanolfannau yng Nghymru. Mae hyn yn amrywio o ddefnyddio technoleg i gasglu tystiolaeth sy'n digwydd yn naturiol o gynnydd prentisiaid yn y gweithle i arholiadau ar y sgrin mewn cymwysterau cyffredinol. 

Mae ein tîm moderneiddio asesu wedi’i sefydlu i adeiladu ar y cynnydd sydd wedi’i wneud ym maes asesu digidol yn y blynyddoedd diwethaf, ac i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i elwa ar arloesi yn y system gymwysterau. 

Mae’r tîm yn gweithio gydag eraill ar draws y gymuned cymwysterau ac asesu i archwilio’r manteision y gall technolegau digidol eu cynnig, gan ddefnyddio ei ganfyddiadau i ddylanwadu ar newid cadarnhaol a chefnogi datblygiad polisi cymwysterau. Mae ein dull gweithredu yn canolbwyntio ar dechnolegau a all fod o fudd i hydrinedd, gafaelgarwch, dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau, neu gyfuniad o'r egwyddorion hyn. 

Asesiadau digidol

Mae ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru bellach yn addysgu’r Cwricwlwm i Gymru, y mae rôl technolegau digidol wedi’i wreiddio o’i fewn ac yn cynyddu mewn amlygrwydd. I bobl ifanc sy'n profi'r cwricwlwm hwn, mae technolegau digidol yn llunio pam, beth a sut maen nhw'n dysgu. Er mwyn sicrhau bod cymwysterau yn adlewyrchu beth a sut y caiff dysgwyr eu haddysgu, mae Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn cael eu cyflwyno a bydd llawer o bynciau’n cael eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025. 

Ein gweledigaeth yw i ddysgwyr yng Nghymru astudio cymwysterau sy’n eu hysbrydoli ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith – ac y bydd y cymwysterau hyn yn gwneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol. Rydyn ni’n cyflwyno asesiadau digidol mewn pynciau lle rydyn ni’n hyderus y bydd yn gwella dilysrwydd yn yr asesiad. 

Rydyn ni wedi cyhoeddi’r set gyflawn o feini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru. Bydd llawer o'r cymwysterau TGAU hyn, ond nid pob un, yn cynnwys arholiadau digidol ac asesiadau di-arholiad. Rydyn ni hefyd yn datblygu meini prawf ar gyfer cymwysterau Sylfaen, TAAU a Sgiliau Bywyd a Gwaith newydd, a all hefyd gynnwys asesiadau digidol. 

Arholiadau digidol

Mae arholiadau digidol yn unig wedi cael eu cadarnhau i’w defnyddio o fewn wyth TGAU Gwneud-i-Gymru newydd o’r cychwyn cyntaf. Mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i gynnwys arholiadau digidol mewn pedwar pwnc arall. Ym mhynciau'r dyniaethau, bydd arholiadau digidol yn cael eu cyflwyno o fewn y pum mlynedd gyntaf o astudio. 

Mewn pynciau fel cyfrifiadureg, addysg gorfforol ac iechyd, a drama, bydd arholiadau digidol yn unig ar gael o'r cychwyn cyntaf. Bydd yr arholiadau hyn yn cael eu dylunio i wneud y defnydd gorau o'u fformat ar-sgrin. Mewn pynciau fel technoleg ddigidol a chyfrifiadureg, bydd cydlyniant rhwng yr arholiadau, y cynnwys y bydd dysgwyr yn ei astudio, a'r dulliau dysgu. 

Mewn pynciau fel drama a cherddoriaeth, bydd dysgwyr yn gallu adolygu ac ymateb i amrywiaeth o ddeunyddiau sain a fideo, gyda swyddogaethau fel oedi, sgrwbio ac ailchwarae'r deunydd yn hyrwyddo eu hymgysylltiad. Bydd y deunyddiau hefyd yn gyffredin i bob dysgwr, gan hyrwyddo sail asesu deg i bob dysgwr. 

Mewn pynciau eraill, fel addysg gorfforol ac iechyd, a bwyd a maeth, bydd y mathau o gwestiynau sydd ar gael yn y fformat digidol yn gwella dilysrwydd yr arholiadau. Er enghraifft, gall asesiadau digidol ganiatáu i ddysgwyr lusgo, gollwng a dilyniannu delweddau a thestun i'w categoreiddio a chreu diagramau proses. Gall cynnwys fideos o arddangosiadau ymarferol ganiatáu i ddysgwyr werthuso'r modd y mae eraill yn cymhwyso ac yn perfformio eu sgiliau yn y pynciau hyn. 

Ym mhynciau'r dyniaethau, gan gynnwys daearyddiaeth a busnes, bydd arholiadau digidol yn cael eu cyflwyno yn ystod y pum mlynedd gyntaf o astudio. Bydd cyflwyno’r arholiadau digidol hyn yn raddol yn helpu ysgolion i baratoi i’w gweithredu ac yn caniatáu amser i ddulliau asesu digidol gael eu harchwilio a’u treialu ymhellach yn y pynciau hyn. 

Dyma’r rhestr lawn o gymwysterau TGAU: 

Arholiadau digidol yn unig o'r cychwyn cyntaf 

Dan ystyriaeth bellach 

Bydd arholiadau digidol yn cael eu cyflwyno'n ddiweddarach  

Pynciau 2025 

  • Cyfrifiadureg 
  • Drama 
  • Cerddoriaeth 
  • Bwyd a Maeth 

 

Pynciau 2026 

  • Ffilm a Chyfryngau Digidol 
  • Technoleg Ddigidol 
  • Dawns 
  • Addysg Gorfforol ac Iechyd 

 

  • Yr Amgylchedd Adeiledig 
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant     
  • Peirianneg 
  • Dylunio a Thechnoleg 
  • Daearyddiaeth  
  • Hanes 
  • Astudiaethau Cymdeithasol  
  • Astudiaethau Crefyddol   
  • Busnes 

Bydd cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru hefyd yn caniatáu i ysgolion a dysgwyr wneud y defnydd gorau o'u hoffer digidol mewn ffyrdd eraill. Mewn llawer o bynciau, defnyddir technolegau digidol i alluogi profiadau dysgwyr, fel cael gafael ar ddeunydd adnoddau hanesyddol neu fynd ar deithiau rhithiol o amgylch amgylcheddau naturiol neu weithleoedd. Bydd technolegau digidol hefyd yn cael eu defnyddio i gwblhau a chyflwyno asesiadau di-arholiad. 

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, CBAC ac eraill i gefnogi gweithrediad effeithiol asesiadau digidol yn y cymwysterau newydd cyffrous hyn. 

Goruchwylio o bell

Mae'r defnydd o oruchwylio o bell o fewn asesiadau cymwysterau wedi esblygu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Un rheswm pwysig am y newid hwn oedd pandemig COVID-19. Roedd goruchwylio o bell a thechnolegau cysylltiedig eraill yn helpu cyrff dyfarnu i ganiatáu i asesiadau rhai cymwysterau barhau yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r technolegau hyn yn caniatáu i ddysgwyr sefyll asesiadau mewn lleoliad o'u dewis, tra'n sicrhau eu bod yn cael eu sefyll o dan amodau rheoledig. 

Rydyn ni’n archwilio sut mae technolegau goruchwylio o bell yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, ac a allen nhw ddod â manteision ychwanegol i'r system gymwysterau yng Nghymru.  

Yn ddiweddar, gwnaethom wahodd cyrff dyfarnu i ddod i gyfweliad lled-strwythuredig i fyfyrio ar eu defnydd o oruchwylio o bell. Gofynnon ni i gyrff dyfarnu am sut y gwnaethon nhw ddefnyddio goruchwylio o bell i addasu asesiadau yn ystod y pandemig, dylanwad hyn ar y cymwysterau maen nhw’n eu cynnig ar hyn o bryd, a beth all defnyddio technolegau ei olygu i ddysgwyr a chanolfannau. Mae eu cyfraniadau yn cael eu disgrifio yn ein dogfen gryno.  

Rydyn ni bellach yn archwilio barn dysgwyr ar dechnolegau goruchwylio o bell. Rydyn ni’n gwahodd dysgwyr i ymweld â'n llwyfan Dweud Eich Dweud i rannu eu barn a'u profiadau o sefyll asesiadau sydd wedi’u goruchwylio o bell. 

Asesu ffurfiannol

Wrth i dechnolegau digidol gael eu defnyddio’n ehangach mewn addysg, rydyn ni’n ymgysylltu ag ysgolion i ddeall sut maen nhw’n defnyddio technolegau digidol i wella arferion asesu ffurfiannol. 

Mae athrawon a dysgwyr wedi bod yn rhannu enghreifftiau o sut maen nhw’n defnyddio ystod o dechnolegau, mewn gwahanol feysydd pwnc, i gael mynediad at ddeunydd adolygu, rhoi cynnig ar gwestiynau ac ymarferion, ac i roi adborth i ddysgwyr.  

Yn ein hadroddiad diweddaru prosiect, rydyn ni’n disgrifio'r enghreifftiau hyn yn fanwl ac yn myfyrio ar y cyfleoedd y mae'r technolegau hyn yn eu cynnig i ysgolion a dysgwyr.  

Rydyn ni bellach yn gwahodd ysgolion eraill i rannu eu profiadau o ddefnyddio technolegau digidol ar gyfer asesiadau ffurfiannol gyda ni drwy ein llwyfan Dweud Eich Dweud. Mae cydweithio ag ysgolion yn ein helpu i ystyried yn well sut y gellir llunio asesiadau digidol mewn ffyrdd sy’n hydrin, yn afaelgar, yn ddibynadwy ac yn ddilys.  

Deallusrwydd artiffisial

Datganiad safbwynt Cymwysterau Cymru ar ddeallusrwydd artiffisial 

Mae systemau deallusrwydd artiffisial (AI) yn dod yn fwy datblygedig. Mae’r ffaith bod offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, a all gynhyrchu allbynnau gweledol a seiliedig ar destun mewn ymateb i feini prawf defnyddwyr, ar gael mor agored wedi ysgogi diddordeb a dadl helaeth. Mae’n bosibl y bydd gan yr offer hyn botensial sylweddol i ddylanwadu ar sut rydyn ni’n byw ein bywydau, gan gynnwys sut rydyn ni’n dysgu, yn gweithio ac yn rhyngweithio â’r byd o’n cwmpas. 

Mae Cymwysterau Cymru’n obeithiol am y manteision posibl y gallai systemau ac offer deallusrwydd artiffisial eu cynnig i addysgu, dysgu ac asesu. 

Gallwn hefyd weld eu bod yn cyflwyno heriau o ran sut rydyn ni’n asesu dysgwyr yn deg ar eu gwybodaeth a’u sgiliau, ac rydyn ni am sicrhau bod dilysrwydd ymatebion dysgwyr, ac felly uniondeb asesiadau, yn cael ei ddiogelu. 

Rydyn ni wedi nodi heriau a chyfleoedd posibl a gyflwynir gan offer deallusrwydd artiffisial mewn pedwar maes eang yn ymwneud â chymwysterau ac asesiadau a gaiff eu sefyll gan ddysgwyr:  

  • sut y bydd addysgu a dysgu sy'n gysylltiedig â chynnwys cymhwyster yn cael eu cyflwyno 
  • sut mae cyrff dyfarnu yn llunio ac yn cyflenwi cymwysterau ac asesiadau 
  • lle mae ymgeiswyr yn sefyll eu hasesiadau a'r lefelau rheolaeth sydd eu hangen i sicrhau dilysrwydd tystiolaeth asesu 
  • yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sydd wedi'u cynnwys mewn cymwysterau 

Mae Cymwysterau Cymru am i gyrff dyfarnu lunio a chyflenwi cymwysterau arloesol sy'n cynnig profiadau asesu cadarnhaol a pherthnasol i ddysgwyr yng Nghymru. Wrth i'n gwaith o ddiwygio cymwysterau barhau, byddwn yn gweithio'n agos gyda chyrff dyfarnu wrth iddyn nhw geisio gwneud y defnydd gorau o dechnolegau newydd a sicrhau bod dysgwyr yn cael eu diogelu. Rydyn ni hefyd yn cysylltu â Llywodraeth Cymru a rheoleiddwyr cymwysterau eraill ledled y DU wrth i ni ddatblygu ein dealltwriaeth o'r cyfleoedd yn y maes newydd cyffrous hwn. 

Ein gwaith ar ddeallusrwydd artiffisial 

Mae ein tîm moderneiddio asesu wedi bod yn cysylltu â chyrff dyfarnu ac mae pob un ohonyn nhw wrthi'n ystyried amrywiaeth o offer deallusrwydd artiffisial wrth iddyn nhw ddod i'r amlwg a datblygu. 

Buom yn trafod risgiau perthnasol mewn perthynas â chymwysterau Gwneud-i-Gymru gyda CBAC. Mae gwaith CBAC yn y maes hwn yn enghraifft o gamau sydd wedi'u cymryd hyd yn hyn, gan gynnwys:  

  • llunio canllawiau ar gyfer eu cymedrolwyr i gefnogi’r gwaith o ganfod camymddwyn posibl, gan gynnwys arwyddion y gallai offer deallusrwydd artiffisial fod wedi cael eu defnyddio 
  • ystyried y gwahanol risgiau ar gyfer eu hasesiadau di-arholiad 
  • archwilio sut y byddai amheuon bod systemau deallusrwydd artiffisial nas caniateir wedi eu defnyddio yn cael eu hymchwilio a’r prawf y byddai ei angen 
  • defnyddio meddalwedd gwrthweithio deallusrwydd artiffisial er mwyn cefnogi’r broses o ganfod achosion posibl o ddefnyddio meddalwedd i ganfod llên-ladrad, yn ogystal â chynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial 

Yn ystod haf 2023 cymerodd y Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC) amrywiaeth o gamau i gefnogi tegwch i ddysgwyr oedd yn sefyll asesiadau. 

Mae’r CGC bellach wedi diweddaru ei ganllawiau i ganolfannau mewn perthynas â nodi risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio offer deallusrwydd artiffisial. 

Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod â CBAC, y prif gorff dyfarnu yng Nghymru. Mae CBAC yn cytuno bod angen gweithredu camau a systemau tymor hwy i ganfod achosion o gamymddwyn sy'n gysylltiedig ag offer deallusrwydd artiffisial. 

Byddwn yn mynd ati i weithio gyda CBAC i ystyried hyn wrth ddatblygu cymwysterau TGAU newydd Gwneud-i-Gymru, a gyda chyrff dyfarnu eraill sy’n ymwneud â datblygu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16.