Cofrestriadau dros dro ar gyfer arholiadau haf 2025 yng Nghymru

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

22.05.25

Cyfnod dan sylw:

Haf 2025

Diweddariad nesaf:

Mai 2026 (Dros dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cofrestriadau dros dro ar gyfer arholiadau haf 2025 yng Nghymru

Adroddiad blynyddol sy'n cyflwyno data dros dro ar gofrestriadau ar gyfer TGAU, UG, Safon Uwch, Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau.

Pwyntiau Allweddol

TGAU

  • Gwnaed 312,545 o gofrestriadau TGAU yng Nghymru ar gyfer haf 2025. Mae hyn 3.5% yn is nag yn haf 2024.
  • Dysgwyr Blwyddyn 11 yw'r rhai mwyaf tebygol o gofrestru ar gyfer TGAU yng nghyfres yr haf, gan gyfrif am 89.5% o gyfanswm y cofrestriadau.
  • Bu gostyngiad o 3.9% yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 11 yr haf hwn o gymharu â haf 2024.
  • Roedd cofrestriadau Blwyddyn 10 yn cyfrif am 5.7% o’r holl gofrestriadau TGAU yr haf hwn. Roedd 17,820 o gofrestriadau ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 10 yn haf 2025, 4.0% yn is nag yn haf 2024
  • Bu cynnydd yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 12 neu uwch yr haf hwn, sef 4.6% o gyfanswm y cofrestriadau TGAU.

Safon UG

  • Cafwyd 40,830 o gofrestriadau UG ar gyfer haf 2025 yng Nghymru, 4.2% yn llai nag yn haf 2024.
  • Roedd 33,840 o gofrestriadau ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 12 yn haf 2025, gostyngiad o 5.6% o’i gymharu â haf 2024.
  • Bu cynnydd o 7.0% yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 13 yr haf hwn o’i gymharu â haf 2024.

Safon Uwch

  • Roedd 31,980 o gofrestriadau Safon Uwch ar gyfer haf 2025, 1.6% yn llai nag yn haf 2024. Mae cofrestriadau Safon Uwch wedi bod yn gostwng bob blwyddyn ers cyrraedd uchafbwynt o 36,420 yn haf 2022.
  • O’i gymharu â haf 2024, gwelwyd gostyngiad o 1.7% mewn cofrestriadau ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 13. Roedd dysgwyr Blwyddyn 13 yn cyfrif am 90.1% o'r holl gofrestriadau Safon Uwch yr haf hwn.
  • Mae cofrestriadau blwyddyn 14 ac uwch wedi gostwng 2.4% rhwng haf 2024 a haf 2025, ond maent yn ffurfio'r un gyfran o gyfanswm y cofrestriadau yn y ddwy flynedd

Mae nifer o ffactorau a all ddylanwadu ar newidiadau yn nifer y cofrestriadau ar gyfer grwpiau blwyddyn dros amser, er enghraifft newidiadau i'r canlynol:

  • Maint y boblogaeth;
  • Ymddygiad cofrestru e.e. pryd y caiff dysgwyr eu cofrestru ar gyfer eu harholiadau TGAU
  • Nifer y cymwysterau o bob math a sefir ar gyfartaledd;
  • Y mathau o gymwysterau ôl-16 a sefir.

Bydd ffigurau cofrestru yn y datganiad hwn wedi cael eu heffeithio gan wahanol ddulliau o ddyfarnu graddau rhwng 2020 a 2023, yn ogystal â aflonyddwch arall a achosir gan bandemig COVID-19. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn y nodiadau cefndir.

Gan fod y datganiad hwn yn seiliedig ar gyfrifiadau o gofrestriadau ar lefel cymhwyster, nid yw'n bosibl i ni feintioli effaith ffactorau o'r fath. Rydym wedi gwneud sylwadau ar ffactorau sy'n dylanwadu ar newidiadau mewn cofrestriadau dim ond lle rydym yn hyderus y bydd y ffactorau hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â newid.

Datganiadau blaenorol

Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2024 yng Nghymru - TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau
Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2023 yng Nghymru 
Cofrestriadau dros dro ar gyfer Arholiadau Haf 2022

 

Cysylltwch â

Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 250
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

 

Y Wasg
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: wasg@cymwysterau.cymru