Y cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru
Os nad wyt ti wedi clywed am Cymwysterau Cymru o'r blaen, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill, i wneud yn siŵr bod cymwysterau yn bodloni'ch anghenion, ac yn hybu hyder yn y system gymwysterau.
Rydym yn rheoleiddio cyrff dyfarnu sy'n datblygu ac yn darparu'r cymwysterau canlynol yng Nghymru:
Un o'n prif weithgareddau fel rheoleiddiwr yw goruchwylio’r broses o ddyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, Tystysgrifau Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol. Ewch i’n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer canlyniadau haf 2025.
Cymwysterau Cenedlaethol Newydd ar gyfer pobl ifanc 14–16 oed
Efallai na fydd pob un o’r cymwysterau uchod yn gyfarwydd i chi.
Mae hyn oherwydd ein bod ni’n diwygio’r holl gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc 14–16 oed, gan gynnwys TGAU. Fel rhan o’r gwaith yma, mae cymwysterau Sylfaen, TAAU a chymwysterau Sgiliau newydd yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2027 ymlaen.
Beth fydd effaith hyn arna i?
Bydd cymwysterau newydd yn y pynciau canlynol yn cael eu dysgu o fis Medi 2025 ymlaen. Gallwch glicio ar y dolenni i gael rhagor o wybodaeth am bob pwnc.
Bydd cymwysterau newydd yn y pynciau canlynol yn cael eu dysgu o fis Medi 2026 ymlaen. Gallwch glicio ar y dolenni i gael rhagor o wybodaeth am bob pwnc.
O fis Medi 2027 ymlaen, gallwch ddilyn cymwysterau newydd sbon mewn amrywiaeth o bynciau galwedigaethol a sgiliau. Byddwn yn rhannu mwy am hyn pan fydd yr wybodaeth ar gael.
Arholiadau ac asesiadau 2024-25
Bydd popeth sydd angen i chi ei wybod am y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau’r flwyddyn academaidd hon yn yr adran arbennig hon ar gyfer arholiadau ac asesiadau 2024-25.
Canlyniadau haf 2025
Cer i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer canlyniadau haf 2025.
Dod yn llysgennad dysgwyr
Un o feysydd allweddol ein gwaith yw llunio cymwysterau sy'n gweddu i anghenion heddiw a’r dyfodol. I’n helpu ni i wneud hyn, rydyn ni wedi sefydlu Panel Dysgwyr sy’n caniatáu i lais y dysgwr gael ei ymgorffori yn ein gwaith.
Mae ein llysgenhadon dysgwyr yn grŵp ysbrydoledig o bobl sydd ystod amrywiol ac eang o brofiadau. Rydyn ni bob amser yn chwilio am ddysgwyr newydd i ymuno â’n panel, ac os hoffet ti gymryd rhan mae rhagor o fanylion ar ein tudalennau Panel Dysgwyr.
Mae dod yn llysgennad dysgwyr yn gyfle gwych i ti fagu hyder, dweud dy ddweud ar gymwysterau yng Nghymru, ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr i ti i’th gefnogi yn y camau nesaf ar dy daith ddysgu neu waith.
Gweithgarwch y Panel Dysgwyr
Y Newyddion Diweddaraf gan ein Llysgenhadon Dysgwyr
Crynodeb o’r cyfarfod |
|
Dyddiad | Agenda |
21/01/25 |
|
03/12/24 |
|
08/10/24 |
|
Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol |
|
Dyddiad | Agenda |
01/07/25 |
|
Gweithgareddau’r Llysgenhadon Dysgwyr
Ymunodd y llysgenhadon dysgwyr â ni mewn sawl digwyddiad dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gymryd rhan mewn trafodaethau, yn enwedig gyda chyd-ddysgwyr ar waith Cymwysterau Cymru a hyrwyddo'r Panel Dysgwyr.
Mae'r llysgenhadon hefyd yn rhoi mewnbwn rheolaidd i'n cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddiadau fel ein Hadroddiad Blynyddol.
Lefelau cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio pob cymhwyster yng Nghymru a gynigir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig, ar wahân i raddau. Mae'n bwysig i ti wybod pa lefel yw cymhwyster, er mwyn i ti allu deall sut y gall dy helpu gyda'r gamau nesaf i mewn i'r gwaith, neu astudiaethau ymhellach.
Ar draws y DU, mae'r rhan fwyaf o gymwysterau a gymerir yn yr ysgol, coleg addysg bellach, gwaith neu brifysgol yn ffitio i un o naw lefel (12 yn yr Alban). Yr uchaf yw'r lefel, yr anoddaf yw'r cymhwyster. Gall cymwysterau ar yr un lefel fod yn wahanol iawn o ran cynnwys a'r amser maen nhw'n ei gymryd i'w gwblhau.
Mae Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru'n darparu un ffordd gyffredin o fesur yr hyn a gyflawnir wrth ddysgu, gan ddysgwyr o bob oedran a gallu. Mae fframweithiau tebyg ym mhob un o wledydd y DU.
Lefel Nesa
Cer draw i hwb cynnwys Lefel Nesa lle cei gyngor adolygu, canllawiau’n ymwneud â llesiant a gwybodaeth i’th helpu di drwy dymor arholiadau ac asesiadau.
Arholiadau 360
Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio. Pethau fel, pwy sy’n ysgrifennu fy mhapur arholiad a sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?
Ar Arholiadau 360, mae modd i ti ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau.
Canlyniadau haf 2024
Cer i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer canlyniadau haf 2024.