Cyflwyniad

Mae ein Llysgenhadon Dysgwyr yn griw ysbrydoledig o bobl a chanddynt ystod amrywiol ac eang o brofiadau. 

Maent yn ein helpu i siapio cymwysterau a system gymwysterau Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer heddiw a'r dyfodol, ac maent yn sicrhau y caiff lleisiau dysgwyr eu cynnwys ym mhob agwedd ar ein gwaith. 

 

Rôl

Mae ein grŵp yn ein helpu i siarad â dysgwyr a deall yr hyn y maent ei angen gennym ni a’r sector addysg yn fwy cyffredinol. Mae’r aelodau’n mynd ati i’n herio, yn ogystal â’n cynorthwyo yn ein gwaith, er mwyn ein helpu i gyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â chymwysterau i ddysgwyr. 

Mae cynnwys, adnoddau a thrafodaethau’r cyfarfodydd yn gyfrinachol ac ni fydd meddyliau na safbwyntiau’r aelodau’n cael eu rhannu oni bai y bydd yr aelodau’n rhoi caniatâd i hynny ddigwydd. 

Mae aelodau’r grŵp yn onest ac maent yn mynegi eu barn yn blaen ynglŷn â’r materion sy’n effeithio ar gymwysterau a dysgwyr yng Nghymru. 

Aelodaeth

Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn cynnwys 18-25 o ddysgwyr. Ond rydym wrthi’n recriwtio aelodau newydd i ymestyn y grŵp er mwyn sicrhau y bydd gennym lysgenhadon o bob sir yng Nghymru. Fel arfer, mae ein Llysgenhadon yn aros gyda’r grŵp am ddwy flynedd a hefyd: 

  • maent rhwng 14 a 21 oed 
  • maent yn astudio am gymwysterau yng Nghymru – naill ai mewn ysgol, mewn coleg neu mewn lleoliad arall, yn cynnwys addysg yn y cartref 
  • maent mewn addysg ac maent yn astudio amrywiaeth o gymwysterau, yn cynnwys cymwysterau galwedigaethol, TGAU, Safon Uwch Gyfrannol ac Uwch a Bagloriaeth Cymru 
  • maent yn dod o gefndiroedd gwahanol a lleoliadau addysg gwahanol (yn cynnwys colegau, ysgolion, ymgeiswyr preifat), a cheir gwahanol fathau o ddysgwyr (yn cynnwys dysgwyr cyfrwng Cymraeg a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol). 

Dod yn Llysgennad Dysgwyr

Rolau gwirfoddol ydynt, ond mae’r manteision yn amhrisiadwy: 

  1. Profiad unigryw y gallwch ei nodi ar eich CV neu eich cais UCAS. 
  2. Cyfle i wella sgiliau, er enghraifft cyfathrebu, gwerthuso a gweithio mewn tîm. 
  3. Cynorthwyo i ddatblygu cymwysterau Gwneud-i-Gymru. 
  4. Sicrhau bod lleisiau dysgwyr yn cael eu clywed. 
  5. Cyfleoedd i’n cynorthwyo i hyrwyddo ein gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar sianeli cyfryngau (er enghraifft, cyfweliadau ar y teledu a’r radio). 

Ymrwymiad o ran amser 

Cynhelir hyd at chwech o gyfarfodydd Llysgenhadon Dysgwyr bob blwyddyn. Caiff dyddiadau’r cyfarfodydd eu trefnu ymlaen llaw a byddant yn cael eu cynnal unwaith bob hanner tymor, fel arfer ar ddydd Mawrth rhwng 1700 a 1830. 

O dro i dro, byddwn yn trefnu cyfarfodydd ychwanegol os bydd angen rhagor o amser i drafod gweithgareddau. Cyfarfodydd dewisol yw’r rhain, ond rydym yn eich annog i ymuno â nhw er mwyn sicrhau y byddwch yn cael eich cynnwys mewn gwaith newydd ac yn cael cyfle i sgwrsio â’r aelodau eraill. 

Gwneud cais i ymuno 

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Llysgennad Dysgwyr neu os ydych eisiau enwebu dysgwr, anfonwch e-bost atom: learnergroup@qualifications.wales

Byddwn yn gofyn am yr wybodaeth ganlynol: 

  • eich enw 
  • eich oedran 
  • enw’r ganolfan 
  • pam rydych yn gwneud cais i ymuno â’r grŵp (hyd at 100 o eiriau) 

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.