Cyflwyniad
Mae cymorth rhieni / gofalwyr yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad pobl ifanc mewn arholiadau ac asesiadau. Mae deall y system gymwysterau yn rhan bwysig o'ch helpu i roi cymorth iddyn nhw.
Os nad wyt ti wedi clywed am Gymwysterau Cymru o'r blaen, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill, i wneud yn siŵr bod cymwysterau yn bodloni'ch anghenion, ac yn hybu hyder yn y system gymwysterau. .
Rydym yn rheoleiddio cyrff dyfarnu sy'n datblygu ac yn darparu'r cymwysterau canlynol yng Nghymru:
Cymwysterau Cenedlaethol 14–16
Mae Cymwysterau Cenedlaethol newydd ar y ffordd i bob person ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cynnwys TGAU, yn ogystal â chymwysterau TAAU newydd, cymwysterau Sylfaen a chymwysterau'r Gyfres Sgiliau.
Mae'r TGAU newydd yn cael eu cyflwyno mewn dwy don, un ym mis Medi 2025 a’r llall ym mis Medi 2026. Mae’r TAAU, y cymwysterau Sylfaen, a'r Gyfres Sgiliau yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2027.
Datblygwyd y cymwysterau hyn i adlewyrchu beth mae’r Cwricwlwm i Gymru am ei addysgu i bobl ifanc a sut, ac er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn bodloni anghenion pobl ifanc nawr ac yn y dyfodol.
Dysgwch fwy am y cymwysterau newydd:
Lefelau cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio pob cymhwyster yng Nghymru a gynigir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig, ar wahân i raddau. Mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod pa lefel yw unrhyw gymwysterau, er mwyn i chi allu deall sut gallwch chi helpu eich plentyn gyda'i gamau nesaf i mewn i'r gwaith, neu astudiaethau ymhellach.
Ar draws y DU, mae'r rhan fwyaf o gymwysterau a gymerir yn yr ysgol, coleg addysg bellach, gwaith neu brifysgol yn ffitio i un o naw lefel (12 yn yr Alban). Yr uchaf yw'r lefel, yr anoddaf yw'r cymhwyster. Gall cymwysterau ar yr un lefel fod yn wahanol iawn o ran cynnwys a'r amser maen nhw'n ei gymryd i'w gwblhau.
Mae Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru'n darparu un ffordd gyffredin o fesur yr hyn a gyflawnir wrth ddysgu, gan ddysgwyr o bob oedran a gallu. Mae fframweithiau tebyg ym mhob un o wledydd y DU.
Lefel Nesa
Helpwch ddysgwyr i baratoi ar gyfer eu harholiadau ac asesiadau gyda'r hwb cynnwys Lefel Nesa, lle byddwch yn dod o hyd i gyngor adolygu, canllawiau’n ymwneud â llesiant a gwybodaeth i'w cefnogi drwy'r tymor arholiadau ac asesiadau.
Arholiadau 360
Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio. Pethau fel, pwy sy’n ysgrifennu fy mhapur arholiad a sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?
Ar Arholiadau 360, mae modd i ti ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau.
Anogwch eich plentyn i ymuno â'n Grŵp Dysgwyr
Anogwch eich plentyn i ymuno gyda'n panel dysgwyr.
Mae llunio cymwysterau sy’n bodloni anghenion y dyfodol yn faes pwysig o’n gwaith. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, rydym wedi sefydlu dau grŵp i ddysgwyr, er mwyn i ni allu clywed eu barn nhw am ein gwaith.
Mae aelodau'r ddau grŵp yn bobl ysbrydoledig sydd ag ystod amrywiol ac eang o brofiadau, ac wrth i rai ohonyn nhw adael byd addysg eleni, rydyn ni’n chwilio am ddysgwyr newydd i ymuno â'r grwpiau.
Mae ymuno ag un o’n grwpiau dysgwyr yn gyfle gwych i’ch plentyn fagu hyder, dweud eu dweud ar gymwysterau yng Nghymru, a rhoi profiad gwerthfawr iddyn nhw i’w cefnogi wrth iddyn nhw gymryd y camau nesaf ar eu taith ddysgu neu waith.
Ymunwch â'n Fforwm newydd i Rieni a Gofalwyr
Ymunwch â'n Fforwm newydd i Rieni a Gofalwyr
Rydyn ni’n datblygu Fforwm Rhieni a Gofalwyr.
Rydyn ni am glywed gan rieni a gofalwyr o bob cwr o Gymru sydd ag ystod eang ac amrywiol o brofiadau bywyd. Os oes gennych chi ddiddordeb, bydden ni’n hoffi i chi ymuno â ni fel y gallwn ystyried eich teimladau, barn a'ch lleisiau yn ein gwaith.
Bydden ni hefyd yn hoffi deall eich profiad chi a'ch teuluoedd o gymwysterau. Bydden ni’n hoffi trafod agweddau pwysig ar gymwysterau, gan gynnwys:
- lles disgyblion
- yr ystod o gymwysterau
- datblygu cymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd
- anghenion dysgu ychwanegol
- asesiadau ac arholiadau
Bydd gofyn i aelodau'r Fforwm Rhieni a Gofalwyr gymryd rhan mewn arolygon rheolaidd ac ymuno mewn trafodaethau ar-lein gan ddefnyddio'r fforwm caeedig. Bydd cyfle hefyd i ymuno â grwpiau ffocws i drafod a’n cefnogi mewn prosiectau a meysydd gwaith penodol.
Bydd eich teimladau, eich barn a’ch profiadau’n ein helpu i ddatblygu cymwysterau a system gymwysterau sy’n diwallu anghenion dysgwyr heddiw ac yfory Cymru. Rydyn ni’n gwerthfawrogi barn ein partneriaid a'n rhanddeiliaid ac mae rhieni a gofalwyr yn rhanddeiliaid allweddol bwysig iawn i ni.
I gofrestru diddordeb mewn ymuno â'r Fforwm Rhieni a Gofalwyr, cliciwch yma:
Fforwm Rhieni a Gofalwyr | dweudeichdweud.cymwysterau.cymru
Canlyniadau Haf 2024
Cer i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer Canlyniadau Haf 2024.