NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

02.04.26

Arolwg hyder y cyhoedd

Rydyn ni wedi cyhoeddi'r canlyniadau diweddaraf o'n harolwg hyder y cyhoedd.

Mae'r arolwg yn archwilio barn y cyhoedd ar gymwysterau a gymerir gan ddysgwyr 14 i 19 oed yng Nghymru. Mae hefyd yn casglu canfyddiadau'r cyhoedd ynghylch a yw cymwysterau a'r system gymwysterau yn cynnig cyfleoedd cyfartal i bob dysgwr.

Yn yr arolwg, gofynnwyd i'r ymatebwyr nodi eu cytundeb â chyfres o ddatganiadau am gymwysterau.

Ar gyfer y don hon, cyfwelwyd â 1,000 o oedolion ar-lein rhwng 22 Medi a 12 Hydref 2025.

Canfyddiadau allweddol

Mae hyder cyffredinol yn parhau'n gadarnhaol ac yn sefydlog
Mae hyder y cyhoedd mewn cymwysterau Cymru yn 2025 yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda chanfyddiadau cyson ar draws y rhan fwyaf o gymwysterau nad ydynt yn raddau ac ymddiriedaeth barhaus yn y system i gefnogi dyfodol dysgwyr.

Hyder cryf mewn cymwysterau cyffredinol UG a Safon Uwch
Mae ymddiriedaeth mewn cymwysterau cyffredinol nad ydynt yn raddau yn parhau'n uchel, yn enwedig o ran eu gwerth wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth bellach a'u statws fel cymwysterau uchel eu parch.

Agweddau cadarnhaol tuag at gymwysterau galwedigaethol
Mae 79% yn cytuno bod cymwysterau galwedigaethol a gymerir yn yr ysgol yn werthfawr i ddyfodol pobl ifanc.

Mae 75% yn cytuno bod cyflawni cymhwyster galwedigaethol yn 18 oed o leiaf yr un mor werthfawr â chyflawni cymwysterau Safon Uwch.

Mae'r canlyniadau hyn yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae cymwysterau galwedigaethol yn ei chwarae i ddysgwyr yng Nghymru.

Mae'r safbwyntiau cychwynnol ar Gymwysterau Cenedlaethol newydd yn gadarnhaol iawn
Mae mwyafrifoedd mawr yn ystyried bod y cymwysterau Sylfaen newydd a'r unedau newydd sy'n gysylltiedig â sgiliau (a gyflwynir o 2027) yn ddefnyddiol, gyda lefelau isel iawn o anghytundeb.

Cyfle cyfartal
Mae cytundeb bod cymwysterau Cymru a'r system gymwysterau yn cynnig cyfleoedd cyfartal yn uchel ar 68% yn 2025, gydag 8% o'r cyhoedd yn anghytuno.