Datganiad ar gyrsiau newydd ym maes adeiladu
Cyrsiau prentisiaeth newydd ym maes adeiladu i’w cyflwyno yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru a Medr wedi cyhoeddi y bydd fframwaith prentisiaethau adeiladu sylfaen, ar lefel 2, yn cael ei gyflwyno eleni.
Mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Medr i nodi sut y gall y system gymwysterau yn y sector hwn gefnogi'r newid hwn.
Rydyn ni wedi cytuno gyda City & Guilds y bydd yr ystod o gymwysterau Sgiliau i Gymru yn cael eu diwygio, a bydd cymwysterau newydd yn cael eu cyflwyno ym meysydd gosod brics, gwaith coed ar safleoedd a sgaffaldio.
Bydd Cymwysterau Cymru yn darparu rhagor o fanylion yn ystod yr wythnosau nesaf.
Isod, rydyn ni'n ateb rhai o'ch cwestiynau mwyaf cyffredin.
Mae’r newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r gyfres o gymwysterau Sgiliau i Gymru yn 2026 a 2027 yn adlewyrchu newidiadau sy'n cael eu gwneud i fframweithiau prentisiaethau ym maes adeiladu yng Nghymru. Bydd y newidiadau hyn yn gweld pum cymhwyster newydd ar gyfer dysgwyr seiliedig ar waith, gan gynnwys prentisiaid, yn cael eu cyflwyno gan y corff dyfarnu City & Guilds.
Bydd pum cymhwyster newydd yn cael eu cyflwyno:
- Adeiladu (Lefel 2) – Gosod brics
- Adeiladu (Lefel 2) – Sgaffaldio
- Adeiladu (Lefel 2) – Gwaith Saer ar Safle
- Adeiladu (Lefel 3) – Crefft Gosod Brics
- Adeiladu (Lefel 3) – Crefft Gwaith Saer ar Safle
Bydd y cymwysterau canlynol yn cael eu tynnu'n ôl, gan y bydd eu pwrpas presennol yn cael ei gyflawni gan y cymwysterau newydd:
- Adeiladu (Lefel 3) – Gosod Brics [C00/4169/3]
- Adeiladu (Lefel 3) – Gwaith Saer ar Safle [C00/4283/1]
Byddan nhw’n caniatáu i ddysgwyr seiliedig ar waith gyflawni cymwysterau lefel 2 a lefel 3 ar wahân, gan ddechrau ar lefel 2. Bydd pob cymhwyster yn cael ei ddatblygu’n unol â safonau cenedlaethol cydnabyddedig i alluogi dysgwyr sy'n eu cwblhau'n llwyddiannus i gael cydnabyddiaeth trwy gerdyn crefft.
Bydd dysgwyr sy'n cwblhau cymhwyster lefel 2 yn llwyddiannus yn gallu cael cerdyn crefft glas. Ym maes gosod brics a gwaith saer ar safle, bydd cymwysterau lefel 3 ar gael sy'n galluogi cynnydd o lefel 2, a bydd cyflawni cymhwyster yn cael ei gydnabod ar lefel uwch drwy gerdyn crefft aur.
Bydd y cymwysterau newydd yn cael eu dylunio i sicrhau eu bod yn bodloni safonau cenedlaethol, fel y nodir gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB). I ddechrau, bydd y cymwysterau’n cael eu cysoni â gofynion Strwythurau Cymwysterau a Argymhellir CITB, gan sicrhau y bydd dysgwyr sy'n eu cwblhau'n llwyddiannus yn gallu cael cerdyn crefft glas perthnasol.
Mae'r cymwysterau'n cael eu datblygu ar adeg o newid yn y ffordd mae'r diwydiant adeiladu yn diffinio ac yn mynegi beth mae'n ei olygu i fod yn gymwys mewn galwedigaeth adeiladu, sy'n gweld CITB yn cyflwyno Fframweithiau Cymhwysedd newydd, Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol wedi'u hadolygu Strwythurau Cymwysterau a Argymhellir newydd. Rydyn ni’n rhagweld cyhoeddi'r dogfennau newydd hyn ym maes gosod brics a gwaith saer ar safle yn ystod blynyddoedd cyntaf y cymwysterau newydd. Gallai hyn olygu y bydd angen rhai diweddariadau i'r cymwysterau hyn er mwyn sicrhau bod dysgwyr sy'n eu cwblhau'n llwyddiannus yn gallu cael cerdyn crefft perthnasol. Bydd unrhyw ddiweddariadau o'r fath ond yn cael eu gwneud i gyd-fynd â gofynion y diwydiant sy'n sicrhau gwerth a chyfrededd parhaus y cymwysterau hyn i ddysgwyr. Gallwch ddarganfod mwy am y Fframweithiau Cymhwysedd ar wefan CITB.
Na. Er mwyn cyd-fynd â'r newidiadau i'r fframwaith prentisiaethau, mae'r cymwysterau lefel 2 newydd yn darparu’r pwynt mynediad newydd i ddysgwyr seiliedig ar waith mewn gosod brics a gwaith saer ar safle.
Bydd y cymwysterau crefft lefel 3 newydd yn rhoi cyfleoedd ar gyfer cynnydd yn y crefftau hyn i ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus. Bydd y cymwysterau lefel 3 hyn ond yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster dysgu seiliedig ar waith lefel 2 perthnasol.
|
Llinell amser |
Gweithgaredd |
|
Diwedd gwanwyn 2026 |
Cynnwys ar gyfer tri chymhwyster lefel 2 newydd ar gael ar ffurf drafft. |
|
Drafft framweithiau prentisiaethau lefel 2 ar gael gan Medr. |
|
|
Erbyn Medi 2026 |
Cymwysterau lefel 2 wedi'u cymeradwyo'n llawn gan Cymwysterau Cymru ac i'w gweld ar gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW). |
|
Cymwysterau lefel 2 ar gael ar gyfer cofrestru gyda City & Guilds. |
|
|
Fframweithiau prentisiaethau lefel 2 terfynol ar gael gan Medr i gofrestru dysgwyr ar brentisiaeth. |
|
|
Erbyn Medi 2027 |
Cymwysterau crefft lefel 3 wedi'u cymeradwyo'n llawn gan Cymwysterau Cymru ac i'w gweld ar Cymwysterau yng Nghymru (QiW). |
|
Cymwysterau crefft lefel 3 ar gael ar gyfer cofrestru gyda City & Guilds. |
|
|
Fframweithiau prentisiaethau crefft lefel 3 ar gael gan Medr i gofrestru dysgwyr ar brentisiaeth. |
Bydd dyddiadau allweddol pellach, gan gynnwys pryd y bydd pob asesiad ar gael, yn cael eu darparu gan City & Guilds maes o law.
Bydd dysgwyr sydd eisoes wedi'u cofrestru ar y cymwysterau lefel 3 presennol mewn gosod brics a gwaith saer ar safle yn gallu cwblhau eu cymwysterau heb ymyrraeth tan 31 Awst 2030. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd unrhyw gyfleoedd pellach ar gyfer ardystio.
Bydd dysgwyr sy'n dilyn prentisiaeth mewn gosod brics neu waith saer ar safle ar hyn o bryd, ond nad ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer y cymhwyster lefel 3 eto, yn gallu gwneud hynny tan 31 Awst 2026. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd unrhyw gofrestriadau newydd yn bosibl. Yn hytrach, mae'r cymwysterau lefel 2 newydd ar gyfer dysgwyr seiliedig ar waith yn y crefftau hyn yn cael eu cyflwyno.
Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar y rhan fwyaf o gymwysterau Sgiliau i Gymru. Bydd y cymwysterau canlynol yn parhau i fod ar gael:
- Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2)
- Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2)
- Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu (Lefel 2)
- Cymhwyster Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2)
- Cymwysterau adeiladu (Lefel 3) mewn crefftau heblaw gosod brics a gwaith saer ar safle
- Cymwysterau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3)
Mae cyrff dyfarnu Sgiliau i Gymru hefyd yn gweithio i ehangu'r ystod o lwybrau sydd ar gael i ddysgwyr.
Bydd Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn adolygu llwybrau prentisiaeth presennol mewn crefftau heblaw gosod brics a gwaith saer ar safle. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi gan Medr.
Er mwyn cefnogi canolfannau a dysgwyr â mynediad at lwybrau galwedigaethol a ddefnyddir yng Nghymru, mae dau gymhwyster newydd ar gyfer dysgwyr seiliedig ar waith, gan gynnwys prentisiaid, yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2026 ymlaen:
- City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gosod Lloriau
- EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Oeri, Aerdymheru a Phympiau Gwres
Cofrestrwch ar wefan Sgiliau i Gymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn.
Na. Mae'r cymwysterau newydd yn cael eu datblygu fel y gellir eu defnyddio ar gyrsiau prentisiaethau adeiladu newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Medr. Maen nhw y tu allan i gwmpas arfaethedig y gyfres Sgiliau i Gymru. Rydyn ni’n rhoi rhywfaint o gymorth i City & Guilds i wrthbwyso rhan o'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â datblygu a chyflwyno’r cymwysterau newydd, ond mae'n debygol iawn y bydd y ffioedd sy'n gysylltiedig â'r cymwysterau newydd hyn yn uwch na'r rhai a osodir ar hyn o bryd ar gyfer cymwysterau lefel 3 presennol. Bydd y ffioedd hyn yn cefnogi hyfywedd y cymwysterau newydd, yn ogystal â gweithgareddau gweithredu a chymorth i ganolfannau y bydd City & Guilds yn eu cynnal wrth eu cyflwyno.
Bydd City & Guilds yn rhyddhau manylion y ffioedd wrth i waith datblygu'r cymwysterau fynd rhagddo. Bydd Medr hefyd yn amlinellu cyfraddau cyllido ar gyfer rhaglenni dysgu sy'n cynnwys y cymwysterau lefel 2 newydd hyn, a bydd ffioedd cofrestru’n cael eu hadlewyrchu yn y cyfraddau cyllido.
Bydd Medr yn rhoi gwybodaeth am unrhyw senarios pontio posibl ar gyfer prentisiaid presennol.
Pan fydd y cymwysterau newydd yn cael eu cymeradwyo, bydd City & Guilds yn rhoi rhagor o wybodaeth am y prosesau cofrestru ar eu cyfer.
Na. Fodd bynnag, bydd cyfleoedd i ddarparwyr dysgu gydnabod dysgu blaenorol. Mae hyn oherwydd bydd llawer o'r un Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cael eu hadlewyrchu yn y cymwysterau lefel 3 presennol a'r cymwysterau lefel 2 newydd.