Cyflwyniad
Ein nod yw darparu sylfaen dystiolaeth i lywio syniadau a phenderfyniadau rheoleiddiol a pholisi, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i randdeiliaid y system gymwysterau a’r cyhoedd yn ehangach.
Rydyn ni’n gwneud hyn drwy:
- ddylunio, comisiynu a chynnal gwaith ymchwil
- rhoi cyngor technegol yn y broses o gynnal safonau a chasglu data monitro i alluogi goruchwyliaeth reoleiddiol
- cefnogi gweithgareddau ymgynghori cyhoeddus, yn enwedig cynllunio gweithgarwch casglu a dadansoddi data
- darparu cyngor ar sut mae modd defnyddio dulliau ymchwil o fewn gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid
- casglu a rheoli data
- cyhoeddi ystadegau swyddogol ar y system gymwysterau
- llunio a dehongli dadansoddiadau ystadegol
- rhoi gwybod i gynulleidfaoedd mewnol ac allanol am ganfyddiadau ymchwil a thystiolaeth ystadegol
I gael rhagor o wybodaeth am ein hymchwil a’n datganiadau ystadegol diweddaraf, ewch i Cyhoeddiadau ac Adnoddau.
Mae ein gweithgareddau ymchwil ac ystadegau yn cael eu cefnogi gan Grŵp Cynghori ar Ymchwil sy'n rhoi cyngor ar ddyluniad yr ymchwil, y fethodoleg, y gwaith dadansoddi a’r broses adrodd ar ganfyddiadau, yn ogystal â chwestiynu’r rhain i gyd.
Rydyn ni’n cynhyrchu ystadegau swyddogol sy'n ymwneud â'r holl gymwysterau a gaiff eu rheoleiddio gennym ni ac a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr yng Nghymru. Dylai pob corff dyfarnu cydnabyddedig ddarparu'r holl ddata perthnasol, yn unol â'n proses cyflwyno data.
Rydym yn diweddaru ein Geirfa Ystadegol yn rheolaidd - sy'n darparu diffiniadau o dermau a ddefnyddir ar draws ein gwaith ymchwil ac ystadegau.
Os na allwch ddod o hyd i'r term rydych chi'n chwilio amdano, anfonwch e-bost atom.
Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau ynghylch ystadegau at ystadegau@cymwysterau.cymru ac unrhyw ymholiadau ynghylch ymchwil at ymchwil@cymwysterau.cymru.