Arholiadau ac asesiadau
Ym mis Medi 2023, fe wnaethon ni gyhoeddi y byddai’r polisi graddio ar gyfer haf 2024 ar gyfer canlyniadau ar lefel genedlaethol yn weddol debyg i ganlyniadau cyn 2019. Hwn oedd y cam olaf yn ein dychweliad graddol i drefniadau cyn 2019.
Roeddem yn deall y gallai perfformiad mewn rhai pynciau gael ei effeithio o hyd. Felly gwnaethom roi trefniadau ar waith ar gyfer defnyddio mesurau diogelu ystadegol, os oedd angen, ar lefel pwnc, i atal canlyniadau rhag disgyn yn sylweddol is na chanlyniadau 2019.
Fe fuon ni’n cydweithio’n agos â CBAC er mwyn ystyried yr opsiynau ar gyfer cyflawni’r polisi tebyg hwn yn fras mor effeithiol a theg â phosibl.
Roedd y dull graddio yn debyg i’r un a ddefnyddiwyd mewn blynyddoedd cyn-pandemig, ond gan gydnabod y gallai canlyniadau fod ychydig yn wahanol i ganlyniadau cyn-bandemig oherwydd:
- fod yna newidiadau yn y garfan o ddysgwyr a oedd yn cymryd cymwysterau mewn rhai pynciau, o ran oedran, maint a gallu’r garfan
- byddai effaith dysgwyr yn sefyll unedau yn yr un pwnc mewn cyfres gynharach, gan fod ein polisi hanner ffordd yn fras o’r flwyddyn academaidd ddiwethaf ychydig yn fwy hael nag yn 2024, yn cael rhywfaint o effaith fach ar ganlyniadau
- gallai fod perfformiad anrhagweladwy mewn rhai pynciau oherwydd effaith y pandemig
Mae pwyllgorau dyfarnu CBAC yn argymell ffiniau graddau ar gyfer pob asesiad arholiad neu asesiad di-arholiad, sy’n cael eu gweithredu wedyn yn dilyn adolygiad gan uwch staff CBAC.
Mae pwyllgorau dyfarnu yn defnyddio cyfuniad o wybodaeth ystadegol
a barnau, wedi’u tynnu o adolygu enghreifftiau o waith dysgwyr, i sefydlu’r ffiniau. Defnyddiwyd ystadegau i gefnogi pwyllgorau drwy awgrymu amrywiaeth o farciau ffiniau gradd posibl i lywio eu gwaith craffu ar waith dysgwyr.
Pe bai pwyllgorau’n gweld bod y dystiolaeth yn cefnogi ffin graddau a oedd ymhellach o’r man cychwyn, yna roedd hyblygrwydd i’w newid. Mewn rhai pynciau, roedd angen i ffiniau graddau fod yn isel iawn i gyflawni nod y polisi. Fodd bynnag, nid oedd angen mesurau diogelu ystadegol.
Mae cyrff dyfarnu’n gyfrifol ac yn atebol am eu penderfyniadau dyfarnu.
Fe wnaethon ni gyhoeddi ein safbwynt polisi yn gynnar, fel y gallai rhanddeiliaid ddeall y gwahaniaethau rhwng 2023 a 2024 cyn gynted â phosibl. Fe’i gwnaethon yn glir bod canlyniadau cenedlaethol yn 2024 yn debygol o fod yn is na’r rhai yn haf 2023, gan fod y polisi hanner ffordd yn fras blaenorol wedi’i ddileu.
Roedd hon yn neges a gafodd ei chyfleu’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn
academaidd. Roeddem yn ofalus i gysylltu â sefydliadau addysg uwch, fel eu bod yn ymwybodol o’r polisi graddio ac i sicrhau na fyddai dysgwyr yng Nghymru o dan anfantais o’u cymharu â’u cyfoedion y tu allan i Gymru mewn perthynas â phrosesau derbyn ar gyfer lleoedd prifysgol.
Roedd ein dull o ymdrin â safonau yn debyg i ddulliau a roddwyd ar waith gan reoleiddwyr eraill yr haf hwn. Gwnaethon ni gynnal trafodaethau rheolaidd gyda’n cyd-reoleiddwyr ar draws y DU drwy gydol y flwyddyn academaidd, fel bod y
gwahaniaethau bach ac unrhyw effeithiau posibl yn cael eu deall yn llawn.
Roedd dychwelyd i ddulliau cyn-bandemig yn bwysig o ran cynnal a diogelu gwerth y graddau a gyflawnwyd gan ddysgwyr mewn cymwysterau gwneud-i-Gymru.
Cyfathrebu canlyniadau
Eleni, fel mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae wedi bod yn flaenoriaeth darparu cyfathrebiadau effeithiol ynghylch arholiadau ac asesiadau i ddysgwyr, rhieni, gofalwyr, ysgolion a cholegau a’r cyhoedd ehangach.
Mewn ymateb i’r cam olaf wrth drosglwyddo yn ôl tuag at drefniadau cyn-bandemig, fe wnaethon ni ddatblygu a phrofi ein dull cyfathrebu gyda mewnwelediad ac adborth rhanddeiliaid. Fe wnaethon ni ddefnyddio ein sianeli i ddarparu gwybodaeth a diweddariadau ac i rannu adnoddau.
Fe wnaethon ni gydweithio â phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, CBAC, Gyrfa Cymru, ac e-sgol, i gefnogi dysgwyr sy’n dilyn cymwysterau trwy ein hymgyrch wybodaeth Lefel Nesa ar y cyd.*
Roedd hyn yn cynnwys canolbwynt cynnwys canolog lle gallai dysgwyr gael gafael ar wybodaeth am drefniadau asesu, canllawiau adolygu, sesiynau adolygu ar- lein, cymorth lles, a mwy.
- Yn arwain at ganlyniadau cymwysterau haf 2024, fe wnaethon ni:
gyhoeddi tudalen we bwrpasol ar gyfer canlyniadau haf 2024 - a ddiweddarwyd gennym drwy gydol cyfnod y canlyniadau - cynnal sesiwn friffio ar y cyfryngau i ddarparu cyd-destun ychwanegol i newyddiadurwyr ac i gefnogi eu hadroddiadau ar ddiwrnod canlyniadau
- cynhyrchu datganiadau i’r cyfryngau a gyhoeddwyd i newyddiadurwyr ar fore’r canlyniadau
- cyfeirio at le gallai dysgwyr, rhieni a gofalwyr ddod o hyd i gymorth ychwanegol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
- datblygu fideos yn llongyfarch dysgwyr ar eu canlyniadau, gyda neges bersonol gan ein Prif Weithredwr a’n Cadeirydd
Gwnaethom hyrwyddo ein canllaw i ddysgwyr i arholiadau ac asesiadau drwy gydol y flwyddyn academaidd, gyda dros 400 o lawrlwythiadau o’r adnodd hwn.
Ar ddiwrnodau canlyniadau TGAU ac UG a Safon Uwch, fe wnaethon ni gyhoeddi:
- adolygiad o gyfres arholiadau haf 2024 ar gyfer cymwysterau cyffredinol
- adolygiad o gyfres arholiadau haf 2023 ar gyfer cymwysterau galwedigaethol
- canllaw canlyniadau haf 2023 – UG a Safon Uwch
- canllaw canlyniadau Haf 2023 - TGAU
Roedd y cyhoeddiadau hyn yn rhoi darlun manwl o ganlyniadau cenedlaethol, yn egluro ein gwaith drwy gydol y flwyddyn i oruchwylio pob agwedd ar y system gymwysterau, ac yn nodi ystyriaethau a meysydd ffocws yn y dyfodol.
Er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael mynediad at yr wybodaeth angenrheidiol, gwnaethon ni rannu’r adroddiadau a’r ffeithluniau cysylltiedig yn uniongyrchol gyda chanolfannau a rhanddeiliaid allweddol eraill gyda dolenni i’r adroddiadau a’r ffeithluniau a rennir a’r adroddiadau eu hunain.
Cafodd y rhain eu hyrwyddo’n helaeth hefyd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein cyfarfodydd ymgysylltu â rhanddeiliaid rheolaidd ac ymweliadau â chanolfannau.
Yn ein negeseuon diwrnodau canlyniadau, fe wnaethon ni bwysleisio bod derbyn canlyniadau yn garreg filltir bwysig i ddysgwyr, a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu camau nesaf. Fe wnaethon ni bwysleisio hefyd, p’un ai yw dysgwyr wedi cyflawni’r canlyniadau dymunol ai peidio, bod yna gamau nesaf i’w cymryd bob amser.
Roedd y negeseuon cadarnhaol hyn yn hanfodol wrth rymuso pob dysgwr i barhau i symud ymlaen yn eu teithiau addysgol neu yrfa ac i deimlo’n hyderus am eu dyfodol.
Cefnogi arholiadau ac asesiadau
“Dyma fy nhrydedd flwyddyn fel swyddog arholiadau ac rwy’n gwybod na fyddwn yn teimlo mor hyderus na gwybodus oni bai am yr adnoddau, y cyfarfodydd a’r cyngor a ddarparwyd gan Cymwysterau Cymru.
Mae’r sesiynau ar-lein yn benodol, wedi bod yn amhrisiadwy, gan y gall gwaith swyddog arholiadau fod yn rôl eithaf unig. Mae mor ddefnyddiol gallu dal i ddefnyddio’r sesiynau hyn i adnewyddu ac atgyfnerthu popeth sydd angen ei wneud yn ystod y flwyddyn academaidd a gallu rhoi a derbyn cyngor gan staff arholiadau eraill yn yr ardal.
Mae’r adnoddau ar wefan Cymwysterau Cymru yn ddefnyddiol iawn ac wedi helpu gyda chymaint, o hyfforddi goruchwylwyr, i sefydlu amserlen o ddigwyddiadau i’w defnyddio fel offeryn i gofio holl gamau’r cylch arholiadau.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y gwasanaeth a byddaf yn parhau i’w ddefnyddio, cyhyd ag y byddaf yn y rôl.”
Cydnabyddiaeth a chydymffurfio
Eleni cawsom dri chais llawn gan sefydliadau sydd am ddod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig. Yn dilyn asesiad yn erbyn ein meini prawf cydnabod, mae Focus Awards ac RLSS UK Qualifications bellach yn gyrff dyfarnu cydnabyddedig yng Nghymru. Mae’r cais arall yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Cawson ni hefyd ddau gais rhagarweiniol gan sefydliadau sy’n dymuno cael eu cydnabod yng Nghymru. Cafodd un cais ei dynnu’n ôl ac nid yw wedi’i ailgyflwyno eto. Dychwelwyd yr ail gais rhagarweiniol i’r ymgeisydd yn gofyn am ddogfennaeth ychwanegol.
Mae ein gwaith rheoleiddio yn canolbwyntio ar gydymffurfedd a hyfywedd parhaus cyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru. Mae hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod cyrff dyfarnu yn dyfarnu cymwysterau dilys sy’n cefnogi dysgwyr i symud ymlaen ar eu taith ddysgu, gydymffurfedd.
Bob blwyddyn, mae cyrff dyfarnu cydnabyddedig yn rhoi hunanasesiad blynyddol i ni o’u cydymffurfedd â’n hamodau cydnabod safonol.
Er mwyn lleihau’r baich rheoleiddio ar gyrff dyfarnu, cynhaliwyd datganiad cydymffurfio 2023 fel ymarfer ar y cyd ag Ofqual a CCEA Regulation, ein cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Roedd tri llwybr ymholi allweddol:
• sefydlogrwydd sefydliadol
• atal ac ymdrin â chamymddwyn a chamweinyddu
• gallu a’r ddawn i ddatblygu a chynnal cymwysterau
Eleni cawsom 90 o ddatganiadau cydymffurfio. Ildiodd un corff dyfarnu ei gydnabyddiaeth yn ystod y broses a datganodd 14 arall ddiffyg cydymffurfio ar hyn o bryd neu yn y dyfodol.
Gwnaeth dau gorff dyfarnu ddatganiadau diffyg cydymffurfio sy’n benodol gymwys i Gymru yn unig. Roedd un yn ymwneud â gweithgarwch dyfarnu yng Nghymru a’r llall yn ymwneud â chydymffurfio â’n gofynion wedi’u diweddaru i gyrff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Roedd tri chorff dyfarnu a ildiodd eu statws cydnabyddedig yn ystod y flwyddyn – y Sefydliad Siartredig Adeiladu, y Sefydliad Cyfrifwyr a Cheidwaid Cyfrifon, ac IQL UK Limited.
Rydym wedi parhau i fonitro hyfywedd ariannol cyrff dyfarnu i geisio sicrwydd am eu cynaliadwyedd ac i sicrhau y bydd dysgwyr yn peidio â bod dan anfantais.
Nifer y Cyrff Dyfarnu cydnabyddedig
Monitro
Dechreuodd ein gwaith o fonitro cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch eleni, cymwysterau’r Dystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru yn 2022, pan wnaethon fonitro sampl fach o brosesau cynhyrchu papurau arholiad CBAC.
Gwnaethon ni ganolbwyntio ein gwaith monitro haf ar y prosesau safoni, mewn pynciau â chofrestriadau mawr, neu mewn pynciau mwy newydd, fel technoleg ddigidol.
Cawson ni arolwg ar ein platfform ymgysylltu Dweud Eich Dweud, i gasglu adborth gan ddysgwyr ac athrawon a darlithwyr yn ystod cyfres arholiadau’r haf. Cynyddodd ymgysylltiad cyffredinol tua 25% ers y llynedd, ond nid amlygwyd unrhyw faterion neu broblemau mawr i achosi’r cynnydd hwn.
Buom yn monitro cyfarfodydd dyfarnu TGAU, UG a Safon Uwch CBAC yn yr haf.
Wrth fonitro cymwysterau galwedigaethol gwelwyd dychweliad llawn i drefniadau asesu cyn-bandemig, gyda nifer cyfyngedig yr addasiadau a oedd yn parhau i fod ar waith ar gyfer 2022—23 yn cael eu dileu.
Rydym wedi parhau i fonitro’n agos y cyfresi o gymwysterau galwedigaethol newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, ochr yn ochr ag adeiladu a gwasanaethau adeiladu. Roedd ein gwaith monitro’n canolbwyntio ar unrhyw unedau newydd, neu’r rheini a oedd â newidiadau sylweddol o ran dull gweithredu, a chymwysterau a oedd ar gael i’w haddysgu gyntaf o 2022 ymlaen.
Ni welsom unrhyw bryderon sylweddol ynghylch y prosesau sydd ar waith i gefnogi asesu a dyfarnu’r cymwysterau hyn yn effeithiol.
Rydyn ni wedi cydweithio â’n rheoleiddwyr cymwysterau yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon i leihau’r baich rheoleiddio ar gyrff dyfarnu. Gwnaethon ni gyfarfod ag Ofqual a CCEA Regulation bob pythefnos drwy gydol y flwyddyn i drafod a chytuno ar ddulliau polisi ac i rannu risgiau a materion sydd wedi effeithio ar gymwysterau galwedigaethol a gaiff eu hastudio yn
y tair gwlad.
Digwyddiadau
Rhaid i gyrff dyfarnu ein hysbysu am unrhyw ddigwyddiadau a allai arwain at effeithiau andwyol i ddysgwyr neu sy’n bygwth uniondeb cymwysterau a reoleiddir.
Gwnaethon ni fonitro materion a allai godi mewn unrhyw gyfres asesu, megis gwallau mewn deunyddiau asesu a thoriadau diogelwch posibl o ddeunydd asesu. Eleni cawson ni nifer is o ddigwyddiadau nag yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Fodd bynnag, roedd y nifer eleni yn uwch nag mewn unrhyw flwyddyn cyn 2022-23.
Roedd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau naill ai’n ymwneud â mân faterion neu heb arwain at effaith sylweddol i ddysgwyr. Yn aml roedd digwyddiadau yn ymwneud â materion a ddigwyddodd y tu allan i Gymru ond a allai fod wedi cael effaith ar ddysgwyr yng Nghymru. Lle’r oedd effaith y digwyddiad wedi arwain at effaith andwyol ar ddysgwyr, gwnaethom fonitro’r corff dyfarnu i sicrhau ei fod yn cymryd camau priodol i leihau’r effaith ac amddiffyn buddiannau dysgwyr.
Cwynion
Mynnwn fod gan gyrff dyfarnu weithdrefnau effeithiol i ddelio â chwynion er mwyn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr a chanolfannau godi eu pryderon.
Os na fydd y pryderon hyn yn cael eu datrys, efallai y byddwn ni’r rheoleiddiwr yn ystyried y pryderon.
Eleni fe gawsom 12 o gwynion newydd. O’r rhain, fe wnaethom benderfynu mai dim ond un oedd o fewn cwmpas ein polisi cwynion am gyrff dyfarnu.
Ni chadarnhawyd y gŵyn, gan na ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth i gefnogi honiadau’r achwynydd.
Roedd yr 11 achos arall naill ai y tu allan i’n cylch gwaith i ymchwilio neu heb gael eu hystyried eto, trwy broses gwynion y corff dyfarnu, fel sy’n ofynnol gan ein polisi.
Ni thynnwyd ein sylw at y gŵyn a dderbyniwyd y deliwyd â hi eleni fel datgeliad chwythwr chwiban.
Polisi rheoleiddiol
Mae ein polisïau rheoleiddiol yn amlinellu sut rydym yn cyflawni ein swyddogaethau a’n gweithgareddau rheoleiddiol yn unol â’n pwerau deddfwriaethol.
Cymwysterau cyfrwng Cymraeg
Ym mis Medi 2023, gwnaethon ni ddiweddaru ein hamodau cydnabod safonol i gynnwys amod newydd yn ymwneud â chymwysterau cyfrwng Cymraeg. Mae Amod D9 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi cymwysterau cyfrwng Cymraeg, ac i’r cyrff dyfarnu hynny sydd â chymwysterau sydd ar gael yn y Gymraeg sicrhau eu bod yn hyrwyddo eu hargaeledd ac yn hwyluso mynediad iddyn nhw.
Cafodd cyrff dyfarnu gyfnod o 12 mis i gydymffurfio â’r amod newydd hwn. Mae adolygiad bwrdd gwaith wedi cadarnhau bod datganiadau polisi yn cael eu cyhoeddi ac, yn y rhan fwyaf o achosion mae cyrff dyfarnu yn rhoi eglurder i ganolfannau a defnyddwyr cymwysterau ynghylch argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg. O fis Medi 2024, bydd yn ofynnol i bob corff dyfarnu a reoleiddir ddatgan eu bod yn cydymffurfio ag Amod D9 yn eu datganiad blynyddol o gyflwyniadau cydymffurfio.
Dynodi cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed
Rydym yn parhau i ddatblygu polisi rheoleiddiol i gefnogi’r gwaith o weithredu’r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol yn llwyddiannus. Rhwng mis Chwefror a mis Mai 2024, gwnaethon ni gynnal ymgynghoriad ar ein dull arfaethedig o
ddynodi cymwysterau i bobl ifanc 14 i 16 oed ar y platfform Dweud eich Dweud. Er mwyn sicrhau ystod cynhwysol a dwyieithog o gymwysterau, rydyn ni am
arfer mwy o reolaeth dros y cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed.
Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, cynigiwyd gennym y bydd y cynnig llawn o Gymwysterau Cenedlaethol cymeradwy newydd ar gael o fis Medi 2027 ac yn disodli’r rhan fwyaf o’r cymwysterau cyn-16 eraill a ariennir yn gyhoeddus sydd ar gael ar hyn o bryd.
Bwriad ein polisi yw y byddwn ond yn dynodi cymwysterau sy’n bodloni ein tair egwyddor arweiniol ac nad ydynt yn tanseilio’r Cymwysterau Cenedlaethol.
Pan nad yw cymhwyster yn bodloni ein hegwyddorion arweiniol ac i leihau’r risg o gael gwared ar unrhyw gymwysterau sy’n diwallu anghenion lleiafrif bach o ddysgwyr (er enghraifft, TGAU mewn ieithoedd rhyngwladol lle nad oes Cymhwyster Cenedlaethol cymeradwy ar gael), byddwn yn caniatáu i gyrff dyfarnu wneud cais am eithriad i’n hegwyddorion arweiniol ar y sail ei fod yn gallu bodloni o leiaf un o bum maen prawf posibl.
Bydd cyflawni bwriad ein polisi’n golygu y byddwn ond yn dynodi cymwysterau 14–16 mewn rhai amgylchiadau eithriadol.
Roedd ein hymgynghoriad yn gofyn am farn ar y meini prawf eithrio arfaethedig a’r materion a’r dystiolaeth y dylem
eu hystyried wrth benderfynu a ddylid caniatáu eithriad. Gwnaethom ystyried sylwadau a ddarparwyd gan ymatebwyr ac asesu effeithiau ein cynigion ar grwpiau o randdeiliaid. Gallwch ddarllen ein penderfyniadau yma.
Fframwaith rheoleiddio diwygiedig
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethon ni barhau â’r adolygiad o’n fframwaith a’n dull rheoleiddio ac ystyried sut y gallai adlewyrchu ein gweithgarwch rheoleiddio yn well yn ogystal â darparu ffordd fwy rhyngweithiol a symlach i’n rhanddeiliaid gael mynediad at ein rheolau a’n gofynion rheoleiddiol.
Mae’r broses o adolygu a diwygio ein dull rheoleiddio bellach yn dod i
ben, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i baratoi ar gyfer cyhoeddi yn gynnar yn 2025. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid i alluogi rhanddeiliaid i ymgyfarwyddo â’r ddogfen fframwaith newydd.
Polisi a deddfwriaeth
Fel rheoleiddiwr cyfrifol, rydym wedi parhau i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth yng Nghymru. Rydym yn cyfrannu mewn sawl ffordd wahanol, gan gynnwys ymateb i ymgynghoriadau. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethon ni ddarparu ymatebion i’r ymgynghoriadau ac ymchwiliadau canlynol:
• Llywodraeth Cymru – ymgynghoriad ar strwythur y flwyddyn ysgol
• Llywodraeth Cymru – ymgynghoriad ar reoliadau asesu effaith iechyd
• Llywodraeth Cymru – ymgynghoriad ar addasu manyleb safonau prentisiaethau i Gymru
• UCAS – ymarfer ymgysylltu neilltuo pwyntiau tariff i brentisiaethau
• Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru – ymchwiliad i ddatblygu darpariaeth Gymraeg ôl-16
Drwy ein polisïau rheoleiddio sy’n cefnogi diwygio cymwysterau a diweddaru ein fframwaith a’n dull rheoleiddio, rydym
yn cefnogi cyrff dyfarnu a reoleiddir i ddatblygu cymwysterau cynaliadwy.
Rydym yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol ac yn cyd-fynd â pholisi cyhoeddus a deddfwriaeth berthnasol i sicrhau nad yw’r polisïau yr ydym yn eu rhoi ar waith yn peryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Ymchwil ac ystadegau
Caiff ein penderfyniadau eu llywio gan dystiolaeth a data. Mae ein tîm ymchwil ac ystadegau yn cynhyrchu llawer o’r wybodaeth hon ac yn comisiynu ymchwil annibynnol ychwanegol.
Rydym yn rhannu gwybodaeth am gymwysterau yng Nghymru gydag unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y mae’r system yn gweithio a sut y mae’n perfformio, gan gynnwys:
• llunwyr polisi
• deddfwyr
• gweithwyr proffesiynol addysg a chymwysterau
• dysgwyr
• rhieni a gofalwyr
• y cyfryngau
Cawn ein cefnogi gan ein grŵp cynghori ar ymchwil o arbenigwyr asesu addysgol, sy’n gweithredu fel ffrind beirniadol ac yn rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd.
Cyhoeddiadau ymchwil
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom gyhoeddi nifer o bapurau ymchwil ac adroddiadau. Roedd hyn yn cynnwys ymchwil a gynhaliwyd gennym ni yn ogystal ag astudiaethau a gomisiynwyd gan bobl eraill:
Addasiadau i asesiadau TGAU a Safon UG yn haf 2022
Roedd yr adroddiad hwn yn cofnodi barn sampl o athrawon ar yr addasiadau a wnaed i asesiadau TGAU a Safon Uwch ar gyfer arholiadau haf 2022. Roedd
yr addasiadau hyn yn rhan o’r dull o drosglwyddo yn ôl i drefniadau arferol yn dilyn y pandemig ac fe’u gwnaed gyda’r nod o gefnogi dysgwyr drwy wneud yr asesiadau’n fwy hygyrch.
Cynwysoldeb mewn systemau asesu rhyngwladol
Edrychodd yr astudiaeth gymharu ryngwladol hon ar sut mae cynhwysiant yn cael ei gysyniadoli a’i weithredu mewn systemau asesu ar draws y byd a chanolbwyntiodd ar dair awdurdodaeth i ddarparu mwy o fanylion. Roedd yn amlwg bod cynhwysiant yn gysyniad cymhleth, amlochrog sy’n ddeinamig ac yn esblygu. Mae modelau asesu neu strwythurau cymwysterau gwahanol yn ymateb cyffredin i amrywiaeth yn y boblogaeth er mwyn sicrhau cynhwysiant.
Safonau TGAU yng Nghymru: dulliau o ddiffinio safonau | Cymwysterau Cymru
Comisiynwyd yr ymchwil hon, gan y Ganolfan Asesu Addysgol ym Mhrifysgol
Rhydychen, i’n helpu i ddisgrifio ac egluro sut mae safonau graddio TGAU yn gweithio yn y cyrsiau TGAU presennol yng Nghymru.
Mae’n darparu ffynhonnell o wybodaeth i’n helpu i feddwl am yr heriau o ran trosglwyddo safonau yn y cyrsiau TGAU newydd sy’n cael eu datblygu i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Edrychodd yr ymchwilwyr ar sut mae safonau’n gweithio mewn cyrsiau TGAU yng Nghymru, gan wneud cymariaethau â diffiniadau yn y llenyddiaeth ryngwladol ar
safonau.
Ymchwil i hyder cyhoeddus rhanddeiliaid: cydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant
Fe wnaethon ni gomisiynu’r ymchwil hon fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar faterion yn ymwneud â hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a’r system gymwysterau. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio pwnc penodol –cydraddoldeb, tegwch, a chynhwysiant – a fydd yn parhau’n berthnasol i gymwysterau yn y dyfodol.
Prif amcanion y gwaith hwn oedd archwilio barn rhanddeiliaid ar gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant pan gânt eu cymhwyso i’r system gymwysterau.
Mae ein harolwg barn gyhoeddus diweddaraf, sy’n holi 1000 o oedolion Cymru, yn dangos bod hyder y cyhoedd ac ymwybyddiaeth o gymwysterau yng Nghymru yn parhau i fod yn gyson uchel. Mae’r adroddiad hwn yn darparu canlyniadau ar gyfer arolwg 2023, yn dilyn arolygon blaenorol a gynhaliwyd ers 2017. Roedd tri chwarter yn cytuno bod cymwysterau Safon Uwch a TGAU yn ddibynadwy a’u bod yn baratoad da ar gyfer astudiaeth bellach.
Cyhoeddiadau ystadegol
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi cyfres o ystadegau gan ddefnyddio data a gasglwyd gan y cyrff dyfarnu a Llywodraeth Cymru. Gwnaethon ni barhau i addasu’r cyhoeddiadau o’n hystadegau i ystyried y newid yn ôl i drefniadau graddio arferol. Yn ein datganiad yn disgrifio ceisiadau dros dro ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch yng nghyfres haf 2024, fe wnaethon ni gyflwyno ystadegau sy’n dangos, ar lefel pwnc ac yn gyffredinol, faint o geisiadau
sy’n cael eu gwneud mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
Mae modd darllen ein holl adroddiadau ymchwil a datganiadau ystadegol diweddar ar ein gwefan. Yn dilyn canlyniadau’r haf, cyhoeddwyd
dadansoddiad cydraddoldeb manylach o ganlyniadau TGAU, UG a Safon Uwch.
Rhoddodd hyn fewnwelediad pellach i wahaniaethau yng nghanlyniadau
cymwysterau eleni yn ôl nodweddion dysgwyr.