Mae Cymru yn genedl ddwyieithog a rydym yn falch o fod yn sefydliad sy’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050 i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Rydyn ni’n ymrwymedig i gynyddu ystod ac argaeledd y cymwysterau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael fel bod ein dysgwyr yn gallu astudio cymwysterau yn eu dewis personol o iaith.
Strategaeth y Gymraeg 2025-2030
Mae Strategaeth y Gymraeg 2025–2030 yn dod â’n holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r iaith Gymraeg ynghyd o dan un fframwaith cydlynol.
Mae'n nodi carreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i ymgorffori'r Gymraeg a dwyieithrwydd wrth wraidd y system gymwysterau.
Mae ein Strategaeth y Gymraeg 2025-2030 yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan ein strategaeth flaenorol, Dewis i Bawb. Mae'n adlewyrchu ein rôl esblygol fel rheoleiddiwr a diwygiwr cymwysterau mewn cenedl ddwyieithog.
Mae'r strategaeth wedi ei strwythuro o amgylch pum colofn strategol:
- Diwygio a rheoleiddio cymwysterau cyfrwng Cymraeg
- Ymgorffori'r iaith Gymraeg mewn cyfathrebu ac ymgysylltu
- Integreiddio'r Gymraeg i ddiwylliant a gweithrediadau sefydliadol
- Defnyddio ymchwil, data a thechnoleg i gefnogi'r iaith
- Monitro a gwerthuso cynnydd gyda thryloywder ac atebolrwydd
Mae'r strategaeth hefyd yn amlinellu sut byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid allweddol fel Medr, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyrff dyfarnu i gyflawni'r uchelgeisiau hyn.
Argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg ar QiW
Fel rhan o’n hymrwymiad i hyrwyddo ac i hwyluso’r defnydd o Gymraeg, rydym yn gofyn i gyrff dyfarnu ddarparu gwybodaeth am argaeledd cymwysterau, boed hynny’n rhannol neu’n gyfan gwbl trwy’r Gymraeg. Mae’r wybodaeth hon ar gael drwy ein cronfa ddata QiW.
Chwilio'r gronfa ddata QiW
Cynnig Cymraeg
Fel rhan o’n gwaith i gryfhau’r cymorth ar gyfer cyrff dyfarnu ac i wella’r wybodaeth sydd ar gael i ddysgwyr, ysgolion a cholegau am argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg, rydyn ni wedi cynhyrchu pecyn o adnoddau rhyngweithiol i gefnogi’r holl gyrff dyfarnu i ddarparu’r Cynnig Cymraeg – cynnig cyfrwng Cymraeg gweithredol mewn modd rhagweithiol.
Mae’r pecyn yn annog cyrff dyfarnu i ddarparu gwybodaeth benodol i ddysgwyr am gymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac i hyrwyddo a hysbysebu cymwysterau cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr Cymru.
Grant cymorth i’r Gymraeg
Rydym hefyd yn cefnogi cyrff dyfarnu trwy gynnig grantiau i’w helpu i gynyddu nifer y cymwysterau ac asesiadau sydd ar gael yn Gymraeg.
Gall cyrff dyfarnu cydnabyddedig wneud cais i ni am gefnogaeth ariannol i helpu gyda chostau gwneud cymwysterau rheoleiddiedig ar gael i ddysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Aseswyr Cymraeg
Rydym hefyd yn cydnabod bod penodi a hyfforddi aseswyr Cymraeg o ansawdd uchel yn allweddol i sicrhau y gall cymwysterau dilys a dibynadwy gael eu dyfarnu i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg.
Dyma pam rydym yn cefnogi Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB) gyda’u gwaith o greu cronfa ddata o aseswyr Cymraeg.
Os ydych chi’n ymarferydd sydd â sgiliau Cymraeg hyderus a diddordeb mewn ymgymryd â rôl daledig fel aseswr Cymraeg, gallwch ymuno â’r gronfa ddata.
Os ydych chi’n gorff dyfarnu sy’n chwilio am aseswyr Cymraeg i’w penodi i rolau o fewn eich sefydliad, gallwch gysylltu â FAB.
Gofynion rheoleiddio
Mae Amod D9 o'n Hamodau Cydnabod Safonol yn amlinellu ein Hamodau a'n gofynion ar gyfer cyrff dyfarnu cydnabyddedig ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Yn benodol, mae gofyn i gyrff dyfarnu:
- sicrhau bod cymwysterau Cymeradwy ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- sicrhau bod cymwysterau Dynodedig i ddysgwyr cyn-16 ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â'n Polisi Dynodi, o fis Medi 2027 (neu unrhyw ddyddiad a gaiff ei osod gennym ni)
- cyhoeddi datganiad polisi sy'n nodi i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- hyrwyddo argaeledd unrhyw gymwysterau cyfrwng Cymraeg y maen nhw’n eu cynnig a hwyluso mynediad i’r cymwysterau hyn.
I gefnogi cydymffurfiaeth â’r gofynion rheoleiddiol hyn, rydym wedi cyhoeddi Canllawiau i gyrff dyfarnu ar Amod D9: Cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Grwpiau ymgynghori
Grŵp Rhanddeiliaid Cymraeg
I gefnogi ein gwaith mewn perthynas â’r Gymraeg a chymwysterau cyfrwng Cymraeg, rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd â’n Grŵp Rhanddeiliaid Cymraeg. Pwrpas y grŵp hwn yw gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’, trwy ddarparu cyngor a chymorth ar ein gwaith. Rydym hefyd yn rhannu diweddariadau perthnasol gyda’r grŵp hwn ac yn ceisio eu hadborth lle bo’n briodol.
Grŵp Cymorth Cymraeg Cyrff Dyfarnu
Rydym hefyd yn cynnal ein Grŵp Cefnogi Cyrff Dyfarnu gyda’r Gymraeg. Pwrpas y grŵp hwn yw cefnogi cyrff dyfarnu gyda datblygu, darparu a dyfarnu cymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Ymunwch â ni
Os ydych chi’n gorff dyfarnu â diddordeb mewn ymuno, cysylltwch â: grwpcymorthcymraeg@cymwysterau.cymru

