Yn benodol, bydd yr adolygiad a datblygiad parhaus y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer y sector yn rhoi sylfaen dystiolaeth wedi'i diweddaru ar ofynion y gweithlu a chymhwysedd galwedigaethol.  

Ar yr un pryd, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn adolygu safonau proffesiynol a disgwyliadau cysylltiedig o ran y gweithlu. Gall canlyniad y gwaith hwn fod â goblygiadau i'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiad a ddisgwylir gan ymarferwyr a staff cymorth, ac felly ar gyfer y cymwysterau sy'n cefnogi mynediad a chynnydd yn y sector. 

Bydd gohirio'r adolygiad yn caniatáu i'r gwaith hwn ddod i ben, gan sicrhau y bydd unrhyw adolygiad yn y dyfodol yn cael ei lywio gan y safonau galwedigaethol a phroffesiynol diweddaraf, yn osgoi dyblygu ymdrechion, ac yn arwain at argymhellion sy'n berthnasol, yn gydlynol ac yn gynaliadwy i ddysgwyr, ymarferwyr a chyflogwyr yng Nghymru. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac i fonitro datblygiadau fel ein bod mewn sefyllfa dda i ailddechrau'r adolygiad unwaith y bydd y dirwedd allanol yn gliriach. 

Os hoffech gymryd rhan yn yr adolygiad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol gydag Instructus cwblhewch y arolwg hwn.

Larisa Puk Rheolwr Safonau a Chymwysterau: larisa.puk@instructus.org