Cyflwyniad
Cymwysterau Cymru yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau heblaw rhai lefel gradd yng Nghymru sy’n cael eu cynnig gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru.
Bwriad ein blaenoriaethau strategol yw creu system gymwysterau gryfach, fwy cadarn a mwy gwydn sy'n bodloni anghenion cenedlaethau'r dyfodol.
Dyma'r themâu allweddol sy'n sail i'n gwaith dros y blynyddoedd nesaf:
- ffocws Gwneud-i-Gymru – gan gynnwys sicrhau cynnig cynaliadwy o gymwysterau dwyieithog o ansawdd uchel
- mabwysiadu ffordd ddeinamig, esblygol o ymdrin â chymwysterau fel eu bod yn parhau i fod yn gyfoes ac yn berthnasol i gymdeithas fodern
- rheoli newid ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ofalus er mwyn hybu ymrwymiad a chyflawni diwygiadau llwyddiannus
- defnyddio ein dylanwad i hyrwyddo dulliau asesu modern ac arloesol
- sicrhau bod lles dysgwyr yn ganolog i’n penderfyniadau.
Ennill cydnabyddiaeth
Gall cyrff dyfarnu sy'n cynnig cymwysterau heblaw graddau ddewis cael eu cydnabod gan Cymwysterau Cymru.
Os ydych chi am i ni reoleiddio'ch holl gymwysterau neu rai ohonyn nhw, bydd angen i chi wneud cais i fod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig.
Mae'r Llawlyfr Cydnabod yn nodi'r gofynion y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni cyn y gall ennill statws cydnabyddiaeth gan Cymwysterau Cymru. Mae ein llawlyfr hefyd yn cynnwys rheolau ar gyfer cyrff dyfarnu ceisio cydnabyddiaeth i ddyfarnu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 fel a chymwysterau TGAU a/neu TAG cyfredol.
Nodwch: Os ydych yn gorff dyfarnu ac yn dymuno ceisio cydnabyddiaeth i ddyfarnu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 a/neu gymwysterau TGAU a/neu TAG cyfredol, rhaid i chi wneud cais am gydnabyddiaeth gyffredinol yn gyntaf.
Rydyn ni wedi datblygu hwb pwrpasol a llinell amser a siart llif ar gyfer y cyrff dyfarnu hynny sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gydnabyddiaeth i gyflwyno'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd a ddaw i rym yn 2027 (TAAU, Cymwysterau Sylfaen, a'r Gyfres Sgiliau).
Manteision dod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig:
- mae cydnabyddiaeth yn rhoi hyder i ddefnyddwyr cymwysterau bod gan eich sefydliad y gallu a'r cymhwysedd i ddatblygu a chynnig cymwysterau o ansawdd uchel
- byddech chi’n gallu ceisio am ddynodiad neu gymeradwyaeth ar gyfer eich cymwysterau, gan eu gwneud nhw’n gymwys i'w defnyddio ar raglenni dysgu a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus ar gyfer dysgwyr dan o 19 oed
- bydd eich cymwysterau'n cael eu rhestru ar gronfa ddata QiW - adnodd pwysig i'r rhai sydd am ddod o hyd i gymhwyster addas
- mae tystysgrifau ar gyfer cymwysterau rheoleiddiedig yn cynnwys logo Cymwysterau Cymru.
Noder: dim ond cymwysterau heblaw graddau rydyn ni’n eu rheoleiddio ac nid ydyn ni’n rheoleiddio cyrsiau hyfforddi na darparwyr hyfforddiant.
Fframwaith Rheoleiddiol a'n Dull Gweithredu
Rydym yn edrych tuag at allan, felly rydym yn ymgysylltu, yn cyfathrebu ac yn cydweithredu er mwyn atgyfnerthu ein gallu i roi hwb i hyder y cyhoedd yn y system gymwysterau yng Nghymru ac i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.
Wrth gyflawni ein dyletswyddau rheoleiddio rydym yn:
- gwahodd dysgwyr i roi eu safbwyntiau, yn gwrando arnynt ac yn ymateb iddynt
- gwrando ar adborth, safbwyntiau a phryderon rhanddeiliaid ac yn ymateb iddynt yn briodol
- sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau rheoleiddio ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gymesur ag effaith bosibl y camau gweithredu rheoleiddio
- cynnal ymgynghoriadau mewn ffordd dryloyw ac ystyrlon
- cydweithredu ac yn defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd rhanddeiliaid fel sy'n briodol
- ceisio meithrin a chynnal cydberthnasau effeithiol â rhanddeiliaid allweddol
- cyhoeddi cyfathrebiadau clir, amserol, sydd yn llawn gwybodaeth ac wedi'i dargedu
- adolygu effaith ein gwaith cyfathrebu ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella'r ffordd rydym yn gwneud hynny
- gweithio gyda rheoleiddwyr eraill lle bynnag y bo'n bosibl gan ystyried yr effaith ar gyrff dyfarnu a reoleiddir gan fwy nag un rheoleiddiwr
- cynnal asesiadau effaith rheoleiddio os ydynt yn briodol er mwyn asesu'r gost, y manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â pholisi neu gam gweithredu
Mae ein Fframwaith Rheoleiddiol a'n Dull Gweithredu yn nodi'n fanwl sut rydym yn ymgymryd â'n gwaith rheoleiddio.
Cymeradwyo cymwysterau
Gall Cymwysterau Cymru gymeradwyo cymwysterau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.
Mae'r Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol yn cael ei pharatoi ar y cyd rhwng Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru gan nodi cymwysterau y cytunwyd arnynt fel rhai blaenoriaethol i'w cymeradwyo ar amser penodol.
Gall y rhain gynnwys cymwysterau y mae meini prawf cymeradwyo penodol wedi'u datblygu ar eu cyfer i ddiwallu anghenion dysgwyr Cymru. Gallai’r anghenion hynny, er enghraifft, fod yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru neu â gofynion penodol economi Cymru a chyflogwyr.
Mae'r Rhestr o Gymwysterau Blaenoriaethol hefyd yn ceisio nodi cymwysterau y gellir eu cynnwys ar y rhestr wrth symud ymlaen. Mae hyn yn galluogi datblygiad cynnar y meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn a gall roi rhybudd i chi o flaenoriaethau'r dyfodol.
Mae gennym hefyd y pŵer i benderfynu y dylai rhai cymwysterau ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol gael eu cyfyngu i uchafswm nifer o fersiynau y gellir eu cymeradwyo ar unrhyw un adeg.
Dynodi cymwysterau
Gall Cymwysterau Cymru hefyd ddynodi cymhwyster fel cymhwyster sy’n gymwys i’w ddefnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed.
Mae dynodi’n golygu ein bod ni’n rheoleiddio'r corff dyfarnu sy'n cynnig y cymhwyster a’n bod yn fodlon ei bod yn briodol i'r cymhwyster gael ei gynnig ar gyrsiau sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus i bobl ifanc.
Mae ein Llawlyfr Dynodi yn cyfuno’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol:
- Polisi Dynodi
- Rheolau ynghylch Ceisiadau am Ddynodi Cymwysterau
- Canllaw i Ddynodi Corff Dyfarnu
Yn gynwysedig yn ein Llawlyfr Dynodi mae'r broses y byddwn yn ei dilyn i Ddynodi Cymwysterau Cenedlaethol 14-16.
Proses fonitro
Ein nod yw sicrhau bod ein gweithgareddau monitro yn dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson, ac wedi'u targedu at gyrff dyfarnu sy'n peri'r risg uchaf i'r system gymwysterau yng Nghymru.
Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau monitro i fonitro cyrff dyfarnu yn erbyn ein Hamodau Cydnabod Safonol - gan gynnwys:
- cyfarfodydd diweddaru rheoleiddio
- datganiad cydymffurfiaeth
- gweithgareddau monitro dilynol y datganiad cydymffurfiaeth
- archwiliadau rheoleiddiol.
Rydyn ni’n rhoi digon o rybudd i gyrff dyfarnu am ein gweithgareddau monitro ac yn darparu'r wybodaeth baratoadol angenrheidiol. Os byddwn yn nodi diffygion gyda chyrff dyfarnu unigol, byddwn yn ysgrifennu atynt i dynnu sylw at ein pryderon ac yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gymryd camau priodol.
Cymwysterau cyfrwng Cymraeg
Yn Cymwysterau Cymru rydyn ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg, ac i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Mae Cymru yn genedl ddwyieithog a chanddi uchelgais gref i gynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg. Mae ein strategaeth Dewis i Bawb yn nodi’n glir ein hymrwymiad i’r Gymraeg a’n nod i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Ers i ni lansio ein strategaeth Dewis i Bawb yn 2020 - sy'n anelu at gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg - rydyn ni wedi bod yn glir bod angen rhannu gwybodaeth am y cymwysterau hyn yn eang a sicrhau ei bod ar gael yn hawdd.
Gofynion rheoleiddio
Mae Amod D9 o'n Hamodau Cydnabod Safonol yn amlinellu ein Hamodau a'n gofynion ar gyfer cyrff dyfarnu cydnabyddedig ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Yn benodol:
- rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Cymeradwy ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Dynodedig i ddysgwyr cyn-16 fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â'n Polisi Dynodi, o fis Medi 2027 (neu unrhyw ddyddiad a gaiff ei osod gennym ni)
- mae'n ofynnol i bob corff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi sy'n nodi i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- pan fo corff dyfarnu yn sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iddo hyrwyddo argaeledd y cymwysterau hynny a hwyluso mynediad atyn nhw
Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth â’r gofynion rheoleiddio hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi Canllawiau i gyrff dyfarnu ar Amod D9: cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Bydd cyflawni ein nod strategol yn parhau i ofyn am gydweithio agos a chydgysylltu polisi ar draws amrywiaeth eang o randdeiliaid. Rydyn ni wedi ymrwymo i gydweithio â chyrff dyfarnu nid yn unig i'w cefnogi i gydymffurfio â'n rheolau ond hefyd i gryfhau eu gallu i gyflawni'r Cynnig Cymraeg.
Yn rhan o'n gwaith o gryfhau'r cymorth i gyrff dyfarnu a gwella'r wybodaeth sydd ar gael i ddysgwyr, ysgolion, a cholegau am argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg, rydyn ni wedi cynhyrchu pecyn adnoddau rhyngweithiol i gefnogi'r holl gyrff dyfarnu i ddarparu’r Cynnig Cymraeg - y Cynnig Gweithredol, mewn modd rhagweithiol.
Cymwysterau cynhwysol
Mae Cymwysterau Cymru a CCEA Regulation wedi cynhyrchu canllawiau ar y cyd ar sut y gellir dylunio cymwysterau i roi'r cyfleoedd tecaf posib i bob dysgwr ddangos yr hyn y maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.
Gall ystyried mynediad teg yn gynnar wrth ddylunio cymhwyster neu asesiad helpu i leihau’r angen am addasiadau neu addasiadau dilynol. Er mwyn cael mwy o fanylion, darllenwch ein canllaw Mynediad Teg trwy Ddylunio.
Cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru
Gall corff dyfarnu cydnabyddedig wneud cais i gymeradwyo neu ddynodi cymwysterau yng Nghymru. I wneud hynny, rhaid ichi greu a chyflwyno cymhwyster ar ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW).
Byddwn ni’n ystyried cymeradwyo cymhwyster os bydd ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol, neu os yw'n cyd-fynd â'r polisi ar gymeradwyo cymwysterau nad ydynt yn flaenoriaethol; fel arall, byddwn ni’n ystyried ei ddynodi.
Fforwm i Gyrff Dyfarnu 2024
Rydym yn trefnu fforwm blynyddol ar gyfer cyrff dyfarnu lle rydym yn rhoi blas o'n gwaith a'n blaenoriaethau allweddol.
Wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer cyrff dyfarnu cydnabyddedig, nod ein fforwm diweddaraf oedd darparu mwy o wybodaeth am ddatblygiadau parhaus yng Nghymru.
Mae holl sleidiau fforwm y cyrff dyfarnu eleni ar gael ar ein platfform ymgysylltu, Dweud Eich Dweud
Gohebiaeth
Cliciwch yma i weld yr holl lythyrau diweddar a anfonwyd at Swyddogion Cyfrifol, Penaethiaid Canolfannau a rhanddeiliaid eraill.
Cyflwyniadau Data
Rydym yn casglu data gan cyrff dyfarnu cydnabyddedig at ddibenion monitro ac er mwyn cynhyrchu ystadegau swyddogol . Mae gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer cyflwyno data ar gael ar ein tudalen cyflwyniadau data Cyflwyniadau Data | Cymwysterau Cymru
Defnyddio Logo Cymwysterau Cymru ar Dystysgrifau
Mae’r ddogfen isod yn egluro sut a phryd dylai eich sefydliad dyfarnu ddefnyddio ein logos ar dystysgrifau sy’n cael eu rhoi i ddysgwyr.
Dylai logos Cymwysterau Cymru gael eu defnyddio ar dystysgrifau ar gyfer unrhyw gymwysterau sy’n cael eu rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru.