NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

11.03.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Canllaw i ddysgwyr ar arholiadau ac asesiadau 2024-2025

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr wrth iddyn nhw baratoi i sefyll eu harholiadau a'u hasesiadau.

Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gallu bod yn gyfnod prysur, a bydd gan lawer gwestiynau am y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau eleni. Dyna pam rydyn ni wedi creu canllaw wedi’i ddiweddaru ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, sydd wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr i ddeall sut bydd eu harholiadau a’u hasesiadau’n gweithio. Mae'r canllaw’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys:   

  • dyddiadau pwysig i’w cofio 
  • gwybodaeth am raddio   
  • gwybodaeth am y camau nesaf ar ôl diwrnod canlyniadau  
  • dolenni i wefannau defnyddiol lle gall dysgwyr gael awgrymiadau adolygu, canllawiau lles a chymorth arall.  

Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol i chi wrth i chi gwblhau eich cymwysterau.  

Rydyn ni i gyd yn Cymwysterau Cymru yn dymuno pob lwc i chi yn eich arholiadau a’ch asesiadau eleni.  

Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth a darllen y canllaw yma