Adolygiad o ganlyniadau cymwysterau galwedigaethol hwyr
Roedd rhai achosion yr haf hwn lle nad oedd dysgwyr a oedd yn disgwyl canlyniadau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol yn eu derbyn mewn pryd.
Fel y gwyddoch efallai, roedd rhai achosion yr haf hwn pan nad oedd dysgwyr a oedd yn disgwyl canlyniadau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol wedi’u derbyn ar amser.
Mae Ofqual wedi cychwyn adolygiad llawn o'r rheswm pam y bu oedi gyda rhai canlyniadau fel y gallwn ddeall yn llawn y ffactorau a allai fod wedi cyfrannu at hyn. Bydd yr adolygiad hwn yn llywio argymhellion i atal oedi rhag digwydd eto.
Ofqual sy'n arwain yr adolygiad ar ran y rheoleiddwyr yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ac maent yn galw am dystiolaeth gan bob ysgol a choleg. Mae Ofqual wedi cysylltu ag ysgolion a cholegau yng Nghymru yn uniongyrchol gyda dolen i arolwg ar-lein ar gyfer canolfannau yr effeithir arnynt gan oedi canlyniadau. Bydd y wybodaeth a gyflwynir gan ysgolion a cholegau drwy'r arolwg yn helpu i lywio canfyddiadau'r adolygiad.
Rydym yn annog pob canolfan yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan y materion yr haf hwn i ymgysylltu â’r arolwg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar ymholiadau@cymwysteraucymru.org