Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o’r cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i ddysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru ac argymhellion i weinidogion Cymru.
Rydym yn falch o fod wedi gallu gweithredu mewn rôl ymgynghorol yn yr adolygiad pwysig yma ac rydym yn croesawu cyhoeddi y canfyddiadau.
Mae’n galonogol gweld cymwysterau galwedigaethol yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn eu haeddu a bod yr adroddiad yn tynnu sylw at gryfderau a manteision ein dull o adolygu cymwysterau o’r fath.
Rydym eisoes yn gweithio ar lawer o’r argymhellion a amlinellwyd yn yr adolygiad, a byddwn yn parhau i wneud hynny, wrth diwygio cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed.
Byddwn nawr yn ystyried y canfyddiadau’n llawn ac yn ystyried sut y gallant helpu i lywio ein cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru: adroddiad