Trosolwg o ganlyniadau Ionawr 2023
Da iawn i holl ddysgwyr Cymru a dderbyniodd eu canlyniadau gan CBAC heddiw, ar gyfer arholiadau mis Ionawr. A diolch i'r holl ysgolion, colegau a chanolfannau eraill a weithiodd yn galed i gyflwyno'r gyfres arholiadau hon.
Roedd cyfres arholiadau Ionawr 2023 yn cynnwys arholiadau unedau ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Saesneg a TGAU Llenyddiaeth Gymraeg, cyfle ailsefyll olaf ar gyfer TGAU TGCh, Tystysgrifau Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru a rhai cydrannau o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a 3 a chymwysterau Gofal Plant Lefel 2 a 3.
Fel rhan o’n rôl fel rheoleiddiwr cymwysterau Cymru, buom yn monitrosut roedd CBAC yn cyflwyno’r gyfres hon, a’r dull a ddefnyddiwyd i ddyfarnu graddau yn y cyd-destun presennol. Rydyn ni’n hyderus y dilynwyd prosesau y cytunwyd arnynt a bod y graddau a ddyfarnwyd mor deg â phosibl i ddysgwyr.
Mae’r rhan fwyaf o ganlyniadau cyfres mis Ionawr ar lefel uned ac nid ydynt yn cael eu cyhoeddi. Cyhoeddodd CBAC ganlyniadau unrhyw gymwysterau cyfan ar gyfer cyfres arholiadau Ionawr 2023 yng Nghymru ar ei wefan heddiw.