BLOG

Cyhoeddwyd:

23.04.26

Archwilio'r defnydd o realiti rhithwir mewn asesiadau

Mae Rheolwr Cymwysterau, Nathan Evans, yn trafod sut mae ein tîm moderneiddio asesu yn archwilio defnyddio realiti rhithwir i greu arholiadau mwy dilys.

Mae realiti rhithwir yn cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer trochi a rhyngweithio. Mae wedi cael ei ddefnyddio i wella meysydd cyfathrebu digidol, meddalwedd ryngweithiol a gwylio ffilmiau – ond beth allai ei gynnig i asesiadau cymwysterau? 

Fel rheoleiddiwr cymwysterau, rydyn ni’n archwilio'n barhaus y ffyrdd gorau o asesu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dysgwyr mewn unrhyw bwnc penodol er mwyn cynyddu dilysrwydd y canlyniadau a ddyfernir. Fel rhan o'r gwaith hwn, rydyn ni wedi ymuno â Node XR a Choleg Cambria i ymchwilio sut y gall realiti rhithwir gefnogi arddangosiadau mwy dilys ac ystyrlon o wybodaeth a sgiliau dysgwyr.

Pam mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnig achos prawf da

Dechreuon ni gyda chwestiwn syml: ydy technolegau trochi yn gallu helpu wrth asesu sgiliau cymhleth mewn ffordd sy'n teimlo'n agosach at ymarfer go iawn? 

Roedd iechyd a gofal cymdeithasol yn ffocws naturiol, gan ei fod yn faes lle mae rhyngweithio dynol ac anghenion cymhleth unigolion yn ganolog i asesu effeithiol. Mae asesiadau traddodiadol yn ei chael hi'n anodd dal naws cyfathrebu, empathi a barn broffesiynol sy'n ofynnol yn y rolau hyn. Trwy ddefnyddio realiti rhithwir, gellir gosod dysgwyr mewn senarios realistig sy'n adlewyrchu heriau a manylion ymarfer bywyd go iawn, gan ganiatáu iddyn nhw arsylwi ac ymateb mewn amgylcheddau sy'n afaelgar ac yn ddilys. Mae'r dull hwn yn cynnig cyfle ystyrlon i ddylunio asesiadau sy'n adlewyrchu realiti gofalu am unigolion ag anghenion amrywiol a chymhleth, gan symud y tu hwnt i gyfyngiadau dulliau confensiynol.

Roedd y prosiect hwn hefyd yn gyfle i ddal senario wedi'i siapio nid yn unig gan ymarferwyr, ond hefyd gan bobl â phrofiad go iawn. Bu gwirfoddolwyr o Grŵp Safonau Gwasanaethau Wrecsam (SWS), grŵp eiriolaeth lleol sy'n cynnwys unigolion sy'n byw gydag anableddau, yn gweithio gyda ni i helpu siapio'r senario a chymryd rhan yn y broses ddatblygu. Roedd eu cyfranogiad yn sicrhau bod y rhyngweithiadau yn teimlo'n ddilys, yn barchus ac wedi'u seilio ar safbwyntiau o’r byd go iawn.

Yr hyn a greon ni

Fe wnaethon ni ddatblygu fideo 360° trochol yn seiliedig ar sgwrs yn y cyfarfod cyntaf rhwng darparwr gofal ac oedolyn ag anableddau dysgu, a ffilmiwyd yn "set tŷ" domestig y coleg ar y campws. Mae'r senario wedi'i fframio o amgylch y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), gan ganolbwyntio ar:

  • egwyddorion allweddol y Ddeddf
  • trafodaethau sy'n canolbwyntio ar ddeall beth sy'n bwysig i lesiant, canlyniadau a phrofiadau bywyd unigolyn, fel y gellir teilwra gofal a chymorth yn ôl eu hanghenion
  • cynigion gweithredol o eiriolaeth
  • meithrin perthynas yn gynnar

Gweithredodd tiwtor o Goleg Cambria fel y darparwr gofal, tra bod gwirfoddolwr o'r Grŵp SWS yn chwarae rhan defnyddiwr y gwasanaeth, gan helpu i sicrhau bod y rhyngweithio yn adlewyrchu realiti ymarfer.

Ymgorffori asesiad yn y profiad

Mae'r asesiad wedi'i strwythuro fel bod y profiad realiti rhithwir yn cefnogi ymgysylltiad a dilysrwydd. Wrth sefyll yr asesiad, bydd dysgwr yn gweld:

  1. Tudalen lanio gychwynnol sy’n esbonio’r senario a mannau rhyngweithiol sy'n cysylltu â deddfwriaeth berthnasol.
  2. Cwestiynau byr i wirio gwybodaeth, yn cwmpasu elfennau allweddol deddfwriaeth.
  3. Un dangosiad llawn o'r fideo i ddeall y naratif cyflawn heb ymyrraeth.
  4. Ail ddangosiad gyda rhyngweithiadau wedi'u hamseru, lle mae'r fideo yn oedi ar gyfer cwestiynau sy'n seiliedig ar senario.
  5. Cwestiynau myfyriol sy'n caniatáu i ddysgwyr oedi neu ailwylio adrannau er mwyn eu hastudio’n fanylach.


Myfyrdodau ymarferwyr

Dywedodd athrawon a oedd yn rhan o’r project mai cryfder mwyaf arwyddocaol y senario realiti rhithwir oedd ei ddilysrwydd. I lawer o ddysgwyr, yn enwedig ar lefelau 2 a 3, nid yw arsylwi asesiadau gofal go iawn bob amser yn bosibl oherwydd cyfyngiadau diogelu a chydsynio. Roedd realiti rhithwir yn rhoi mynediad at ryngweithiadau realistig, proffesiynol na fyddai modd cael mynediad atynt fel arall.

Nodwyd bod defnyddio unigolion â phrofiad bywyd yn ychwanegu dyfnder a hygrededd i'r senario, gan helpu dysgwyr i ddeall yn well yr agweddau dynol ar ofal sy'n anodd eu cofnodi mewn asesiadau ysgrifenedig yn unig. Ystyriwyd hefyd fod realiti rhithwir yn cynnig amgylchedd diogel a rheoledig, gan ganiatáu i ddysgwyr ymwneud â sefyllfaoedd sensitif heb risg i ddefnyddwyr gwasanaeth go iawn. Nodwyd hefyd fod y math hwn o asesu hefyd yn cynnig manteision o ran hydrinedd gan y gellir ei atgynhyrchu, ei olygu a'i ailddefnyddio unrhyw nifer o weithiau. 

O safbwynt asesu, teimlai athrawon fod y gweithgaredd wedi arwain at ffurf ddilys o asesu, yn cyd-fynd yn agos ag arfer go iawn ac yn galluogi dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau gan gynnwys cyfathrebu, gwrando gweithredol a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth. Fe wnaethan nhw hefyd dynnu sylw at werth realiti rhithwir i ddysgwyr sy'n ystyried asesiadau ysgrifenedig yn heriol, gan gydnabod bod dulliau trochi yn gweithio orau pan gânt eu defnyddio'n ddetholus ac ochr yn ochr â dulliau asesu eraill.

Myfyrdodau dysgwyr

Yn ein blog nesaf byddwn ni’n archwilio barn dysgwyr eu hunain o'r profiad o ddefnyddio'r asesiad realiti rhithwir hwn. Byddwn ni’n rhannu eu hadborth, eu sylwadau, a'r hyn a weithiodd neu na weithiodd yn eu barn nhw. 

Rhowch gynnig ar yr asesiad eich hun

Gall athrawon a dysgwyr roi cynnig ar yr asesiad realiti rhithwir ar gyfrifiadur personol yma.

Os oes gennych unrhyw adborth ar y math hwn o asesiad neu os hoffech chi gymryd rhan mewn projectau ymchwil yn y dyfodol, cysylltwch â'n tîm moderneiddio asesu.