BLOG

Cyhoeddwyd:

20.03.26

Arwyddo'r ffordd i TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain yn y dyfodol

Mae statws a phroffil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn tyfu ledled Cymru, nid yn unig fel ffordd o gyfathrebu ond hefyd fel ffordd o gefnogi cysylltiadau rhwng y cymunedau Byddar a chlywed. Mae hyn yn cael ei enghreifftio gan Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) sy'n mynd trwy'r Senedd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi treulio llawer o amser yn gwrando, yn dysgu, ac yn creu darlun cliriach o sut mae darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain mewn ysgolion yng Nghymru yn edrych ar hyn o bryd - beth yw'r heriau a sut i'w lliniaru. 

I wneud hyn, rydyn ni wedi siarad â nifer o sefydliadau allweddol, wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag Ofqual ynghylch datblygiad TGAU Iaith Arwyddion Prydain yn Lloegr, ac wedi cysylltu â chanolfannau yng Nghymru sydd eisoes yn darparu Iaith Arwyddion Prydain neu sydd wedi'i darparu yn y gorffennol. Yn ogystal, fe wnaethon ni gynnal arolwg yn 2025 i ddeall cynlluniau presennol ysgolion, a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, o amgylch Iaith Arwyddion Prydain; yr heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth addysgu a chynnig cymwysterau ynddi a pha gefnogaeth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Isod rydyn ni’n nodi rhai o'r prif feysydd gwaith y byddwn ni’n canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni ystyried y potensial ar gyfer cyflwyno TGAU gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain yn y tymor hwy. Fel y rheoleiddiwr cymwysterau, rydyn ni’n uniongyrchol gyfrifol am rai agweddau ar y gwaith hwn, tra mewn llawer o achosion eraill bydd ein rôl yn cefnogi sefydliadau eraill wrth iddyn nhw arwain ar feysydd y maen nhw’n uniongyrchol gyfrifol amdanynt.

Dyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei dysgu o fewn y Cwricwlwm i Gymru

Wrth i ysgolion barhau i ddatblygu eu darpariaeth o’r Cwricwlwm i Gymru, byddwn ni’n ymgysylltu'n weithredol â Llywodraeth Cymru ac Estyn i ddeall ar lefel ymarferol sut mae Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion a sut mae arfer yn esblygu dros amser, er enghraifft o ran ymgorffori Iaith Arwyddion Prydain o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu y cwricwlwm. Gan adeiladu ar ein harolwg ysgolion diweddar ar Iaith Arwyddion Prydain, byddwn ni’n cynnal arolwg dilynol yn 2027, a fydd yn ein galluogi i asesu sut mae agweddau, dulliau a chynlluniau ysgolion yn newid.

Cryfhau adnoddau Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer ysgolion

Nododd ein harolwg bwysigrwydd ysgolion yn cael mynediad at ddeunyddiau dysgu Iaith Arwyddion Prydain dwyieithog o ansawdd uchel. Rydyn ni’n gweithio'n agos gydag Adnodd i helpu nodi cyfleoedd i gynyddu nifer yr adnoddau Iaith Arwyddion Prydain sydd ar gael i ysgolion. Ochr yn ochr ag Adnodd, rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau perthnasol eraill fel Signature (corff dyfarnu Iaith Arwyddion Prydain arbenigol) i hwyluso lledaeniad eu hadnoddau Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.

Deall effaith gynnar unedau Sgiliau am Oes

Ym mis Medi 2027, bydd cymwysterau newydd mewn Sgiliau Bywyd a Gwaith ar gael i ganolfannau yng Nghymru. Mae Iaith Arwyddion Prydain yn rhan o unedau Sgiliau Bywyd a byddwn ni’n monitro'r unedau Iaith Arwyddion Prydain yn agos i ddeall sut maen nhw'n gweithio'n ymarferol. Mae'r unedau hyn yn cynnig cyfleoedd strwythuredig i ddysgwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain ymarferol, bob dydd, o Lefel Mynediad i Lefel 2, ac maen nhw ar gael fel unedau bach o naill ai 10 neu 20 o oriau dysgu dan arweiniad.

Byddwn ni’n casglu data ar nifer yr unedau Iaith Arwyddion Prydain a ddyfernir, a'r lefelau y dyfernir yr unedau hyn arnynt.

Ochr yn ochr â data ardystio, byddwn ni hefyd yn ymweld â chanolfannau i gasglu mewnwelediadau cyfoethocach - gan siarad ag athrawon am eu profiad o gyflwyno'r unedau hyn a sut maen nhw wedi'u hamserlennu, yn ogystal â chlywed gan ddysgwyr am yr hyn a'u denodd at Iaith Arwyddion Prydain ac a ydyn nhw am fynd â hi ymhellach.

Cefnogi gweithlu addysg Iaith Arwyddion Prydain

Gwyddom fod addysgu o safon yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant unrhyw bwnc a bod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar hyfywedd unrhyw TGAU gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain yn y dyfodol. Dyna pam y byddwn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol i ddatblygu a chryfhau gweithlu addysg Iaith Arwyddion Prydain ymhellach.

Cadw’n wybodus am newidiadau Iaith Arwyddion Prydain ledled y DU

Er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu gan eraill, byddwn ni’n parhau i gadw mewn cysylltiad ag Ofqual, CCEA a Qualifications Scotland. Mae hyn yn ein helpu ni i fod yn ymwybodol o unrhyw ddatblygiadau newydd ym maes cymwysterau Iaith Arwyddion Prydain mewn rhannau eraill o’r DU ac i nodi unrhyw arfer da a allai fod o fudd i ddysgwyr yng Nghymru.

Ystyriaethau yn y dyfodol ar gyfer cymhwyster BSL

Gwyddom fod awydd cryf ymhlith rhai rhanddeiliaid i gael TGAU gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain. Rydyn ni hefyd yn ymwybodol o'r heriau ymarferol sy'n atal hyn ar hyn o bryd; yn fwyaf arwyddocaol y diffyg athrawon sydd ag arbenigedd Iaith Arwyddion Prydain a statws athro cymwys. Rydyn ni’n dibynnu ar sefydliadau eraill fel Llywodraeth Cymru i ddarparu'r mewnbynnau perthnasol i fynd i'r afael â'r her benodol hon.

Drwy’r gweithgareddau hyn, byddwn ni’n creu darlun cynhwysfawr o rôl esblygol Iaith Arwyddion Prydain mewn ysgolion. Bydd hyn yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gref i wneud penderfyniad sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pryd mae’r amodau’n iawn i ddatblygu TGAU cynaliadwy, hyfyw, gwneud-i-Gymru.

Cynlluniau ar gyfer gweithgareddau Iaith Arwyddion Prydain

Adnoddau addysgu a dysgu Iaith Arwyddion Prydain

  • Hwyluso cysylltiadau rhwng Adnodd a Signature i ddarparu adnoddau School of Signs a chefnogi cyfieithu ac addasu'r deunyddiau hyn i'r Gymraeg.
  • Archwilio datblygu adnoddau Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer unedau Sgiliau Bywyd Iaith Arwyddion Prydain.

Dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth

  • Ymgysylltu â Dysgu i ddeall sut maen nhw'n ystyried Iaith Arwyddion Prydain o fewn eu gweithgareddau arfaethedig.

Datblygu'r gweithlu

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall eu cynlluniau tymor hwy o ran datblygu ac ehangu gweithlu addysg Iaith Arwyddion Prydain i helpu i oresgyn yr her bresennol o ddiffyg arbenigwyr Iaith Arwyddion Prydain.

Tirwedd cymwysterau'r DU

  • Parhau i ymgysylltu ag Ofqual ynghylch unrhyw ddiddordeb gan gyrff dyfarnu mewn TGAU Iaith Arwyddion Prydain 9–1.
  • Monitro diwygiadau cymwysterau 14–16 sydd ar ddod yn:
      • Yr Alban (Qualifications Scotland)
      • Gogledd Iwerddon (CCEA)
  • Nodi gwersi ymarferol o rannau eraill o’r DU y gellid eu cymhwyso yng Nghymru.

  • Ystyried goblygiadau Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), ee gosod targedau o ran nifer yr athrawon ac aseswyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
  • Asesu effeithiau anuniongyrchol y ddeddf ar:
      • ganfyddiad statws Iaith Arwyddion Prydain mewn ysgolion
      • y galw a phroffil Iaith Arwyddion Prydain mewn ysgolion

Mewnwelediad i'r cwricwlwm (parhaus)

  • Olrhain sut mae darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain mewn ysgolion yn esblygu wrth i’r Cwricwlwm i Gymru aeddfedu.
  • Ymgysylltu â:
      • thîm cwricwlwm ac arweinydd Iaith Arwyddion Prydain Llywodraeth Cymru
      • Estyn i nodi a rhannu arfer da sy'n dod i'r amlwg o ran sut mae ysgolion yn gosod Iaith Arwyddio Prydain o fewn eu cynnig cwricwlwm Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Monitro darpariaeth – meintiol

  • Dadansoddi data cofrestru ac ardystio i nodi:
      • nifer y rhai sy'n cymryd unedau Iaith Arwyddion Prydain
      • y lefel(au) a gofrestrir amlaf
      • y cyrff dyfarnu mwyaf poblogaidd
      • i ba raddau mae dysgwyr yn cymryd unedau Iaith Arwyddion Prydain ar sawl lefel
      • nifer y canolfannau sy'n cynnig unedau Iaith Arwyddion Prydain
      • dosbarthiad y cofrestriadau o fewn ac ar draws ysgolion
      • tueddiadau dros amser

Monitro darpariaeth–ansoddol

  • Ymgysylltu â chanolfannau (gan gynnwys ymweliadau ag ysgolion) i ddeall:
      • modelau cyflwyno ar gyfer uned Iaith Arwyddion Prydain o fewn ysgolion (ee yn yr amserlen/allgyrsiol)
      • arbenigedd athrawon a hyfedredd Iaith Arwyddion Prydain
      • sut mae mynd ati i amserlennu
      • cymhellion, profiadau a diddordeb dysgwyr mewn dilyniant
  • Adolygu adnoddau a chanllawiau cyrff dyfarnu.

  • Cynnal arolwg ysgol dilynol (gan adeiladu ar arolwg 2025).
  • Asesu newidiadau o ran:
      • agweddau ysgolion tuag at Iaith Arwyddion Prydain
      • nifer y rhai sy'n manteisio ar y cwricwlwm a'r cymwysterau
      • hyder a bwriad y ddarpariaeth
      • rhwystrau strwythurol sy'n atal ysgolion rhag ei chynnig

  • Gweithio gyda chyrff dyfarnu sy'n darparu unedau Sgiliau Bywyd i brofi'r awydd am:
      • gymwysterau Iaith Arwyddion Prydain mwy (ee 120 o Oriau Dysgu dan Arweiniad)
  • Defnyddio profiad darparu i lywio diwygiadau cymwysterau yn y dyfodol. 

  • Archwilio awydd CBAC am TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain gwneud-i-Gymru.
  • Gwneud penderfyniad sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch cynnwys TGAU Iaith Arwyddion Prydain yn y rownd nesaf o ddiwygio cymwysterau.
  • Ffactorau sy'n llywio’r penderfyniad i gynnwys:
      • perfformiad a niferoedd sy’n dilyn yr unedau Sgiliau Bywyd
      • dadansoddiad cost-budd ac asesiadau effaith
      • a yw rhwystrau strwythurol, megis diffyg gweithlu uwchradd Iaith Arwyddion Prydain digonol, wedi'u goresgyn