NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

22.05.26

Beth nesaf i UG a Safon Uwch Cymraeg?

Dewch i'n gweld ni yn Eisteddfod yr Urdd i ddarganfod mwy 

Unwaith eto yn ystod hanner tymor mis Mai eleni, bydd gan Cymwysterau Cymru stondin yn Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl Genedlaethol Ieuenctid Cymru a gynhelir eleni yng Ngwalchmai, Ynys Môn. 

Fel un o wyliau diwylliannol ieuenctid mwyaf Ewrop, mae'r digwyddiad Cymraeg wythnos o hyd yn denu dros 90,000 o ymwelwyr. Bydd tua 15,000 o gystadleuwyr ifanc o bob cwr o Gymru yn brwydro mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau, o lefaru ac ysgrifennu barddoniaeth, i berfformiadau theatrig, dawns, cerddoriaeth, crefft a dylunio, a gwyddoniaeth. 

Trwy gydol y digwyddiad – o ddydd Sadwrn 23 Mai i ddydd Gwener 29 Mai – bydd ein tîm wrth law ar y Maes i ateb eich holl gwestiynau ac ymholiadau. Gallwn ni rannu popeth sydd angen i chi ei wybod am y Cymwysterau Cenedlaethol newydd sbon ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed. Gyda chymwysterau newydd pellach yn dod ym mis Medi, ac ystod enfawr o gymwysterau galwedigaethol newydd yn lansio yn 2027, gallwn ni eich tywys trwy'r holl lwybrau gwahanol. Felly, p'un ai ydych chi'n ddysgwr, yn rhiant neu’n ofalwr, yn athro, yn hyfforddwr dysgu seiliedig ar waith neu’n gyflogwr, galwch heibio i'n gweld ar Stondin 65-66.  

Am hanner dydd, ddydd Llun, 25 Mai byddwn ni’n cynnal trafodaeth panel ar ein stondin: 
Nawr, nesaf ac yn y dyfodol – UG a Safon Uwch Cymraeg a Cymraeg Craidd.  

Ar gyfer y digwyddiad hwn, bydd Lleu Williams, Pennaeth Ymgysylltu Strategol Cymwysterau Cymru, yn cael cwmni: 

  • Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni yn Adnodd
  • Wyn Jones, Swyddog Datblygu Cymwysterau CBAC
  • Mai Owen, myfyrwraig a astudiodd Safon Uwch Cymraeg  
  • Meleri Roberts, athrawes Gymraeg yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy 

Bydd y panel yn trafod y camau nesaf ar gyfer cyflwyno cymwysterau UG a Safon Uwch Cymraeg a Cymraeg Craidd newydd o 2027 ymlaen. Mae croeso i bawb ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.