Cam olaf manylebau Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 sy’n cael ei cyhoeddi nawr
Mae manylebau cymeradwy ar gyfer cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a chymwysterau’r Gyfres Sgiliau bellach yn cael eu cyhoeddi gan gyrff dyfarnu. Er bod y rhan fwyaf o bynciau wedi'u cymeradwyo, mae gwaith yn parhau i sicrhau cymwysterau mewn pum maes sy'n weddill.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio'n agos gydag wyth corff dyfarnu i ddatblygu manylebau ar gyfer y cynnig Cymwysterau Cenedlaethol newydd, sy'n cynnwys:
- TAAU
- cymwysterau Sylfaen cyffredinol
- cymwysterau Sylfaen sy’n gysylltiedig â gwaith
- cymwysterau’r Gyfres Sgiliau (sy'n cynnwys cymwysterau Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a’r Project Personol)
Pa gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo?
Mae cymwysterau wedi cael eu cymeradwyo ar draws y cynnig newydd, a byddan nhw ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf mewn ysgolion o fis Medi 2027.
Mae rhai cymwysterau pellach yn dal i symud ymlaen trwy'r broses gymeradwyo ac rydym yn disgwyl y bydd mwy o gymwysterau ar gael yn ystod y misoedd nesaf.
Pynciau lle mae cymwysterau’n dal i gael eu datblygu
Nid oes gan bum pwnc TAAU a Sylfaen sy'n gysylltiedig â gwaith gymhwyster cymeradwy gan unrhyw gorff dyfarnu eto:
- Adfer Natur.
- Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth.
- Busnes, Cyfrifeg a Chyllid.
- Cynnal a Chadw Cerbydau Modur.
- Gofal Anifeiliaid.
Er mwyn rhoi eglurder i ysgolion tra bod y gwaith cymeradwyo yn parhau, bydd nifer fach o gymwysterau presennol yn y pynciau hyn yn parhau i fod ar gael i'w haddysgu ochr yn ochr â'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol newydd am gyfnod cyfyngedig o fis Medi 2027 ymlaen. Dylai ysgolion nodi, gan fod llawer o'r cymwysterau hyn wedi'u datblygu'n bennaf i'w defnyddio y tu allan i Gymru, efallai y bydd rhai ar gael yn Saesneg yn unig.
Gall ysgolion ddod o hyd i restr o'r cymwysterau a fydd yn parhau i fod ar gael ar ein tudalennau pwnc TAAU a Sylfaen.
Parhau i ehangu'r cynnig
Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod y cynnig Cymwysterau Cenedlaethol llawn i bobl ifanc 14 i 16 oed ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg a byddwn yn parhau i weithio gyda chyrff dyfarnu i ddatblygu cymwysterau yn y pum pwnc sy’n weddill.
Er mwyn helpu ysgolion i gynllunio ymlaen llaw, mae'r dyddiadau cau canlynol yn berthnasol i gyrff dyfarnu ddatblygu manylebau yn y pynciau hyn:
- Os caiff cymhwyster ei gymeradwyo erbyn 31 Rhagfyr 2026, gellir sicrhau y bydd ar gael i'w addysgu o fis Medi 2027 ymlaen.
- Os na chaiff y dyddiad hwn ei fodloni, ni ellir sicrhau y bydd y cymhwyster ar gael i’w addysgu mewn ysgolion tan fis Medi 2028.
Mewn pynciau lle mae Cymhwyster Cenedlaethol eisoes ar gael, gellir cymeradwyo cymwysterau ychwanegol ar ôl 31 Rhagfyr 2026 a sicrhau eu bod ar gael i’w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.
Cadw eich bys ar y pwls
Trwy Cymwysterau yng Nghymru
Caiff ysgolion eu hannog i gyfeirio at gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru i gael yr wybodaeth fwyaf cywir a chyfredol am ba gymwysterau y gallant eu darparu.
Wrth chwilio, dylai defnyddwyr ddewis "yn gymwys i gael cyllid cyhoeddus" a hidlo yn ôl yr ystod oedran cyn 16 i weld canlyniadau perthnasol. Mae modd chwilio hefyd yn ôl maes pwnc, math o gymhwyster a lefel.
Trwy e-bost
Cyn gynted ag y cymeradwyir cymhwyster TAAU, Sylfaen neu Gyfres Sgiliau newydd, byddwn yn rhoi gwybod i ysgolion trwy e-bost. Bydd yr e-bost hwn yn cael ei anfon at swyddogion arholiadau, a bydd angen iddyn nhw roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w penaethiaid, dirprwy benaethiaid ac arweinwyr cwricwlwm yn unol â hynny.