Cyfle i chi ddweud eich dweud am ein Strategaeth Reoleiddio arfaethedig ar gyfer 2027-2035
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi agor ymgynghoriad 12 wythnos yn gwahodd pobl i rannu eu barn ar ei Strategaeth Reoleiddio arfaethedig ar gyfer 2027-2035.
Bydd y strategaeth yn nodi sut mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu rheoleiddio cymwysterau a chyrff dyfarnu yng Nghymru rhwng 2027 a 2035, gan ddarparu fframwaith clir, hirdymor ar gyfer ein gwaith rheoleiddio wrth i'r dirwedd gymwysterau barhau i esblygu.
Mae'r strategaeth arfaethedig yn adeiladu ar yr egwyddorion sydd eisoes yn llywio dull Cymwysterau Cymru o ran rheoleiddio, gyda'n gwaith yn dryloyw, yn atebol, yn gymesur, yn gyson ac wedi'i dargedu.
Mae'n amlinellu gweledigaeth arfaethedig ar gyfer system gymwysterau yng Nghymru sy’n ddibynadwy, yn deg, yn ystwyth ac yn gynhwysol, ac sy'n cael ei hategu gan bedair blaenoriaeth reoleiddio: sicrwydd, atal, arloesi a chynhwysiant.
Dywedodd Denver Davies, Cyfarwyddwr Rheoleiddio Cymwysterau Cymru:
"Mae rheoleiddio’n chwarae rhan bwysig wrth helpu i gynnal hyder mewn cymwysterau a sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion dysgwyr, darparwyr addysg a chyflogwyr.
"Wrth i ni ddatblygu ein Strategaeth Reoleiddio ffurfiol gyntaf, rydyn ni eisiau clywed amrywiaeth o safbwyntiau ar ein gweledigaeth, ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu arfaethedig.
“Ein gweledigaeth arfaethedig yw system gymwysterau o ansawdd uchel yng Nghymru y mae pobl yn ymddiried ynddi ac sy’n deg. Rydyn ni wedi agor ymgynghoriad 12 wythnos i roi cyfle i chi helpu i siapio'r strategaeth derfynol cyn iddi gael ei chyhoeddi yn 2027. Rydyn ni’n awyddus i glywed eich barn chi ynghylch a yw ein gweledigaeth, ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu arfaethedig yn briodol, ac a oes unrhyw effeithiau rheoleiddio, cydraddoldeb, iaith Gymraeg neu effeithiau eraill y dylem eu hystyried.
P'un a ydych chi'n gweithio ym maes addysg, cymwysterau, sgiliau, neu â diddordeb mewn cymwysterau yng Nghymru, bydd eich adborth yn ein helpu ni i siapio ein strategaeth derfynol a llywio’n gwaith rheoleiddio ar gyfer y blynyddoedd i ddod."
Mae’r ymgynghoriad ar agor i bawb. Byddwn ni’n dadansoddi ac yn ystyried yr holl ymatebion wrth i ni gwblhau ein strategaeth, cyn ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf.
Mae'r ymgynghoriad ar-lein yn cau ar 6 Ionawr 2027.
Cewch ddweud eich dweud ar ein Strategaeth Reoleiddio ar gyfer 2027-2035 drwy gwblhau ein harolwg ar-lein