NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

07.05.26

Cyfle i Ddweud Eich Dweud ar arholiadau Haf 2026

Mae arholiadau'n dechrau ledled Cymru, ac mae arolwg Dweud Eich Dweud blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer Arholiadau'r Haf bellach ar agor.

Rydyn ni’n gwahodd dysgwyr, athrawon, rhieni, gofalwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn cymwysterau i rannu eu barn ar arholiadau TGAU, UG, Safon Uwch a Lefel 2/3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yr haf hwn. 

Bob blwyddyn, rydyn ni’n cynnal arolwg ‘dweud eich dweud ar arholiadau'r haf’ er mwyn casglu adborth ar gyfer ein gwaith o fonitro arholiadau yng Nghymru. Mae'r adborth a gawn gennych yn ein helpu i ddeall profiadau pobl o’r gyfres arholiadau ar draws y system. 

Mae eich barn – boed gadarnhaol neu negyddol – yn bwysig iawn. Mae’n ein helpu i adnabod unrhyw themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg yn ystod y gyfres arholiadau, ac yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar brofiadau’r rhai a safodd y papurau arholiad. 

Trwy wrando'n ofalus ar brofiadau dysgwyr ac athrawon, gallwn godi materion perthnasol gyda chyrff dyfarnu a defnyddio’r ddealltwriaeth hon i lywio ein gwaith monitro a rheoleiddio yn y dyfodol. 

Mae’r arolwg ar-lein yn fyr, a dylai gymryd tua phum munud i'w gwblhau. Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae'n cynnwys cwestiynau ar y canlynol: 

  • a oedd y papur arholiad yn ymdrin â’r pynciau a astudiwyd
  • beth oedd lefel yr anhawster (pa mor hawdd neu anodd oedd yr arholiadau)
  • a oedd digon o amser i ateb y cwestiynau
  • unrhyw sylwadau neu adborth arall 

Bydd yr arolwg ar agor trwy gydol y gyfres arholiadau a bydd yn cau ychydig wythnosau ar ôl cynnal yr arholiadau olaf, ddydd Gwener 3 Gorffennaf.  

Byddwn yn adolygu ymatebion pan fyddan nhw’n cael eu cyflwyno ac yn cyhoeddi crynodeb o'r canfyddiadau yn hwyrach yn y flwyddyn, ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Ewch ati i Ddweud Eich Dweud trwy gwblhau ein harolwg ar-lein