Cyhoeddi Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith (Ôl-16)
Heddiw rydyn ni wedi cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith (Ôl-16)
Ym mis Tachwedd, cyhoeddwyd ein cynlluniau i gyflwyno cymwysterau TGAU newydd mewn Saesneg Iaith a Chymraeg Iaith ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn benodol.
Bydd y cymwysterau newydd hyn yn rhan o ddewislen hyblyg o ddarpariaeth a fydd ar gael i ddysgwyr ôl-16 o fis Medi 2027.
Yn gynharach yn y flwyddyn, cyhoeddwyd y Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer y TGAU Saesneg Iaith (Ôl-16). Rydyn ni bellach yn cyhoeddi'r Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith (Ôl-16.
Wrth i CBAC ddechrau ar ei waith i ddylunio a datblygu'r cymwysterau i fodloni ein gofynion, byddwn ni’n gweithio ar y cyd tuag at y nod o gymeradwyo'r cymwysterau erbyn hydref 2026, yn barod i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n datblygu’r gofynion dylunio a fydd yn ffurfio’r Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith (Ôl-16). Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.
Ddarllenwch am y cefndir tu ôl i'n penderfyniad.