NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

11.09.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Cadarnhau cymwysterau Cymraeg a Chymraeg Craidd Sylfaen ar Lefel Mynediad

Mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu’n derfynol ar yr amrywiaeth o gymwysterau Cymraeg a fydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed fel rhan o'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd.

Yn dilyn trafodaethau pellach gydag athrawon Cymraeg ar draws pob lleoliad addysgol yn gynharach eleni, gallwn gadarnhau y byddwn yn datblygu cymwysterau Sylfaen mewn Cymraeg a Chymraeg Craidd ar Lefel Mynediad.  

Bydd y cymwysterau Sylfaen hyn yn cefnogi'r gyfres lawn o gymwysterau Cymraeg sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed fel rhan o'r gyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol. Dyma fydd yr ystod lawn o gymwysterau Cymraeg:  

  • Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad mewn Cymraeg 
  • Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad mewn Cymraeg Craidd 
  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (ar gael fel Dyfarniad Unigol neu Ddyfarniad Dwbl*)  
  • TGAU Cymraeg Craidd (i ddisodli'r TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol) 
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol (ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg sy’n gwneud cynnydd da wrth astudio TGAU Cymraeg Craidd ac sy’n barod i symud ymlaen ymhellach ar hyd continwwm y Gymraeg) 

Bydd y cymwysterau Sylfaen newydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027, tra bydd y cymwysterau TGAU a'r Dyfarniad Lefel 2 ar gael i'w haddysgu gyntaf o fis Medi 2025.  

Hyd nes y bydd y cymwysterau Sylfaen newydd ar gael, bydd y cymwysterau Cymraeg Lefel Mynediad presennol yn parhau i fod ar gael.  

Dywedodd Heidi Brown, Uwch Reolwr Cymwysterau gyda Cymwysterau Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o gadarnhau’r gyfres lawn o gymwysterau Cymraeg a fydd ar gael fel rhan o’r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol. 

“Rydyn ni wedi cael llawer o sgyrsiau gyda rhanddeiliaid allweddol ac wedi bod yn trafod gydag athrawon o wahanol leoliadau addysgol i wneud yn siŵr bod yr ystod newydd o gymwysterau Cymraeg yn diwallu anghenion pob dysgwr. Rydyn ni’n hyderus y bydd y cymwysterau TGAU newydd mewn Cymraeg a Chymraeg Craidd yn darparu cyrsiau astudio perthnasol ac uchelgeisiol i’r mwyafrif helaeth o ddysgwyr, ac y bydd y cymwysterau Sylfaen yn darparu llwybr addas i ddysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau, yn ogystal â lleiafrif bach o ddysgwyr mewn lleoliadau prif ffrwd, nad ydyn nhw efallai’n barod i astudio cymhwyster TGAU. 

“Rydyn ni’n awyddus i chwarae ein rhan i gyflawni strategaeth Cymraeg 2050 y llywodraeth a chefnogi Bil y Gymraeg ac Addysg, ac yn cydnabod y bydd y cyfle i ddatblygu sgiliau Cymraeg ar amrywiaeth o lefelau yn helpu i gefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd o ran eu sgiliau Cymraeg a chyfrannu at yr uchelgais genedlaethol o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.”   

*Y llwybr disgwyliedig i'r rhan fwyaf o ddysgwyr