Cymwysterau amaethyddol pwysig i gael eu cynnig yn y Gymraeg am y tro cyntaf
Yn dilyn adolygiad o gymwysterau amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofal anifeiliaid gan Cymwysterau Cymru, bydd mwy o gymwysterau amaethyddol yn cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafodd yr adroddiad, sy’n amlinellu’r canfyddiadau a’r camau a gymerwyd, ei gyhoeddi heddiw yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Canfu’r adolygiad nad oedd Diploma Estynedig Technegol Uwch Lefel 3 City and Guilds mewn Amaethyddiaeth, sy’n gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch, yn cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg a bod nifer sylweddol o ddysgwyr mewn colegau addysg bellach eisiau dilyn y cwrs hwnnw trwy gyfrwng y Gymraeg.
Daeth i’r amlwg hefyd fod galw i gynnig cymwysterau amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofal anifeiliaid amrywiol eraill o fewn addysg bellach a phrentisiaethau yn Gymraeg.
Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd 43% o weithwyr amaeth yn siarad Cymraeg – yr uchaf o unrhyw broffesiwn yn y wlad a llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 19%.
Yn ôl athro gafodd ei gyfweld yn ystod yr adolygiad, “Mae mor bwysig bod gennym ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’r plant amaethyddol yn dueddol o fod o gefndiroedd Cymraeg eu hiaith, a dyma eu hiaith gyntaf. Mae mor bwysig eu bod yn gallu gwneud y cyrsiau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gallu cynnig y cymwysterau hyn yn y Gymraeg yn hynod bwysig i ni.”
Rhannwyd y canfyddiadau gyda’r cyrff dyfarnu, ac mae’r camau canlynol bellach wedi’u cymryd gan Cymwysterau Cymru:
- Rhoi cyllid grant i City & Guilds i sicrhau bod y cymhwyster Lefel 3 Technegol Uwch mewn Amaethyddiaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ar gyfer y carfannau o ddysgwyr sy’n dechrau yn 2021/22 a 2022/23.
- Ymrwymo i weithio gyda City & Guilds i ddatblygu cymhwyster amaethyddiaeth lefel 3 addas yn lle y cymhwyster Lefel 3 Technegol Uwch mewn Amaethyddiaeth ac ehangu cynnig dwyieithog addas i gynnwys Lefel 3 Gofal Anifeiliaid a chymwysterau astudiaethau tir eraill.
- Rhoi cyllid grant i CIWM (WAMITAB) i gynnig Diploma Lefel 2 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy a Diploma Lefel 3 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy (goruchwylio) trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker: “Rydyn ni wedi lansio adroddiad trylwyr lle rydyn ni’n amlinellu’r camau rydyn ni wedi eu cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon a nodwyd gan ein hadolygiad ac i gryfhau’r cymwysterau presennol sydd ar gael yng Nghymru.
“Heddiw, yn Sioe Frenhinol Cymru, mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydyn ni wedi cael y cyfle i ddathlu’r llwybrau a’r dilyniant sy’n cefnogi dysgwyr ôl-16 i barhau â’u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ioan Matthews, “Rydym yn croesawu’r adolygiad yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen at weld cynnydd pellach yn y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i ddisgyblion, dysgwyr a myfyrwyr sydd am astudio amaeth a meysydd cyswllt eraill trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
“Mae’n hollbwysig bod y Coleg a Cymwysterau Cymru yn parhau i gydweithio er mwyn ymateb i’r bylchau mewn cymwysterau dwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn y sector ôl-16.”
Roedd yr adroddiad yn cynnwys 45 o gyfweliadau manwl gyda rhanddeiliaid, a chyfrannodd 145 o ddysgwyr eu barn trwy arolwg ar-lein. Defnyddiwyd tystiolaeth gan yr holl randdeiliaid hyn i lywio’r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad.