NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

28.07.26

Cymwysterau Cymru i gynnal trafodaethau yn yr Eisteddfod am ddyfodol cymwysterau

Ymunwch â Cymwysterau Cymru yn Eisteddfod y Garreg Las am ddwy drafodaeth panel ar gymwysterau galwedigaethol, cymwysterau Cymraeg a dyfodol cymwysterau yng Nghymru.

Bydd Cymwysterau Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr haf hwn, ac yn cynnal dau ddigwyddiad panel a fydd yn dod â lleisiau ynghyd o bob rhan o’r sector addysg a hyfforddiant i drafod dyfodol cymwysterau yng Nghymru. Cynhelir y ddau ddigwyddiad ar stondin Cymwysterau Cymru (231-232) yn Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd, Sir Benfro. 

Ar ddydd Llun 3 Awst, bydd Cymwysterau Cymru yn cynnal 'Cymwysterau Galwedigaethol: Dyfodol sy'n gweithio i Gymru', sef trafodaeth panel yn edrych ar ddatblygiadau diweddar mewn cymwysterau galwedigaethol. Bydd y digwyddiad, a gynhelir rhwng 14:30 a 15:30, yn trafod y cynnig o gymwysterau gwneud-i-Gymru, Sgiliau Hanfodol Cymru, cymwysterau cyfrwng Cymraeg a'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg. Mae aelodau'r panel yn cynnwys cynrychiolwyr o Cymwysterau Cymru, CBAC, VTCT Skills, Coleg Sir Benfro a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Ar ddydd Mercher 5 Awst, bydd Cymwysterau Cymru yn cynnal 'Camau Nesaf: UG a Safon Uwch Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Cymraeg Craidd' rhwng 14:30 a 15:30. Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y camau nesaf tuag at gyflwyno cymwysterau newydd o fis Medi 2027, gyda chyfraniadau gan siaradwyr o Cymwysterau Cymru, CBAC, Adnodd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgol Brynrefail, Gwynedd. 

Bydd Lleu Williams, Pennaeth Ymgysylltu Strategol Cymwysterau Cymru, yn cadeirio'r ddau ddigwyddiad. Bydd y digwyddiadau yn rhoi cyfle i'r rheiny sy'n bresennol glywed gan arbenigwyr, rhannu barn a thrafod datblygiadau allweddol sy'n effeithio ar ddysgwyr ac addysgwyr ledled Cymru. 

Mae'r ddau ddigwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, a does dim angen cofrestru ymlaen llaw. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, ynghyd â chyfle i rwydweithio â rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael hefyd. 

Bydd Cymwysterau Cymru ar y Maes drwy gydol yr wythnos hefyd. Bydd cydweithwyr wrth y stondin i ateb cwestiynau a sgwrsio â dysgwyr, rhieni a gofalwyr, addysgwyr, cyflogwyr ac unrhyw un sydd eisiau dysgu rhagor am gymwysterau yng Nghymru – gan gynnwys y don nesaf o gymwysterau TGAU newydd sbon sy'n dod ym mis Medi. Edrychwn ymlaen at eich gweld ar stondin 231-232 yn yr Eisteddfod eleni.