NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

21.09.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cymwysterau Cymru yn cadarnhau dychwelyd i drefniadau arholi ac asesu cyn y pandemig eleni

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi'r dull ar gyfer arholiadau ac asesiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-2024, gan gadarnhau y bydd cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau yng Nghymru yn dychwelyd fwy neu lai i drefniadau cyn y pandemig.

Yn unol â'r cynlluniau sydd wedi’u nodi o’r blaen, mae Cymwysterau Cymru wedi ysgrifennu at ysgolion a cholegau gyda rhagor o fanylion am ei ddull graddio ar gyfer 2023-24. Bwriad y wybodaeth yw cefnogi cyfathrebu â dysgwyr a phenderfyniadau ar y graddau a ragwelir ar gyfer ceisiadau prifysgol. Mae'r diweddariad yn cadarnhau dychwelyd i ddulliau cyn y pandemig, gan ddechrau ym mis Tachwedd, gyda mesurau diogelu ystadegol yn y broses ddyfarnu i atal canlyniadau rhag gostwng yn sylweddol is na'r lefelau cyn y pandemig, ar lefel pwnc.    

Mae hyn yn dynodi’r cam olaf ar daith system gymwysterau Cymru yn ôl i’r trefniadau asesu arferol, yn dilyn blynyddoedd o drefniadau gwahanol oherwydd tarfu yn sgil y pandemig:  

  • 2019-2020 a 2020-2021 - cafodd arholiadau eu canslo a chafodd dysgwyr raddau oedd wedi’u pennu gan eu hysgol neu goleg  
  • 2021-2022 - arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn dychwelyd. Fodd bynnag, roedd newidiadau ar waith gan gynnwys addasiadau fel lleihau'r cynnwys ar gyfer asesu a gwybodaeth ymlaen llaw, a pholisi graddio a ddechreuodd y broses o ddychwelyd yn raddol i ganlyniadau cyn y pandemig 
  • 2022-2023 – cynnal arholiadau. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o gymorth ychwanegol yn parhau ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw a pholisi graddio a oedd yn parhau â’r broses o ddychwelyd yn raddol i ganlyniadau cyn y pandemig. 

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: 

“Ar ôl blynyddoedd o drefniadau amgen, gallaf gadarnhau y bydd cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau yng Nghymru yn dychwelyd i drefniadau cyn y pandemig. Fel yn achos y llynedd, bydd cymwysterau galwedigaethol hefyd yn dilyn trefniadau cyn y pandemig.   

Mae dysgwyr wrth wraidd ein penderfyniadau, a dyna pam rydyn ni wedi cymryd agwedd gam wrth gam tuag at ddychwelyd i drefniadau cyn y pandemig dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  

Mae’n bwysig i ni fynd yn ôl at y trefniadau arferol fel bod graddau’n paratoi dysgwyr ar gyfer coleg, prifysgol neu gyflogaeth yn y modd gorau posibl, ac yn eu helpu i wneud y dewisiadau cywir am eu camau nesaf.  

Roedd dulliau graddio hanner ffordd y ddwy flynedd ddiwethaf yn fodd o roi cymorth ychwanegol i ddysgwyr, ac rydyn ni’n credu mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud.  Fodd bynnag, roedd hynny'n golygu na allem gynnal safonau yn y ffordd arferol. Mae’n hanfodol ein bod ni’n diogelu gwerth hirdymor graddau dysgwyr, er mwyn sicrhau cymaroldeb â’u cyfoedion mewn awdurdodaethau eraill a chynnal hyder yn system gymwysterau Cymru. 

Yn 2024, bydd dysgwyr unwaith eto’n cael y cyfle i ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod ac yn gallu ei wneud mewn arholiadau ac asesiadau ffurfiol. Mae’r graddau mae dysgwyr yn eu cyflawni yn yr arholiadau a’r asesiadau ffurfiol hyn yn mesur eu cyrhaeddiad ac yn caniatáu iddyn nhw symud ymlaen i addysg uwch ac addysg bellach, neu ymlaen i gyflogaeth.”