NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

30.01.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR

Cymwysterau Cymru yn cael ei gydnabod gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae rhestr newydd yn amlygu 100 o bobl a grwpiau sy'n cael effaith gadarnhaol ar Gymru.

Mae'r rhestr o 100 Ysgogwyr Newid wedi'i chyhoeddi ar ôl cael ei henwebu gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, sy'n gadel yn fuan.

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod Emyr George - Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru - a thîm Cymwys ar gyfer y dyfodol, wedi ymddangos yn rhif 34 ar y rhestr.

Nid yw’n syndod i ni fod addysg yn hollbwysig yng Nghymru, ond mae’n wych cael cydnabyddiaeth fel hyn gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r erthygl yn tynnu sylw at y gwaith allweddol mae Emyr a thîm Cymwys ar gyfer y dyfodol wedi bod yn ei wneud ym maes diwygio cymwysterau TGAU, tra’n atgyfnerthu Deddf Cymwysterau Cymru fel sylfaen ein gwaith diwygio. Mae'n cydnabod yr angen i gymwysterau esblygu ochr yn ochr â newidiadau mewn cymdeithas a'r sut rydyn ni’n byw, yn dysgu ac yn gweithio. Mae’r gwaith diwygio hwn yn adeiladu ar y cwricwlwm newydd a gyflwynwyd mewn llawer o ysgolion yng Nghymru ym mis Medi, a fydd yn helpu i sicrhau bod cymwysterau’n addas ar gyfer anghenion dysgwyr y dyfodol, cyflogwyr a chymdeithas yn fwy cyffredinol.

Llongyfarchiadau i Emyr a thîm Cymwys ar gyfer y dyfodol ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.

Dysgwch ragor am ein gwaith diwygio Cymwys ar gyfer y dyfodol ac edrychwch ar 100 uchaf Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yma: The 100 people changing the face of Wales - Wales Online.