NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

01.09.26

Cymwysterau newydd i brentisiaid i agor mwy o lwybrau i mewn i weithlu adeiladu Cymru

Mae Cymwysterau Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ganolfannau dysgu, cyflogwyr a phartneriaid diwydiant ar gymwysterau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu newydd sydd wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio ar fframweithiau prentisiaethau.

Mae'r cymwysterau sydd newydd eu cymeradwyo wedi'u datblygu gan gyrff dyfarnu i'w defnyddio o fewn fframweithiau prentisiaethau newydd ac wedi’u diweddaru. Mae Cymwysterau Cymru wedi adolygu a chymeradwyo'r cymwysterau, gan helpu i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu ledled Cymru.

Mae cymwysterau lefel 2 newydd ar gyfer dysgwyr seiliedig ar waith mewn gosod brics a gwaith coed ar y safle, a ddatblygwyd gan City & Guilds, ar agor ar gyfer cofrestru o 1 Medi 2026 ac maen nhw wedi'u cynnwys o fewn llwybrau prentisiaethau sylfaen newydd yn y galwedigaethau hyn sydd wedi'u cyhoeddi gan Medr. Bydd cymwysterau gosod brics a gwaith saer ar y safle lefel 3 presennol yn parhau i fod ar agor ar gyfer cofrestru tan 31 Hydref 2026, gan roi amser i ganolfannau reoli'r cyfnod pontio.

Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cymeradwyo cymhwyster gorchuddio lloriau lefel 3 newydd sydd wedi’i ddatblygu gan City & Guilds a chymhwyster oeri, aerdymheru a phympiau gwres lefel 3 newydd sydd wedi’i ddatblygu gan EAL. Mae'r cymwysterau hyn hefyd ar gael o fewn fframweithiau prentisiaethau newydd sydd wedi'u cyhoeddi gan Medr. Mae llwybrau newydd pellach ac sydd ar ddod yn cynnwys cymwysterau lefel 2 mewn sgaffaldio a gweithrediadau gwella adeiladau, a llwybrau crefftau lefel 3 mewn gosod brics a gwaith coed ar y safle i alluogi cynnydd yn y galwedigaethau hyn. 

Dywedodd Dean Seabrook, Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru: “Mae’r newidiadau hyn yn ymwneud ag arallgyfeirio llwybrau i yrfaoedd medrus mewn adeiladu a gwasanaethau adeiladu a helpu sector adeiladu Cymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Trwy gymeradwyo cymwysterau sy'n cefnogi llwybrau prentisiaeth newydd, gallwn helpu i hybu ansawdd, cynaliadwyedd a hyder ar draws y system.

"I ganolfannau, y flaenoriaeth yw eglurder. Rydyn ni’n gweithio gyda Medr, Llywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu fel bod gan ddarparwyr dysgu yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, pan fyddan nhw ei hangen, fel bod modd iddyn nhw gynllunio i gyflwyno’r cymhwyster, cefnogi dysgwyr a rheoli'r newid o’r cymwysterau presennol i lwybrau newydd yn ddidrafferth."

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer canolfannau, gan gynnwys dyddiadau allweddol, cyfeirnodau cymwysterau a dolenni i ddogfennau fframwaith, ar gael isod.

 

Prentisiaethau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu: gwybodaeth i ganolfannau

Mae'r Cwestiynau Cyffredin hyn yn rhoi'r wybodaeth weithredol allweddol sydd ei hangen ar ganolfannau i gynllunio ar gyfer defnyddio cymwysterau newydd mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu fel rhan o lwybrau prentisiaethau sydd wedi'u diweddaru.

Cwestiynau cyffredin

Mae newidiadau’n cael eu gwneud i'r ystod o gymwysterau ar gyfer prentisiaethau mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu yn ystod 2026 a 2027. Bydd wyth cymhwyster integredig newydd ar gael, gan gynnwys cymwysterau i'w defnyddio ar lwybrau prentisiaethau sylfaen newydd. Mae cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru a Medr yn rhoi rhagor o gefndir i'r newidiadau.

Mae prentisiaethau sylfaen newydd mewn gosod brics a gwaith coed ar y safle bellach ar gael. Mae’r llwybrau prentisiaeth wedi'u cyhoeddi gan Medr ac maen nhw wedi'u rhestru yn llyfrgell y fframwaith prentisiaethau.

Bydd cymwysterau Adeiladu integredig newydd City & Guilds (Lefel 2) mewn gosod brics a gwaith saer ar y safle ar gael ar gyfer cofrestru o 1 Medi 2026.

Y cymwysterau newydd yw C00/5420/3 City & Guilds Adeiladu (Lefel 2) – Gosod Brics a C00/5389/3 City & Guilds Adeiladu (Lefel 2) – Gwaith Saer ar y Safle.

Bydd y cymwysterau lefel 3 integredig presennol mewn gosod brics a gwaith coed ar y safle yn parhau i fod ar agor ar gyfer cofrestru dysgwyr tan 31 Hydref 2026. Y rhain yw C00/4169/3 City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gosod Brics a C00/4283/1 City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gwaith Saer ar y Safle.

Bydd dysgwyr sydd wedi cofrestru erbyn y dyddiad hwn yn gallu cwblhau eu cymwysterau, heb ymyrraeth, tan 31 Awst 2030. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd unrhyw gyfleoedd pellach ar gyfer ardystio. 

Bydd. Mae cymwysterau Lefel 3 newydd mewn crefft gosod brics a chrefft gwaith saer ar y safle i fod i gael eu cyflwyno ym mis Medi 2027 i’w defnyddio mewn fframweithiau prentisiaethau. Bydd y rhain yn rhoi cyfleoedd cynnydd i ddysgwyr sy'n cwblhau'r prentisiaethau sylfaen newydd yn llwyddiannus yn y galwedigaethau hyn.

Mae cymhwyster integredig newydd i'w ddefnyddio ar brentisiaeth sylfaen mewn sgaffaldio’n cael ei ddatblygu. Mae Medr, Cymwysterau Cymru a City & Guilds yn gweithio gyda rhanddeiliaid y diwydiant ar y cymhwyster a’r fframwaith prentisiaeth. Disgwylir i'r cymhwyster fod ar gael i ddysgwyr yn hydref 2026.

Mae cymhwyster integredig newydd i'w ddefnyddio ar brentisiaeth sylfaen mewn gweithrediadau gwella adeiladau yn cael ei ddatblygu gan Agored Cymru. Bydd y cymhwyster a'r brentisiaeth newydd ar gael yn 2027. 

Mae'r cymhwyster newydd C00/5289/3 City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gorchuddio lloriau ar gael ar gyfer cofrestru ac wedi'i gynnwys o fewn fframwaith prentisiaeth newydd a gyhoeddwyd gan Medr. Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio i adlewyrchu newidiadau i safonau cenedlaethol a rhoi hyblygrwydd i ddysgwyr.

Bydd cymhwyster newydd C00/5331/4 EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Oeri, Aerdymheru a Phympiau Gwres ar gael ar gyfer cofrestru o 1 Medi 2026 ac wedi'i gynnwys mewn fframwaith prentisiaeth newydd a gyhoeddwyd gan Medr. Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio i fod yn gyfredol ac i roi hyblygrwydd i ddysgwyr a darparwyr ymwneud â phympiau gwres yn y maes galwedigaethol hwn.

Dylai canolfannau gofrestru ar gyfer cylchlythyr Sgiliau i Gymru i dderbyn diweddariadau, gan gynnwys gwybodaeth am ddogfennau cymwysterau, deunyddiau asesu enghreifftiol a chefnogaeth gan gyrff dyfarnu. Bydd diweddariadau pellach hefyd yn cael eu rhoi ar wefan Cymwysterau Cymru.


Dogfennau a dolenni allweddol: