Defnyddio Barn Gymharol Addasedig ar gyfer asesu ymatebion i Asesiadau Di-Arholiad (NEA) TGAU Hanes
Cymwysterau Cymru wedi dechrau archwilio barn rhanddeiliaid ar wahanol agweddau ar cymwysterau newydd.
Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Cwricwlwm newydd i Gymru, mae Cymwysterau Cymru wedi dechrau archwilio barn rhanddeiliaid ar wahanol agweddau ar asesu’r cymwysterau newydd.
Fe wnaethon ni gychwyn gwaith ymchwil, gwaith ymgynghori a gweithgareddau ymgysylltu gydag amrywiaeth o grwpiau rhanddeiliaid i’n helpu ni i fyfyrio ar ddulliau asesu traddodiadol, a hefyd i’n helpu ni i ystyried cyfleoedd ar gyfer arloesi technolegol a methodolegol.
Un o’r dulliau arloesol hyn yw Barn Gymharol (BG) – dull asesu sydd wedi bod yn destun nifer o astudiaethau addysgol diweddar. Fel rheoleiddiwr, roedden ni’n teimlo bod angen i ni adolygu'r gwaith ymchwil presennol ar BG ac addysgu ein hunain yn llawnach am y dull hwn o asesu.
Canfuom fod prinder ymchwil a oedd yn archwilio barn athrawon a allai o bosibl gymhwyso BG i asesiadau lle mae llawer yn y fantol. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ymchwil presennol yn gwerthuso teilyngdod asesiad BG gan ddefnyddio canlyniadau beirniadu (e.e. cyfernodau cydberthynas/dibynadwyedd, amser beirniadu cyfartalog), gyda dim ond ychydig o astudiaethau’n archwilio profiadau beirniaid, eu dulliau a’u ffordd o weithio wrth feirniadu. Er mwyn i BG gael ei ystyried yn opsiwn ymarferol wrth asesu, roedden ni’n credu bod angen ymchwiliad manylach i farn aseswyr i archwilio a allai BG ffitio i esiampl asesu penodol, ac a allai fynd i’r afael â’r cyfyngiadau mae aseswyr ar hyn o bryd yn eu hwynebu gyda dulliau asesu mwy traddodiadol.
Mae’r astudiaeth ymchwil fewnol a gyhoeddwn heddiw yn canolbwyntio ar yr ystyriaethau a gymerir gan athrawon wrth feirniadu’n gymharol ar draethodau NEA TGAU Hanes, yn ogystal â’u barn ar ddefnyddio BG i asesu rhai tasgau penodol. Ar lefel fwy cyffredinol, mae'r ymchwil hwn yn ymchwilio i weld a allai BG gynnig dewis amgen ymarferol, mwy effeithlon i'r broses marcio a safoni presennol ar gyfer traethodau estynedig.
Bydd yr ymchwil hwn, ynghyd â chyhoeddiadau eraill ar BG, yn helpu Cymwysterau Cymru i ddeall a allai BG gael ei hystyried o ddifrif fel dull effeithlon, teg a chadarn o asesu gwaith myfyrwyr yng Nghymru yn y dyfodol. Rydyn ni o’r farn y byddai angen rhagor o waith ymchwil a datblygu i roi BG ar waith mewn cyd-destun asesu cymwysterau lle mae llawer yn y fantol, ac rydyn ni’n bwriadu gweithio gyda chyrff dyfarnu a rhanddeiliaid allanol i archwilio’r dull hwn o fewn sgyrsiau ehangach am asesu digidol.