Dod ynghyd yn Eisteddfod yr Urdd i gefnogi uchelgais y Cwricwlwm i Gymru
Mae Cymwysterau Cymru, Estyn ac Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn falch o fod yn cydweithio i ddangos y ffyrdd arloesol y maent yn cyfrannu at addysg yng Nghymru.
Mae Cymwysterau Cymru, Estyn ac Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn falch o fod yn cydweithio i ddangos y ffyrdd arloesol y maent yn cyfrannu at addysg yng Nghymru.
Bydd gan y tri sefydliad bresenoldeb ar y cyd yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin ac fe fyddant yn cynnal digwyddiad ar y cyd gyda’r Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg Jeremy Miles AS yn ystod wythnos yr Eisteddfod, i drafod y gwaith amrywiol y mae pob mudiad yn ei wneud i gyflawni uchelgais y Cwricwlwm i Gymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg a Addysg:
“Rwyf yn edrych ymlaen at glywed mwy gan sefydliadau am eu gwaith yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, ac at ateb eu cwestiynau. Mae'r Cwricwlwm yn bodoli oherwydd gwaith partneriaeth da. Dylem ddathlu hyn, mae’n enghraifft wych o lawer o sefydliadau a rhanddeiliaid yn cydweithio i gyflawni ein hamcanion cyffredin.”
Dywedodd Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru:
“Mae’n wych cael cyfle i siarad â’n rhanddeiliaid a’n partneriaid yn Eisteddfod yr Urdd.
“Rydym yn ailgynllunio cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14-16 oed i’w helpu i gyflawni fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru, a gafodd ei gyflwyno y llynedd.
“Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar y Cynnig Cymwysterau 14-16 Llawn. Rydym yn gofyn i ddysgwyr, athrawon, arweinwyr ysgolion a cholegau, cyflogwyr a rhanddeiliaid ehangach i roi eu barn ar ein cynigion. Ble gwell i dderbyn adborth gan ddysgwyr ac athrawon, nag yn Eisteddfod yr Urdd?
“Mae’r Gymraeg yn rhan mor annatod o Eisteddfod yr Urdd. Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r Gymraeg ac yn falch o gefnogi’r digwyddiad pwysig yma.
“Rydym eisiau i ddysgwyr allu cymryd cymwysterau yn y iaith maent yn ei ddewis. Fel rhan o’r diwygiadau hyn byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob cymhwyster ar gyfer dysgwyr 14-16 oed fod ar gael yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg.”
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant:
“Mae cenhadaeth genedlaethol Cymru i wella addysg a hyfforddiant i bob dysgwr wrth galon ein gwaith. Wrth i ni ddatblygu trefniadau arolygu newydd ar gyfer 2024, rydym am glywed barn y rheini sy’n gweithio mewn neu’n rhyngweithio â darparwyr addysg. Mae’r Urdd yn nodi dechrau ein hymgynghoriad ag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion wrth i ni geisio eu barn am beth a sut rydym yn arolygu.
“Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chymaint o weithwyr addysg proffesiynol, athrawon, rhieni a dysgwyr â phosibl yn ystod yr ŵyl ieuenctid Gymraeg flynyddol gyffrous hon o lenyddiaeth, cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio. Gallant roi mewnwelediadau hanfodol i ni ar sut y gallwn sicrhau bod arolygu yn brofiad cadarnhaol a phroffesiynol i bawb dan sylw.”
Dywedodd Tegwen Ellis, Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol:
“Rydym yn falch o fynychu Eisteddfod yr Urdd unwaith eto a chydweithio gyda’n partneriaid o’r haen ganol, Estyn a Cymwysterau Cymru. Mae Eisteddfod yr Urdd yn ganolbwynt ar gyfer creadigrwydd ac yn hyrwyddo cynwysoldeb, gan ddod â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol o bob rhan o Gymru at ei gilydd. Ymhellach, mae’n darparu cyfleoedd unigryw ac amhrisiadwy i addysgwyr ymgysylltu â’r diwylliant Cymraeg bywiog ac i rwydweithio â chydweithwyr ledled Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at siarad â phenaethiaid, athrawon, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr ieuenctid ac ymarferwyr eraill drwy gydol yr wythnos.”