Dweud Eich Dweud am gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd
Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio sgwrs genedlaethol er mwyn rhoi cyfle i bobl Cymru 'Dweud Eich Dweud' ar drawsnewid cymwysterau TGAU yn llwyr.
Mae aelodau’r cyhoedd, gan gynnwys athrawon, rhieni, cyflogwyr, a dysgwyr, yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr hyn sydd yn un o’r ymgynghoriadau mwyaf erioed ym myd addysg Cymru.
Mae Cymwysterau Cymru eisiau barn pobl am y cynnwys a'r ffyrdd o asesu'r cymwysterau newydd fydd ar gael o 2025 ymlaen.
Er mwyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, bydd angen i chi gofrestru ar wefan ymgysylltu Dweud Eich Dweud newydd Cymwysterau Cymru. Yno, gallwch ymateb i gynigion dylunio manwl ar gyfer pob TGAU newydd – neu roi adborth ar y newidiadau cyffredinol.
Bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd a chymwysterau cysylltiedig yn cynnig:
- cyfleoedd i ddysgwyr ddangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau y byddan nhw wedi'u hennill o astudio’r Cwricwlwm i Gymru
- cynnwys ac asesiadau hyblyg i helpu ysgolion i gynllunio eu cwricwla eu hunain a diwallu anghenion eu dysgwyr
- cymysgedd cytbwys o ddulliau asesu, gyda llai o bwyslais ar arholiadau a mwy o gyfleoedd i ddysgwyr gael eu hasesu yn ystod eu cwrs astudio
- defnydd mwy effeithiol o dechnoleg mewn asesiadau
Mae'r cymwysterau arfaethedig yn cynnwys TGAU newydd cyfun yn Y Gwyddorau (gan gyfuno Bioleg, Cemeg a Ffiseg), Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a Mathemateg a Rhifedd.
Mae Cymwysterau Cymru hefyd am i bobl ledled y wlad rannu eu barn ar gynnwys ac asesu pynciau TGAU newydd sbon - gan gynnwys Astudiaethau Cymdeithasol, Peirianneg, Ffilm a Chyfryngau Digidol, a Dawns.
Mae’r newidiadau hyn i gymwysterau Cymru yn cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm i Gymru – y dechreuwyd ei addysgu mewn ysgolion fis diwethaf. Wrth ddatblygu'r cynigion hyn, fe gasglodd Cymwysterau Cymru farn gan fwy na 1,400 o ddysgwyr o bob rhan o'r wlad ar yr hyn maen nhw ei eisiau gan gymwysterau.
Wrth siarad am lansiad yr ymgynghoriad, dywedodd Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
“Ry'n ni am i bobl ifanc ac ysgolion allu dewis o amrywiaeth o gymwysterau dwyieithog, sydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Beth bynnag yw eu diddordebau, a ble bynnag maen nhw am fynd nesaf, bydd cymhwyster sy'n apelio.
Rydyn ni wedi gweithio'n agos gydag amrywiaeth ehangach o arbenigwyr sector gan gynnwys athrawon ac academyddion i ail-ddychmygu sut y dylai arholiadau TGAU yn y dyfodol edrych o ran eu dyluniad, eu cynnwys a'u hasesu. Nawr, rydyn ni eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosib am beth maen nhw'n ei feddwl o'r cynigion."
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
"Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn newid sylweddol yn ein system addysg, sy’n canolbwyntio ar roi'r amrywiaeth gywir o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau i bobl ifanc. Mae angen diwygio cymwysterau sy’n cael eu hastudio gan ddysgwyr 14-16 oed er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr yn y dyfodol, cefnogi eu cynnydd a'u cyflogaeth, ac fel eu bod yn cyd-fynd ag uchelgais ac ethos Cwricwlwm i Gymru.
"Yr ymgynghoriad hwn yw'r cam nesaf ar y daith i ddiwygio'r cymwysterau hyn, ac rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y sgwrs hon, o athrawon a rhieni, i bobl ifanc a chyflogwyr. Mynnwch ddweud eich dweud i helpu i lunio cymwysterau’r dyfodol."
Dywedodd Sarah Parry, Pennaeth Ysgol Uwchradd Llanisien:
"Mae'n fraint cynnal y digwyddiad lansio ar gyfer yr ymgynghoriad hynod bwysig yma. Mae ein myfyrwyr Blwyddyn 7 bellach yn cael eu haddysgu yn y pynciau craidd a sylfaen sy'n integreiddio â nodau'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'n rhaid i'r cymwysterau y mae'r dysgwyr hynny'n eu cyflawni ar ddiwedd eu haddysg ffurfiol gyfateb i ddisgwyliadau'r Cwricwlwm. Rydyn ni wrth ein boddau bod ein hathrawon, ein dysgwyr, ein rhieni a'n llywodraethwyr wedi cymryd rhan o'r dechrau, i fod yn rhan o'r newid trawsffurfiol hwn."