NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

03.03.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Dweud Eich Dweud ar gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo

Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio sgwrs genedlaethol i roi cyfle i bobl Cymru ddweud eu barn ar gynigion ar gyfer cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo newydd.

Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio sgwrs genedlaethol i roi cyfle i bobl Cymru ddweud eu barn ar gynigion ar gyfer cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo newydd.  

Ymunodd arbenigwyr o'r diwydiant â Cymwysterau Cymru ar gyfer y digwyddiad lansio ym mwyty ‘AA Rosette’ Coleg Caerdydd a'r Fro, Y Dosbarth, i ddysgu mwy am ddyfodol cymwysterau yn y sector. 

Mae aelodau o'r cyhoedd, gan gynnwys athrawon, rhieni, gofalwyr, cyflogwyr, a dysgwyr, yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i roi barn ar gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo newydd arfaethedig a fydd ar gael i ddysgwyr sydd ar drywydd gyrfaoedd yn y diwydiant hanfodol hwn. 

Daw'r cynigion ar gyfer cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo newydd yn dilyn adolygiad helaeth o'r sector a gynhaliwyd gan Cymwysterau Cymru. Cynhaliwyd adolygiad Ar Daith dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac roedd yn cynnwys adolygiad o gymwysterau yn y sectorau Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo.  

Er bod yr adborth ar gymwysterau Teithio a Thwristiaeth yn gadarnhaol, a bod tystiolaeth bod y cymwysterau presennol ar y cyfan yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr, nodwyd rhai problemau gyda strwythur ac ystod y cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo a gynigir yng Nghymru ar hyn o bryd. Cafwyd adborth hefyd ynghylch priodoldeb y cynnwys a'r dulliau asesu, ac argaeledd cyfyngedig cymwysterau cyfrwng Cymraeg. Felly, mae rheoleiddiwr cymwysterau Cymru wedi drafftio cynigion ar gyfer cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo newydd sydd wedi’u Gwneud-i-Gymru. Ac fe allwch chi rannu eich barn ar y cynigion.  

Er mwyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, bydd angen i chi gofrestru ar wefan ymgysylltu Dweud Eich Dweud Cymwysterau Cymru. Ar ôl cofrestru ar-lein, byddwch yn gallu ymateb i'r cynigion ar gyfer y cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo newydd. 

Bydd y cymwysterau newydd arfaethedig yn: 

  • cynnig dysgu ymarferol gyda chyfleoedd i gael profiadau bywyd go iawn y tu allan i'r ystafell ddosbarth 
  • adlewyrchu sut mae'r sector wedi esblygu oherwydd technolegau digidol newydd ac effaith pandemig COVID-19 
  • datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel  
  • darparu mwy o opsiynau i ddysgwyr astudio cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Wrth siarad am lansiad yr ymgynghoriad, dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru: 

"Rydyn ni am i bobl ifanc ac ysgolion allu cael mynediad at gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo sy'n fodern ac sy'n cyd-fynd ag arferion y diwydiant. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y cymwysterau sy'n cael eu cynnig gan gyrff dyfarnu yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr a'r diwydiant. 

"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb yng Nghymru leisio eu barn ar gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gydag ystod eang o arbenigwyr yn y sector i ail-ddychmygu sut y dylai cymwysterau’r dyfodol edrych o ran dylunio, cynnwys ac asesu. Nawr, rydyn ni eisiau clywed beth rydych chi'n ei feddwl o'r cynigion.” 

Dywedodd David Chapman, Cadeirydd UK Hospitality (corff aelodaeth yn cynrychioli busnesau a lleoliadau lletygarwch),: 

"Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Cymwysterau Cymru ar adolygiad y sector Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo. Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth i sicrhau newidiadau radical i’r diwydiant i system a oedd angen y math o MOT arbenigol a ddarparwyd. “ 

Dywedodd Huw Wilkinson, Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Prifddinas Caerdydd: 

“Bu effaith pandemig COVID-19 ar y sector Lletygarwch ac Arlwyo yn aruthrol. Wrth i'r diwydiant barhau i adfer ac esblygu, mae'n bwysig bod y cymwysterau sy'n cael eu cynnig yn rhoi'r ystod gywir o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau i bobl ifanc lwyddo.  

"Os oes gennych chi ddiddordeb mewn lletygarwch ac arlwyo, byddwn ni’n eich annog i gymryd rhan yn y sgwrs hon ac i rannu eich barn.” 

Dywedodd Sandra Kelly, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru a Chyfarwyddwr Sgiliau Hospitality UK: 

"Mae lletygarwch ac arlwyo yn chwarae rhan fawr yn yr economi yng Nghymru, gan gyflogi miloedd o bobl a chynhyrchu biliynau o bunnoedd i’r economi. 

"Rwy'n falch iawn bod Cymwysterau Cymru wedi lansio ei adolygiad o gymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo i sicrhau eu bod yn addas i'r diben i ddiwallu anghenion dysgwyr, gan gefnogi eu cynnydd a'u cyflogaeth. Ewch ati i Ddweud Eich Dweud i helpu llywio cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo yng Nghymru.” 

I gael rhagor o wybodaeth ac i ddweud eich dweud, ewch i: https://dweudeichdweud.cymwysterau.cymru/hub-page/lletygarwch-ac-arlwyo  

Mae’r ymgynghoriad hwn ar agor tan Ddydd Gwener 2 Mehefin 2023