NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

25.09.26

Dweud Eich Dweud ar weithgareddau corfforol cymeradwy TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd

Gall athrawon, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill nawr rhoi cais i mewn i ychwanegu camp neu weithgaredd corfforol newydd at y rhestr gymeradwy ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd.

Mae'r TGAU gwneud-i-Gymru newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd bellach yn cael ei addysgu mewn ysgolion ar draws Cymru.

Fel rhan o'r cymhwyster, mae dysgwyr yn cael y cyfle i ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o chwaraeon unigol neu weithgareddau corfforol wedi eu dewis o restr gymeradwy. Datblygwyd y rhestr hon gyda mewnbwn gan athrawon, ymgynghorwyr pwnc, cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, a'r corff dyfarnu, CBAC.

Rydyn ni’n gwybod bod y chwaraeon a gweithgareddau corfforol y mae dysgwyr yn eu gwneud yn gallu newid dros amser. Dyna pam y gall athrawon, dysgwyr, rhieni a gofalwyr, a rhanddeiliaid eraill ofyn nawr i chwaraeon neu weithgareddau corfforol newydd gael eu hychwanegu at y rhestr gymeradwy.

Sut i gyflwyno cais

Bydd ceisiadau ar gyfer cynnwys yr ychwanegiadau hyn yn cael eu hadolygu'n flynyddol a'u hasesu yn erbyn set o feini prawf cyhoeddedig. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, rhaid cyflwyno ceisiadau cyn diwedd Rhagfyr bob blwyddyn.

Eleni, dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 31 Rhagfyr 2026 i'w hystyried ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau eu cwrs ym mis Medi 2027. Bydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried yn adolygiad y flwyddyn ganlynol.

Gallwch chi ddysgu mwy am y broses hon, adolygu'r meini prawf i'w hystyried, a chyflwyno'ch cais trwy ein platfform Dweud Eich Dweud.