NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

15.08.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Dysgwyr Cymru yn cael eu canlyniadau Safon Uwch, Safon UG a chymwysterau galwedigaethol heddiw 

Mae canlyniadau ar gael i filoedd o ddysgwyr yng Nghymru, gan gynnwys dysgwyr Safon Uwch, Safon UG, galwedigaethol a Bagloriaeth Cymru. Maent yn derbyn canlyniadau eu cymwysterau heddiw (15 Awst). 

Bydd y canlyniadau hyn yn gyflawniad sylweddol i ddysgwyr ac yn cynrychioli’r cam olaf yn nhaith system cymwysterau Cymru wrth ddychwelyd i drefniadau cyn y pandemig.  

Roedd trefniadau arferol cymwysterau yn ôl yn ystod y flwyddyn academaidd hon yng Nghymru, gydag asesiadau wedi eu dyfarnu yn unol â blynyddoedd cyn y pandemig, yn fras.  

Wrth longyfarch y dysgwyr, dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: 
“Da iawn i bawb sydd wedi cael eu canlyniadau heddiw, llongyfarchiadau. Mae canlyniadau yn garreg filltir sylweddol ym mywydau dysgwyr, a bydd llawer yn edrych ymlaen at eu camau nesaf – boed hynny tuag at waith, prentisiaeth, neu addysg uwch.  

Rwy'n gobeithio y cawsoch y graddau yr oeddech yn gobeithio eu cael. Os na, peidiwch â phoeni. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael i chi, gan gynnwys trwy eich ysgol neu goleg yn ogystal â gwybodaeth am bwy all eich helpu ar ein gwefan.”  

Y trefniadau ar gyfer cymwysterau eleni oedd y cam olaf wrth ddychwelyd yn raddol i brosesau cyn y pandemig a ddechreuodd pan ddaeth arholiadau ffurfiol yn ôl yn 2022. Mae’r gwahaniaethau yn y dulliau dyfarnu dros y pedair blynedd diwethaf yn golygu na ddylid gwneud cymariaethau rhwng canlyniadau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn.

Ychwanegodd Philip Blaker: 
“Er mwyn paratoi dysgwyr i gymryd eu camau nesaf, mae’n hanfodol bod cymwysterau yng Nghymru yn rai mae pobl yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi ar draws y DU a thu hwnt, gan ddangos yr hyn y mae dysgwyr yn ei wybod ac yn gallu ei wneud.  

Dyna pam ei bod yn bwysig dychwelyd at drefniadau cyn y pandemig ar gyfer cymwysterau, er mwyn sicrhau tegwch hirdymor o fewn y system, a sicrhau y gall dysgwyr yng Nghymru symud ymlaen yn hyderus tuag at beth bynnag sydd o’u blaenau.”  

Wrth ddiolch i athrawon a darlithwyr, ychwanegodd Philip Blaker:
“Diolch i bawb sydd wedi cefnogi dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen trwy eu cyrsiau, yn enwedig i ymarferwyr a staff eraill mewn canolfannau am eu gwaith trwy gydol y flwyddyn.  

 Mae’r canlyniadau hyn yn dangos gwytnwch y dysgwyr yng Nghymru yn glir yn ogystal ag ymrwymiad y rhai sy’n paratoi ac yn cefnogi dysgwyr trwy eu hastudiaethau.”  

Canlyniadau Lefel A, UG a Thystysgrif Her Sgiliau  

  • dyfarnwyd canlyniadau 2024 yn unol â threfniadau cyn y pandemig  
  • cafodd 32,235 o raddau Safon Uwch eu dyfarnu yr haf yma  
  • roedd 10.1% o'r graddau Safon Uwch a gafodd eu cyhoeddi yn radd A*, 29.9% yn A* i A ac roedd 97.4% yn raddau A* i E.  
  • ar gyfer unigolion 18 oed a gymerodd cymwysterau Safon Uwch CBAC, roedd 9.7% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 29.7% yn raddau A* i A a 97.7% yn raddau A* i E
  • cafodd 41,440 o raddau UG eu dyfarnu yr haf yma 
  • roedd 22.1% o'r graddau UG a gafodd eu cyhoeddi yn radd A a 90.2% yn raddau A i E
  • ar gyfer unigolion 17 oed a gymerodd cymwysterau UG CBAC, roedd 22.5% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A a 89.8% yn raddau A i E   

Mae gan Cymwysterau Cymru ragor o wybodaeth ar ei wefan am ganlyniadau cenedlaethol, yn ogystal â chymorth ynghylch y camau nesaf, ac mae gan Cymru'n Gweithio ganllawiau ar opsiynau ar gyfer y rhai sy'n cael canlyniadau.