NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

17.08.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Dysgwyr yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, UG a chymwysterau galwedigaethol heddiw

Bydd dysgwyr UG, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau Uwch a galwedigaethol yng Nghymru yn derbyn eu canlyniadau heddiw. Dyma’r ail flwyddyn i ddysgwyr sefyll arholiadau ac asesiadau allanol ers 2019.

“Hoffwn longyfarch pob dysgwr ledled Cymru wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau. Rydych chi wedi dangos yr hyn rydych chi'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud, a dylech fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi ei gyflawni," meddai Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru.  

Cafodd arholiadau ac asesiadau eu cynnal eto’r haf yma a hynny am yr eildro ers iddyn nhw gael eu canslo yn ystod y pandemig. Er mwyn cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod o bontio’n ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig, cafodd gwybodaeth ymlaen llaw ei darparu a rhoddwyd dull cefnogol o raddio ar waith.  

Yn ôl y bwriad, mae canlyniadau eleni ryw hanner ffordd rhwng rhai a ddyfarnwyd yn 2019 (y flwyddyn olaf cyn y pandemig) a 2022 (y flwyddyn gyntaf i ddysgwyr sefyll arholiadau wrth i ni ddod allan o’r pandemig).  Cafodd y dull hwn o raddio ei gyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon ac mae’n nodi’r cam nesaf ar daith system gymwysterau Cymru yn ôl i’r trefniadau asesu oedd ar waith cyn y pandemig. 

Aeth Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, yn ei flaen: 

“Eleni, rydyn ni wedi cymryd y cam nesaf ar ein taith yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig, gyda pheth cymorth ar waith i ddysgwyr wrth i ni bontio’n ôl i’r prosesau arferol. Hoffen ni ddiolch yn arbennig i’r holl ysgolion a cholegau am eu gwaith caled yn cefnogi dysgwyr drwy’r flwyddyn academaidd hon. 

Fel bob amser, mae cynnydd dysgwyr yn flaenoriaeth. Mae arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn galluogi dysgwyr i ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud. Mae’r graddau y mae dysgwyr yn eu cyflawni yn mesur eu cyrhaeddiad, ac yn caniatáu iddyn nhw symud ymlaen i’w camau nesaf, boed hynny i addysg uwch, addysg bellach neu gyflogaeth.  

Fel ym mhob blwyddyn, efallai na fydd rhai dysgwyr yn cael y graddau roedden nhw wedi gobeithio amdanyn nhw. Paid â phoeni os nad wyt ti wedi cael y graddau rwyt ti eu hangen. Mae llawer o opsiynau ar gael a llwybrau gwahanol y mae modd i ti eu hystyried. Bydd cymorth ar gael i ddysgwyr wrth iddyn nhw gymryd eu camau nesaf." 

Mae Cymru'n Gweithio yn cynnig cyngor diduedd, am ddim ar ba opsiynau sydd ar gael.  

Canlyniadau UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau  

  • cafodd canlyniadau yn 2023 eu dyfarnu hanner ffordd yn fras rhwng 2019 a 2022 – yn unol â’r dull polisi graddio ar gyfer y flwyddyn hon 
  • cafodd 32,960 o raddau Safon Uwch eu dyfarnu yr haf yma 
  • roedd 13.5% o'r graddau Safon Uwch a gafodd eu cyhoeddi yn radd A*, 34.0% yn A*-A ac roedd 97.5% yn raddau A*-E 
  • ar gyfer pobl ifanc 18 oed a wnaeth sefyll cymwysterau Safon Uwch CBAC, roedd 13.2% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A*, 33.7% yn raddau A*-A a 97.7% yn raddau A*-E 
  • cafodd 40,706 o raddau UG eu dyfarnu yr haf yma. 
  • roedd 25.5% o'r graddau UG a gafodd eu cyhoeddi yn radd A a 90.9% yn raddau A-E 
  • ar gyfer pobl ifanc 17 oed a wnaeth sefyll cymwysterau UG CBAC, roedd 25.7% o'r graddau a gafodd eu cyhoeddi yn raddau A a 90.8% yn raddau A*-E 

 

Mae manylion llawn canlyniadau Safon Uwch, UG a'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yng Nghymru ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru. Mae yna hefyd wybodaeth gefndirol ychwanegol am sut cafodd cymwysterau eu dyfarnu eleni a chymorth a chefnogaeth i ddysgwyr wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf.