NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

20.10.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID

Haf 2022 - gwahaniaethau yng nghanlyniadau cymwysterau yn ôl nodweddion dysgwyr

Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei datganiad ystadegol diweddaraf ar gyfres arholiadau 2022. Mae 'Dadansoddiad Effaith Cydraddoldeb Haf 2022: TGAU, UG a Safon Uwch' yn edrych ar wahaniaethau yng nghanlyniadau cymwysterau yn ôl nodweddion dysgwyr.

Gallai ffactorau dryslyd eraill fod wedi dylanwadu ar y gwahaniaethau hyn, fel y dewis o bynciau a chyrhaeddiad blaenorol nad oedd yn bosibl eu hystyried gyda’r data a oedd ar gael.

Mae hefyd yn bwysig gosod bylchau cyrhaeddiad yng nghyd-destun newidiadau yn y canlyniadau cyffredinol. Roedd trefniadau dyfarnu gwahanol ar waith yn 2020 a 2021 oherwydd bod arholiadau wedi’u canslo, a dyfarnwyd canlyniadau 2022 yn fras hanner ffordd rhwng 2019 a 2021.  

Ar lefel pwnc, gall yr amrywiad hwn fod yn eithaf sylweddol oherwydd newidiadau yng ngallu dysgwyr sy'n dewis astudio pwnc, meintiau cofrestru bach mewn llawer o gymwysterau a ffactorau eraill.

Yn y rhan fwyaf o bynciau, mae bylchau cyrhaeddiad ar sail rhywedd wedi bod o blaid merched yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  O'u cymharu â 2021, roedd y bylchau cyrhaeddiad ar sail rhywedd yn 2022 yn tueddu i fod yn gulach. O’u cymharu â 2019, roedd y bylchau cyrhaeddiad ar sail rhywedd yn 2022 yn tueddu i fod yn ehangach ar raddau uwch ond yn gulach ar raddau is. Fodd bynnag, nid oedd y patrymau hyn yn gyson ar draws pob pwnc.

Yn y rhan fwyaf o bynciau, roedd bwlch cyrhaeddiad TGAU yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn 2022 ar radd A/7 ac uwch yn gulach yn 2022 o’i gymharu â 2021, ond yn fwy nag yn 2019. Ar radd C/4 ac uwch mae'n gulach yn gyffredinol na 2021 a 2019, ond nid yw'r patrwm hwn yn gyson ar draws yr holl bynciau.

Yn y rhan fwyaf o bynciau, mae’r bwlch cyrhaeddiad TGAU yn ôl darpariaeth anghenion addysgol arbennig yn 2022 ar radd A/7 ac uwch yn gulach yn 2022 o’i gymharu â 2021, ond yn fwy nag yn 2019.

Ar radd C/4 ac uwch mae'n gulach yn gyffredinol na 2021 a 2019, ond nid yw'r patrwm hwn yn gyson ar draws yr holl bynciau.

Mae dadansoddi canlyniadau UG a Safon Uwch yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn dangos, yn gyffredinol, bod cyfran uwch o’r graddau uchaf yn cael eu dyfarnu yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, a llai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.  Mae'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn adlewyrchu'r duedd gyffredinol mewn canlyniadau ar gyfer y flwyddyn, felly mewn blynyddoedd lle mae canlyniadau'n uwch yn gyffredinol, mae'r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn fwy.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael am ganlyniadau yn ôl nodweddion disgyblion yn y datganiad Canlyniadau Arholiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.