Gwerthusiad annibynnol yn rhoi cipolwg cynnar ar ddiwygiadau i gymwysterau 14-16
Mae ymchwil annibynnol newydd yn darparu darlun cynnar o brofiadau ysgolion, dysgwyr, rhieni a gofalwyr ledled Cymru o’r diwygiadau i gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed.
Yr ymchwil, a gomisiynwyd gan Cymwysterau Cymru ac a gynhaliwyd gan Alma Economics, yw cam cyntaf gwerthusiad aml-flwyddyn a fydd yn dilyn gweithredu'r cymwysterau cenedlaethol 14-16 newydd. Mae'r ymchwil yn werthusiad ffurfiannol,
gyda'r bwriad o ddeall sut mae'r diwygiadau'n cael eu gweithredu mewn gwahanol gyd-destunau ysgol ac archwilio eu heffaith ar ddysgwyr, addysgwyr a'r system addysg ehangach.
Mae'r adroddiad cyntaf hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar gymwysterau TGAU gwneud-i-Gymru Ton 1, a gyflwynwyd i’w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025. Mae'n tynnu ar arolygon o staff ysgolion ac uwch arweinwyr, dysgwyr, rhieni a
gofalwyr, ochr yn ochr ag ymchwil fanylach gydag ysgolion ledled Cymru.
Canfyddiadau allweddol
Mae'r canfyddiadau’n rhoi cipolwg cynnar pwysig o'r diwygiadau. Maen nhw’n dangos bod profiadau'n amrywio rhwng ysgolion a phynciau, ac yn cael eu dylanwadu gan ffactorau gan gynnwys staffio ac adnoddau, anghenion dysgwyr, presenoldeb a chapasiti presennol yr ysgol. Mae'r ymchwil yn archwilio profiadau'r rhai wnaeth gymryd rhan, yn hytrach na rhoi canfyddiadau sy'n gynrychioliadol o'r boblogaeth ehangach, neu y gellir eu cyffredinoli i'r boblogaeth ehangach. Fe wnaeth yr ymchwil ganfod:
- bod llawer o staff ysgol yn cefnogi agweddau ar y diwygiadau mewn egwyddor, gan gynnwys mwy o ffocws ar sgiliau a chynnwys mwy ymarferol a pherthnasol mewn rhai pynciau
- bod staff wedi codi pryderon am amseru ac argaeledd adnoddau, canllawiau a chefnogaeth yn ystod y camau cynnar o weithredu
- bod asesu di-arholiad yn faes pryder cyffredin, yn enwedig ynghylch llwyth gwaith, amserlennu ac effaith gronnol asesiadau ar draws gwahanol bynciau
- bod dysgwyr, ar y cyfan, yn teimlo’n gadarnhaol am eu dewisiadau TGAU, gyda 73% yn dweud eu bod yn gallu dewis pynciau yr oedd ganddynt ddiddordeb ynddynt
- bod rhai dysgwyr a oedd wedi profi asesu digidol yn ei weld yn gadarnhaol, er bod ysgolion wedi codi cwestiynau am seilwaith a pharatoi ar gyfer ei gyflwyniad ehangach
- bod rhieni a gofalwyr, ar y cyfan, yn teimlo’n gadarnhaol ynglŷn â gwerth y cymwysterau TGAU newydd a'u rôl wrth gefnogi astudiaethau neu yrfaoedd dysgwyr yn y dyfodol.
Casglwyd y data cyn y newidiadau a gyhoeddwyd yr haf diwethaf gan CBAC i fynd i'r afael ag ystyriaethau llwyth gwaith sy'n gysylltiedig ag asesiadau di-arholiad. Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod y canfyddiadau hyn yn adlewyrchu cam cynnar iawn o weithredu. Ar adeg yr ymchwil, nid oedd dysgwyr wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf o'r cymwysterau newydd eto ac nid oedd llawer o agweddau ar y rhaglen ddiwygio ehangach wedi'u cyflwyno eto.
Dywedodd Tom Anderson, Cyfarwyddwr Dadansoddi a Dealltwriaeth Cymwysterau Cymru:
"Mae'r gwerthusiad annibynnol hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar y ffordd y mae'r don gyntaf o gymwysterau TGAU diwygiedig yn cael eu profi mewn ysgolion yn y cyfnod cynnar hwn. Mae'n tynnu sylw at arwyddion calonogol a meysydd lle mae ysgolion a dysgwyr yn profi heriau wrth iddyn nhw addasu i newid sylweddol.
"Mae'n amlwg bod cyd-destun ehangach - o ran gwahanol gymunedau ysgol a lefelau newid ar draws y system - yn dylanwadu ar effeithiau tymor byr sy'n gysylltiedig â'r newidiadau i’r cymwysterau.
"Mae'n bwysig ein bod ni’n parhau i wrando a dysgu wrth i'r diwygiadau gael eu gweithredu. Mae'r ymchwil hon yn rhoi llinell sylfaen bwysig i ni a bydd yn ein helpu ni i ddeall sut mae profiadau'n datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Dylai'r gwaith hwn
lywio ein dull o ddiwygio cymwysterau mewn ysgolion yn y dyfodol"
Mae ail flwyddyn y gwerthusiad annibynnol bellach ar y gweill a bydd yn adeiladu ar y dystiolaeth gynnar hon wrth i’r cymwysterau newydd barhau i gael eu gweithredu.
Darllenwch yr adroddiad gwerthuso annibynnol llawn a'r crynodeb gweithredol i gael gwybod mwy am y canfyddiadau.