NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

05.07.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR

Sut bydd graddau TGAU, UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau yn cael eu dyfarnu eleni?

Yn ystod y pandemig, mae canlyniadau wedi bod yn wahanol i'r cyfnod cyn y pandemig, felly bydd dull graddio ychydig yn wahanol yn cael ei ddefnyddio eleni.

Sut mae arholiadau'n cael eu marcio?

Mae’r holl bapurau arholiad yn cael eu marcio gan arholwyr sydd wedi cael eu hyfforddi gan ddefnyddio cynlluniau marcio manwl. Mae pob arholwr yn athro neu'n ddarlithydd, neu roedden nhw’n arfer â bod. Bydd CBAC yn dilyn ei brosesau arferol i sicrhau bod y gwaith marcio mor gyson â phosibl. Yn ôl yr arfer, byddwn ni’n monitro'r prosesau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith marcio, edrycha ar ein taflen wybodaeth Ffocws ar... Beth sy'n digwydd yn ystod y gwaith marcio? Neu gwylia ein fideo ar farcio a dyfarnu.

Sut mae ffiniau graddau yn cael eu gosod?

Ar ddiwedd y gyfres arholiadau pan fydd dysgwyr wedi cwblhau arholiadau ac asesiadau, mae'r radd mae pob dysgwr yn ei chael mewn pwnc yn dibynnu ar faint o farciau maen nhw’n eu cael yn eu harholiadau a'u hasesiadau di-arholiad. Unwaith bydd yr holl waith marcio wedi'i gwblhau, mae CBAC yn dod â phwyllgor dyfarnu at ei gilydd. Grŵp o uwch-arholwyr sy'n arbenigwyr yn y pwnc ac sydd fel arfer wedi helpu i osod a marcio'r papurau arholiad yw pwyllgor dyfarnu. Mae'r pwyllgor yn cyfarfod i argymell lle dylai ffiniau’r graddau gael eu gosod.

Bydd CBAC yn darparu amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth i'r pwyllgor dyfarnu i'w helpu nhw i benderfynu ble dylai ffiniau graddau gael eu gosod. Mae'r wybodaeth mae CBAC yn ei darparu yn cynnwys ystadegau ac enghreifftiau o waith dysgwyr. Yr haf yma, mae cyd-destun y dyfarniadau a’r tarfu mae dysgwyr wedi’i brofi yn ystyriaeth allweddol wrth benderfynu ar ffiniau graddau.

Yn Cymwysterau Cymru, byddwn ni’n monitro prosesau yn ôl yr arfer. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae ffiniau graddau'n cael eu gosod fel arfer, edrycha ar ein taflen Ffocws ar... Sut mae graddau’n cael eu penderfynu.

Bydd arholiadau’n cael eu graddio'n fwy hael eleni

Yn ystod y pandemig, mae canlyniadau wedi bod yn wahanol i'r cyfnod cyn y pandemig, felly bydd dull graddio ychydig yn wahanol yn cael ei ddefnyddio eleni. Fel rydyn ni eisoes wedi ei gyhoeddi, bydd y canlyniadau terfynol tua hanner ffordd rhwng 2021 a 2019. Mae hyn yn golygu, ar lefel genedlaethol, ein bod ni’n disgwyl i ganlyniadau fod yn uwch nag yn 2019 (y tro diwethaf i arholiadau ffurfiol gael eu sefyll) ac yn is nag yn 2021 (pan gafodd arholiadau eu canslo, a phan gafodd graddau eu pennu gan ysgolion a cholegau).

Rydyn ni’n parhau i weithio gyda CBAC i gytuno ar weithdrefnau ar gyfer dyfarnu graddau sy'n adeiladu ar y drefn arferol, gan ddarparu ar yr un pryd gynllun diogelwch i ddysgwyr. Rydyn ni hefyd yn cydgysylltu â rheoleiddwyr eraill y DU fel bod y broses raddio mor gyson â phosibl ac yn deg i ddysgwyr er mwyn cefnogi eu dilyniant i gam nesaf eu haddysg neu gyflogaeth.