Hyder cyhoeddus yn y system gymwysterau yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel
Wrth i ni gymryd cam tuag at drefniadau asesu cyn y pandemig, mae hyder cyhoeddus mewn cymwysterau yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel.
Mae’r ymchwil a gafodd ei gynnal ar gyfer Cymwysterau Cymru yn awgrymu bod cymwysterau TGAU, AS a lefel A yn cael eu cyfrif fel rhai sy’n cael eu “deall yn dda” ac yn “ddibynadwy”, sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaeth bellach.
Comisiynodd Cymwysterau Cymru Beaufort Research i baratoi arolwg blynyddol i fesur hyder cyhoeddus mewn cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru ac o fewn y system gymwysterau.
Canfyddiadau allweddol:
AS/Lefel A: Roedd cytundeb uchel fod AS / Lefel A yn baratoad da ar gyfer astudiaeth bellach a bod ‘AS/ Lefel A yn gymwysterau dibynadwy’.
TGAU: Mae TGAU yn cael ei weld fel ‘cymhwyster dibynadwy’ sy’n cael ei ‘ddeall yn dda’ gan y cyhoedd yng Nghymru.
Bagloriaeth Cymru: Mae ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am Fagloriaeth Cymru yn parhau i fod yn gymedrol, gyda 80% o oedolion yn dweud eu bod wedi clywed amdano.
Cymwysterau Galwedigaethol: Roedd dros wyth allan o ddeg o oedolion yng Nghymru yn 2022 yn cytuno bod ‘cymwysterau galwedigaethol, sy’n cael eu hastudio yn yr ysgol, yn werthfawr ar gyfer dyfodol bobl ifanc,’ tra roedd tua saith allan o ddeg yn cytuno bod ‘cwblhau cymwysterau galwedigaethol yn 18 oed yn lle Lefel A, o leiaf yr un mor werthfawr ar gyfer dyfodol pobl ifanc â chwblhau cymwysterau Lefel A.
Darllenwch yr adroddiad llawn, Arolwg o Farn y Cyhoedd am Gymwysterau Nad ydynt yn Raddau yng Nghymru 2022, ar wefan Cymwysterau Cymru.