Newidiadau i asesiadau di-arholiad mewn nifer fach o gymwysterau TGAU
Newidiadau i ofynion asesiadau di-arholiad mewn TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, TGAU Cymraeg Craidd a TGAU Astudiaethau Crefyddol.
Heddiw, mae CBAC wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau i ofynion asesiadau di-arholiad mewn TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, TGAU Cymraeg Craidd a TGAU Astudiaethau Crefyddol. Rydyn ni’n cefnogi'r newidiadau y mae CBAC wedi gofyn amdanynt i'r cymwysterau hyn. Lle bo angen, rydyn ni wedi gwneud mân newidiadau i'r dogfennau Rheoleiddio i gefnogi'r newidiadau hyn.
Mae'r newidiadau'n dilyn ymgysylltiad parhaus ag ysgolion a rhanddeiliaid eraill wrth i'r cymwysterau TGAU newydd gael eu gweithredu ledled Cymru. Fel y rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r pryderon a godwyd gan athrawon a phenaethiaid ynghylch y llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â gofynion asesiadau di-arholiad mewn nifer fach o bynciau. Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda CBAC i ystyried newidiadau y maent am eu gwneud i fynd i'r afael â'r pryderon hyn yn effeithiol.
Rydyn ni hefyd yn cydnabod mai dim ond ar gyfer y garfan o ddysgwyr Blwyddyn 10 sy'n dechrau eu rhaglen astudio TGAU ym mis Medi 2026 y gellir gweithredu rhai o'r newidiadau y mae CBAC yn eu cyhoeddi. Mae hyn oherwydd bod canolfannau wedi addysgu a chwblhau unedau mewn trefn wahanol, felly dydy hi ddim yn bosibl gwneud newidiadau a fyddai'n cefnogi pob dysgwr yn deg yn y garfan hon. Rydyn ni wedi gofyn i CBAC roi mesurau diogelwch priodol ar waith i gefnogi dysgwyr a ddechreuodd eu cymwysterau TGAU ym mis Medi 2025.
Byddwn ni’n parhau i weithio'n agos gyda CBAC a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyfres lawn o gymwysterau TGAU newydd yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus dros y blynyddoedd nesaf.