Pam fod rheoleiddio’n bwysig: cynnal hyder mewn cymwysterau
Pam fod rheoleiddio’n bwysig? Mae Denver Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio Cymwysterau Cymru, yn esbonio sut mae rheoleiddio effeithiol yn helpu i gynnal ymddiriedaeth a hyder mewn cymwysterau ac yn bwrw golwg ar ein Strategaeth Reoleiddio ar gyfer 2027-2035.
Mae cymwysterau’n bwysig ar adegau pwysig ym mywydau pobl. Gallan nhw helpu dysgwyr symud ymlaen i astudiaethau neu hyfforddiant pellach, cymryd eu cam nesaf i gyflogaeth, a dangos y wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y maen nhw wedi'u datblygu. Mae cyflogwyr, darparwyr addysg, ac eraill hefyd yn dibynnu arnyn nhw wrth wneud penderfyniadau pwysig. Er mwyn i gymwysterau gyflawni'r rôl honno, mae angen i bobl gael hyder ynddyn nhw. Dylai dysgwyr allu fod yn hyderus bod eu cymwysterau yn deg, yn ddilys ac yn ddibynadwy. Mae angen hyder ar ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant yn y cymwysterau maen nhw'n eu cynnig. Ac mae angen i gyflogwyr a'r cyhoedd wybod bod cymwysterau yn darparu cofnod ystyrlon o'r hyn mae rhywun yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.
Ein rôl fel y rheoleiddiwr
Cymwysterau Cymru yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru, ac ar gyfer y cyrff dyfarnu sy'n eu darparu. Mae gennym ddau brif nod: sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau, yn effeithiol ar gyfer bodloni anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru; a hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn y system gymwysterau.
Mae rheoleiddio yn rhan bwysig o gynnal yr hyder hwnnw.
Fel rheoleiddiwr, nid ein rôl ni yw darparu cymwysterau ein hunain. Rydyn ni’n goruchwylio'r system ac yn gosod disgwyliadau ar gyfer cyrff dyfarnu. Mae rheoleiddio cadarn yn helpu i roi sicrwydd ynghylch ansawdd, safonau a thegwch cymwysterau rheoleiddiedig.
Yr un mor bwysig i gynnal yr hyder hwnnw yw siapio sut y bydd cymwysterau yn bodloni anghenion dysgwyr yn y dyfodol - ac mae hynny'n rhan o'n rôl ni hefyd.
Diwygio'r cwricwlwm, datblygiadau mewn technoleg ddigidol, anghenion dysgwyr, cyflogwyr a sgiliau sy'n newid, disgwyliadau cynyddol ar gyfer darpariaeth ddwyieithog a newidiadau ehangach ar draws addysg – mae rhain oll yn siapio'r dirwedd cymwysterau yng Nghymru.
Fel y rheoleiddiwr, mae angen i ni fod yn barod i ymateb i'r newidiadau hyn gan sicrhau bod dysgwyr a hyder y cyhoedd wrth wraidd ein gwaith.
Edrych ymlaen at 2035
Ar hyn o bryd rydyn ni’n datblygu ein Strategaeth Reoleiddio hirdymor ar gyfer 2027 i 2035.
Bwriad y strategaeth yw darparu fframwaith clir, hirdymor ar gyfer ein gwaith rheoleiddio, ac egluro ein dull o reoleiddio yn ogystal â'r canlyniadau rydyn ni am eu cyflawni. Mae'n darparu fframwaith clir ar gyfer ein gwaith rheoleiddio wrth i'r dirwedd cymwysterau barhau i esblygu. Ein gweledigaeth arfaethedig yw system gymwysterau o ansawdd uchel yng Nghymru sy'n ddibynadwy, yn deg, yn ystwyth ac yn gynhwysol.
Er mwyn cefnogi'r weledigaeth hon, rydyn ni’n cynnig pedair blaenoriaeth reoleiddio:
- Sicrwydd
- Atal
- Arloesedd
- Cynhwysiant
Bwriad y blaenoriaethau hyn yw ein helpu ni i gynnal hyder mewn cymwysterau rheoleiddiedig, nodi a lleihau risgiau cyn iddyn nhw effeithio ar ddysgwyr neu'r system ehangach, cefnogi arloesedd cyfrifol, a hyrwyddo tegwch, hygyrchedd a chynhwysiant.
Mae'n bwysig nodi nad yw'r strategaeth ei hun yn cyflwyno gofynion rheoleiddio newydd neu newidiadau i gymwysterau ac asesiadau. Yn hytrach, mae'n gosod y cyfeiriad ar gyfer ein gwaith rheoleiddio dros y blynyddoedd i ddod.
Helpwch i siapio ein dull gweithredu
Rydyn ni am i'r strategaeth ddarparu fframwaith clir a defnyddiol, nid yn unig i ni fel y rheoleiddiwr, ond i'r bobl a'r sefydliadau sy'n ymwneud â'r system gymwysterau.
Dyna pam ein bod ni’n gofyn am farn ar ein cynigion ar hyn o bryd.
Rydyn ni am wybod a yw ein gweledigaeth, ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu arfaethedig yn gywir ac a oes effeithiau rheoleiddio, cydraddoldeb, y Gymraeg neu effeithiau eraill y mae angen i ni eu hystyried.
Mae’r ymgynghoriad ar agor i bawb. Bydd eich adborth yn llywio'r strategaeth derfynol. Byddwn ni’n ystyried yr holl ymatebion y byddwn ni’n eu derbyn, yn adolygu ac yn diweddaru'r strategaeth a'r asesiad effaith cysylltiedig lle bo hynny'n briodol, ac yn cyhoeddi adroddiad penderfyniadau a chrynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 6 Ionawr 2027.
Cyfle i chi ddweud eich dweud am ein Strategaeth Reoleiddio arfaethedig ar gyfer 2027-2035
Darllenwch ein cynigion a chwblhewch yr arolwg ar-lein i helpu siapio sut byddwn ni’n rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod.