BLOG

Cyhoeddwyd:

05.10.26

Pennod newydd i Safon UG a Safon Uwch mewn Cymraeg

Ar ôl gweithio’n agos gyda’r sector addysg, yn gynharach eleni gwnaethom gymeradwyo cymwysterau Safon UG a Safon Uwch newydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Cymraeg Craidd. Mae’r cymwysterau newydd hyn wedi’u datblygu gan CBAC a byddant yn disodli’r cymwysterau Safon UG a Safon Uwch cyfredol mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Cymraeg Ail Iaith.

Mae CBAC bellach wedi cyhoeddi’r manylebau i helpu athrawon i baratoi i gyflwyno’r cymwysterau cyn i’r addysgu cyntaf ddechrau ym mis Medi 2027. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y gwaith cydweithredol i ddatblygu ystod o gymwysterau a fydd yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg. 

Ond mae hyn yn fwy na chyflwyno cymwysterau newydd... 
Mae’n sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i barhau i ddatblygu eu dysgu gydol oes, a’u mwynhad o’r Gymraeg ar ôl 16 oed.
 
Mae’r datblygiadau hyn yn rhan o uchelgais genedlaethol ehangach ar gyfer y Gymraeg. Drwy Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru), mae Cymru wedi nodi ymrwymiad clir i gryfhau addysg Gymraeg a chefnogi mwy o ddysgwyr i ddatblygu’r hyder, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen mewn cymdeithas ddwyieithog yn y dyfodol. Mae’r cymwysterau Safon Uwch newydd mewn Cymraeg yn rhan o’r daith honno, gan helpu i greu llwybr clir ac ystyrlon i ddysgwyr sydd am barhau â’r Gymraeg y tu hwnt i addysg orfodol a datblygu eu sgiliau iaith ymhellach. 

Perthnasol, diddorol a gwerthfawr 
Wrth wraidd y cymwysterau newydd mae uchelgais syml... helpu dysgwyr i ddod yn ddefnyddwyr hyderus a medrus o’r Gymraeg drwy gydol eu hoes. 

Ble bynnag bydd dysgwyr yn mynd ymlaen i ddefnyddio’r iaith - yn eu hastudiaethau pellach, yn y gweithle, neu fel rhan o’u bywydau bob dydd - mae’n bwysig eu bod yn gweld perthnasedd a gwerth y cymwysterau Cymraeg y gwnaethant ddilyn y tu hwnt i addysg orfodol. 

Bydd y cymwysterau newydd yn parhau i gefnogi dilyniant i astudio’r Gymraeg fel pwnc mewn addysg uwch. Gall hyn gyfrannu at ddatblygu’r arbenigedd sydd ei angen ar gyfer gweithlu dwyieithog, gan gynnwys athrawon y dyfodol sy’n gallu addysgu Cymraeg ac addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Rydyn ni wedi gwrando ar ystod eang o safbwyntiau er mwyn cyrraedd y pwynt hwn
Mae’r cymwysterau wedi’u llunio gan yr unigolion sy’n adnabod cymwysterau Cymraeg orau. Ar bob cam o’r daith, cafwyd mewnbwn gan ystod eang o unigolion a sefydliadau sydd â rôl mewn addysg Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys athrawon, darlithwyr a dysgwyr, yn ogystal â phrifysgolion a chyflogwyr. Mae nodweddion dylunio’r cymwysterau newydd yn adlewyrchu’r safbwyntiau a rannwyd yn ein hymgynghoriad cyhoeddus, yn ogystal â’r mewnbwn parhaus gan y sector wrth i’r cymwysterau gael eu datblygu. 

Gydag ystod ehangach o gyd-destunau dysgu, asesiadau a thestunau wedi’u diweddaru, a mwy o bwyslais ar gyfathrebu ymarferol a llafar, y nod yw sicrhau bod y cymwysterau’n adlewyrchu profiadau a diddordebau amrywiol pob dysgwr sy’n astudio’r Gymraeg yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn apelio at ystod mor eang â phosibl o ddysgwyr. 

Yn ogystal, mae’r newidiadau yn cydnabod ac yn cadw’r hyn sy’n gweithio’n dda yn y cymwysterau cyfredol. Rydyn ni am gynnal gwerth a statws y cymwysterau academaidd, traddodiadol hyn, sy’n uchel eu parch am gefnogi dilyniant ac sy’n cynnig profiadau cyfoethog a diddorol o lenyddiaeth, treftadaeth a diwylliant Cymru. 

Gweithio gydag eraill wrth edrych tua’r dyfodol 
Wrth i ysgolion a chanolfannau baratoi ar gyfer cyflwyno’r cymwysterau newydd hyn, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda CBAC, Adnodd a phartneriaid eraill i gefnogi canolfannau a chodi ymwybyddiaeth o’r newidiadau sydd ar y gweill. 

Mae’r cymwysterau Safon UG a Safon Uwch newydd hyn yn gam pwysig tuag at sicrhau bod cymwysterau Cymraeg yn cefnogi’r uchelgeisiau ar gyfer yr iaith, ac, ar gyfer addysg Gymraeg, gan ddarparu cymwysterau i ddysgwyr sy’n berthnasol, yn werthfawr ac yn addas at y diben. 

Ond ni ellir ystyried eu cyfraniad ar ei ben ei hun. Mae gwireddu’r uchelgeisiau ar gyfer y Gymraeg yn gofyn am ymdrech barhaus a chydweithio ar draws y sector addysg. Rydyn ni’n ddiolchgar am yr holl gyfraniadau cydweithredol hyd yma ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gydag eraill wrth i’r cymwysterau gael eu cyflwyno.