Cymwysterau Cymru yn cadarnhau dull graddio 2022
Heddiw mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau'r dull graddio a'r cynlluniau wrth gefn ar gyfer cyfres arholiadau haf 2022 ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau CBAC.
Heddiw mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau'r dull graddio a'r cynlluniau wrth gefn ar gyfer cyfres arholiadau haf 2022 ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau CBAC.
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai arholiadau yn haf 2022, ac y byddai'r gofynion asesu ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, a Thystysgrif Her Sgiliau CBAC yn cael eu haddasu er mwyn lleihau effaith colli amser addysgu a dysgu wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig.
Ym mis Gorffennaf 2021, ymgynghorodd CBAC â dysgwyr, rhieni, ysgolion a cholegau ynghylch y newidiadau arfaethedig ac ym mis Medi 2021, cyhoeddodd CBAC wybodaeth i ddysgwyr a rhieni am y newidiadau i gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Addasiadau Haf 2022 (cbac.co.uk) 2022 a'r Dystysgrif Her Sgiliau.
Dull graddio
Gydag arholiadau’n dychwelyd, bydd CBAC yn dyfarnu graddau i ddysgwyr yn haf 2022. Rydym wedi holi barn rhanddeiliaid ac hefyd wedi ystyried y dulliau sy'n cael eu defnyddio gan reoleiddwyr cymwysterau mewn rhannau eraill o'r DU.
Ar gyfer haf 2022, rydym wedi penderfynu alinio â'r dull a ddefnyddir yn Lloegr er mwyn sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru dan anfantais o gymharu â dysgwyr yn Lloegr yn enwedig lle defnyddir cymwysterau i symud ymlaen i sefydliadau addysg uwch. Hynny yw, i drin 2022 fel blwyddyn bontio i adlewyrchu ein bod mewn cyfnod adfer yn sgil pandemig a bod amharu wedi bod ar addysg dysgwyr. Yn 2022, anelwn, felly, at i ganlyniadau adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng 2021 a 2019. Yn 2023 rydym yn anelu at ddychwelyd at ganlyniadau sy'n unol â'r rhai mewn blynyddoedd cyn pandemig.
Fel yn haf 2021, mae'n flaenoriaeth bod y graddau y mae dysgwyr yn eu cyflawni yn eu helpu i symud ymlaen i gam nesaf eu taith ddysgu a/neu gyflogaeth. Wrth ddod i'r penderfyniad i ddefnyddio'r dull hwn, rydym ni wedi ystyried buddiannau dysgwyr haf 2022 a'r rheini yn y gorffennol ac yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i weithio gyda rheoleiddwyr eraill ledled y DU i alinio ein dull ar gyfer haf 2022 fel bod y broses raddio’n deg i ddysgwyr.
Bydd y penderfyniad ar y dull o raddio TGAU, UG a Safon Uwch yn cael effaith ar rai cymwysterau galwedigaethol a ddefnyddir at ddibenion tebyg, gan gynnwys symud ymlaen i astudiaeth bellach. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu ystyried y dull a ddefnyddir ar gyfer TGAU a Safon Uwch wrth osod safonau mewn cymwysterau galwedigaethol fel nad yw dysgwyr galwedigaethol dan anfantais o gymharu â dysgwyr sy'n cymryd TGAU a Safon Uwch.
Dull wrth gefn ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch - haf 2022
Er y disgwylir y bydd cymwysterau'n cael eu hasesu yn y ffordd arferol, drwy arholiadau a/neu asesiadau di-arholiad gydag addasiadau, gallai fod newidiadau yn sefyllfa iechyd y cyhoedd sy'n arwain at ganslo'r gyfres arholiadau.
Os bydd arholiadau'n cael eu canslo, gofynnir i ysgolion a cholegau ddyfarnu graddau a bennir gan y canolfannau i ddysgwyr. Byddai'r dull graddau a bennir gan ganolfannau’n debyg i'r un a ddefnyddiwyd yn 2021, ond gyda rhai gwelliannau i ystyried y dysgu o ddull eleni.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru,
“Bydd llawer o ddysgwyr sy'n astudio ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn haf 2022 wedi wynebu aflonyddwch digynsail i'w haddysg dros y 18 mis diwethaf ac rydym am sicrhau bod eu hasesiadau yr haf nesaf mor deg â phosibl. Y flwyddyn nesaf byddwn yn dychwelyd i asesiadau arferol sydd yn darparu dull teg a chyson i ddysgwyr.
“Rydym wedi ystyried y ffordd decaf i ddyfarnu graddau, gan ystyried barn rhanddeiliaid ledled Cymru yn ogystal â gweithio gyda rheoleiddwyr cymwysterau arall ledled y DU. Bydd ein hymagwedd yn cyd-fynd â'r dull a ddefnyddir yn Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd canlyniadau yn 2022 yn adlewyrchu pwynt hanner ffordd yn fras rhwng 2021 a 2019 ac yn darparu chwarae teg i ddysgwyr Cymru, yn enwedig y rhai sy'n gwneud cais am fynediad i brifysgolion ledled y DU.
“Mae hwn yn gyfnod ansicr ac os bydd amgylchiadau'n newid, a bod y gyfres arholiadau'n cael ei chanslo rydym yn darparu cynlluniau wrth gefn a fydd yn caniatáu i ysgolion a cholegau ddyfarnu graddau mewn dull sy’n seiliedig ar yr hyn a ddefnyddiwyd yn haf 2021. Byddwn yn gweithio gyda CBAC i hysbysu ysgolion a cholegau o'r cynlluniau hyn fel bod pawb yn glir ynghylch beth sydd angen ei wneud.
“Rydym yn gwybod y gall dysgwyr fod yn bryderus a bod ganddynt bryderon ynghylch dychwelyd i arholiadau, a dyna pam, rydym yn cynllunio ystod o gyfathrebu i'w cefnogi nhw.’’