NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

07.12.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID

Rhieni, dysgwyr ac athrawon: Dim ond 1 wythnos ar ôl i helpu i lunio'r TGAU newydd i Gymru

Mae arholiadau TGAU yng Nghymru yn newid, a dim ond un wythnos sydd ar ôl i gymryd rhan a helpu i lunio arholiadau TGAU'r dyfodol.

Yn un o'r ymgynghoriadau mwyaf ar addysg yng Nghymru, mae Cymwysterau Cymru yn annog athrawon, dysgwyr, rhieni, cyflogwyr a'r cyhoedd i 'Dweud eich Dweud' ar ddiwygiadau TGAU, cyn i'r ymgynghoriad gau ar 14 Rhagfyr. 
 
Mae llawer o addysgwyr, dysgwyr a chyflogwyr ledled y wlad eisoes wedi ymateb i'r ymgynghoriad ers 4 Hydref. Nawr dim ond wythnos sydd ar ôl i gasglu barn y rhai sydd am helpu i lunio'r cymwysterau fydd yn cael eu cyflwyno yn 2025. 

Mae'r cynigion am 26 o gymwysterau TGAU newydd yn adlewyrchu gofynion Cwricwlwm Cymru, a ddechreuodd gael ei ddysgu mewn ysgolion fis Medi eleni. Mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am adborth ar gynnwys ac asesiad arfaethedig o amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys TGAU newydd sbon mewn Astudiaethau Cymdeithasol, Peirianneg, Ffilm a'r Cyfryngau Digidol, a Dawns. 

Bydd y TGAU newydd yn cael eu cyflwyno yn 2025, gyda disgyblion ym Mlwyddyn 7 ar hyn o bryd y cyntaf i astudio'r cymwysterau newydd. 

Bydd TGAU Gwneud-i-Gymru newydd sbon yn cynnig: 

  • cyfleoedd i ddysgwyr ddangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau a gafwyd trwy astudio'r Cwricwlwm i Gymru;
  • cynnwys ac asesiadau hyblyg i helpu ysgolion i gynllunio eu cwricwla eu hunain a bodloni anghenion dysgwyr; 
  • cymysgedd o ddulliau asesu, gyda llai o bwyslais ar arholiadau a mwy o gyfleoedd i gael eu hasesu yn ystod y cwrs astudio;
  • defnydd mwy effeithiol o asesiadau digidol

Wrth ddatblygu'r cynigion hyn, fe gasglodd Cymwysterau Cymru safbwyntiau gan dros 1,400 o ddysgwyr, ar yr hyn maen nhw ei eisiau gan gymwysterau'r dyfodol.

Dywedodd Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru: 
"Mae'n bwysig ein bod yn casglu'r safbwyntiau ehangaf posibl yn yr ymgynghoriad hwn, er mwyn sicrhau y bydd arholiadau TGAU newydd Cymru yn addas i bwrpas. Mae llawer o athrawon, darlithwyr a hyfforddwyr eisoes wedi ymateb, sy'n wych. Ond bydd effaith y newidiadau hyn i'w deimlo ymhell tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Rydym hefyd eisiau clywed gan ddysgwyr, rhieni a chyflogwyr. Felly os ydych chi'n riant i blentyn oed ysgol. yn enwedig os ydyn nhw ym Mlwyddyn 7 neu'n iau, dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei feddwl. Ac os ydych chi'n gyflogwr, mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n gwybod beth ydych chi'n ei feddwl o'r cynlluniau hyn. Felly byddwn i'n annog pawb i roi eu barn i ni cyn i'r ymgynghoriad gau ar 14 Rhagfyr." 

Dywedodd Rhodri Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth:    
"Roedden ni'n falch iawn o egluro'r newidiadau arfaethedig i'n disgyblion a'u hannog i rannu eu barn arnyn nhw. Rydym yn falch iawn bod safbwyntiau mor eang yn cael eu ceisio, er mwyn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Rydym yn gyffrous i helpu i lunio TGAU'r dyfodol." 

Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad: 
Cyflwynwch eich barn trwy wefan bwrpasol Cymwysterau Cymru - Dweud Eich Dweud - Cymwysterau Cymru. Gallwch chi ymateb i gynigion manwl ar gyfer pob TGAU, neu roi adborth cyffredinol ar y newidiadau i gyd. 

Mae’r ymgynghoriad, a lansiodd ar 4 Hydref 2022, yn cau ar 14 Rhagfyr 2022. Ym mis Mai 2023, byddwn yn cyhoeddi’r gofynion dylunio terfynol rydyn ni’n eu galw’n ‘Feini Prawf Cymeradwyo’. Rhaid i gyrff dyfarnu ddilyn y Meini Prawf Cymeradwyo hyn pan fyddan nhw’n datblygu’r fanyldeb fanwl a’r asesiadau ar gyfer pob cymhwyster newydd.