NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

21.04.26

Teithiau dysgwyr ar gyfer cymwysterau galwedigaethol

Mae Cymwysterau Cymru wedi diweddaru eu teithiau dysgwyr ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, i gefnogi dysgwyr ledled Cymru wrth iddyn nhw archwilio eu camau nesaf ar gyfer blwyddyn academaidd 2026-2027.

Wedi'u cyflwyno gyntaf y llynedd, datblygwyd ein hadnoddau teithiau dysgwyr mewn cydweithrediad â cholegau, darparwyr hyfforddiant, cyrff dyfarnu, cynghorwyr gyrfaoedd ac, yn hollbwysig, y dysgwyr eu hunain.  

Maen nhw ar gael fel dogfennau un dudalen sy'n mapio cymwysterau galwedigaethol ar lefel mynediad i lefel 3 sy’n cael eu haddysgu mewn ysgolion, colegau addysg bellach a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith. 

Mae’r teithiau dysgwyr yn rhoi trosolwg clir o'r cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael mewn sectorau allweddol. Maen nhw ar gael i helpu pobl ifanc i ddeall y llwybrau cymhwyso sydd ar gael iddyn nhw, boed hynny'n astudiaeth bellach, prentisiaethau, neu’n fynediad uniongyrchol i gyflogaeth. Maen nhw wedi'u cynllunio i:  

  • gefnogi dysgwyr a'u rhieni wrth iddyn nhw ymchwilio i'w hopsiynau mewn maes galwedigaethol
  • bod yn syml i'w defnyddio
  • rhoi cipolwg ar yr holl lwybrau ac opsiynau sydd ar gael o ran cymwysterau. 

Beth sy'n newydd ar gyfer 2026-2027? 

Rydyn ni wedi bod yn adolygu’r teithiau dysgwyr gyda phartneriaid a'u diweddaru lle bo angen, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gywir, yn berthnasol ac yn cyd-fynd â'r cymwysterau a'r llwybrau diweddaraf sydd ar gael yng Nghymru.  

Mae’r teithiau dysgwyr yn dal i gyflwyno'r un trosolwg clir o'r holl opsiynau galwedigaethol sydd ar gael ym mhob sector; ond maen nhw wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026-2027..   

Dywedodd Leanne Hallett, Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru: 

"Roedden ni eisiau cynhyrchu adnoddau defnyddiol i ddysgwyr sy'n dangos yr holl opsiynau a’r llwybrau gwahanol sydd ar gael mewn amrywiaeth o sectorau.” 

"Er bod pob taith dysgwr yn gallu bod ychydig yn wahanol, gan adlewyrchu tirwedd cymwysterau gwahanol, maen nhw i gyd yn rhoi cipolwg ar yr opsiynau sydd ar gael." 

"Gall dysgwyr sy'n edrych ar eu hopsiynau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf weld y teithiau dysgwyr ar wefan Cymwysterau Cymru. P'un ai ydyn nhw'n dewis pynciau yn yr ysgol, yn ystyried cyrsiau coleg, neu'n chwilio am lwybrau i ddysgu seiliedig ar waith, bydd y mapiau newydd yma’n helpu dysgwyr i ddeall yr ystod lawn o ddewisiadau sydd ar gael iddyn nhw." 

 

Mae'r holl adnoddau taith y dysgwr ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru