Trosolwg o ganlyniadau Ionawr 2024
Heddiw (7 Mawrth) bydd rhai dysgwyr yng Nghymru yn cael eu canlyniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau y gwnaethon nhw eu sefyll ym mis Ionawr 2024.
Hoffai Cymwysterau Cymru ddymuno'r gorau i ddysgwyr sy'n cael canlyniadau a diolch i bawb sydd wedi cefnogi dysgwyr.
Roedd cyfres Ionawr 2024 yn cynnwys: arholiadau unedau TGAU Llenyddiaeth Saesneg a TGAU Llenyddiaeth Gymraeg, rhai elfennau a dyfarniadau cymwysterau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chymwysterau Gofal Plant Lefel 2 a 3, a chymwysterau’r Dystysgrif Her Sgiliau.
Yn ei rôl fel rheoleiddiwr, fe wnaeth Cymwysterau Cymru fonitro sut y gwnaeth CBAC ddarparu’r gyfres hon, a'r dull a ddefnyddiwyd i ddyfarnu graddau yn fanwl. Rydyn ni’n hyderus bod prosesau y cytunwyd arnyn nhw wedi eu dilyn a bod y graddau a ddyfarnwyd mor deg â phosibl i ddysgwyr.
Mae'r rhan fwyaf o ganlyniadau cyfres mis Ionawr ar lefel uned, sy'n golygu eu bod yn un rhan o gymhwyster mwy, ac felly nid ydyn nhw’n cael eu cyhoeddi. Cyhoeddodd CBAC ganlyniadau ar gyfer unrhyw gymwysterau cyflawn ar gyfer cyfres arholiadau Ionawr 2024 yng Nghymru ar ei wefan heddiw.