Y cymwysterau TGAU newydd sydd bellach yn cael eu haddysgu yng Nghymru
Mae'r holl gymwysterau TGAU newydd sydd wedi cael eu datblygu fel rhan o'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol bellach yn cael eu haddysgu mewn ysgolion, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn nhaith diwygio addysg yng Nghymru, meddai Kerry Jones, Uwch Reolwr Cymwysterau.
Y mis Medi hwn, mae'r holl gymwysterau TGAU newydd sydd wedi cael eu datblygu fel rhan o'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol ar gael i’w haddysgu mewn ysgolion ar draws Cymru am y tro cyntaf. Mae'n foment sy'n werth ei dathlu, ac yn un sydd wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd.
Ers mis Medi 2025, mae dysgwyr wedi bod yn astudio'r don gyntaf o gymwysterau TGAU gwneud-i-Gymru, mewn pynciau megis Cyfrifiadureg, Cymraeg, Saesneg a Daearyddiaeth, ymhlith eraill. Nawr, mae ail set o gymwysterau TGAU diwygiedig yn cael eu cyflwyno i’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys tri phwnc newydd sbon sydd erioed wedi bodoli fel cymwysterau TGAU annibynnol yng Nghymru o'r blaen.
Paratoi ar gyfer y foment hon
Dechreuodd ein gwaith i ddiwygio'r cymwysterau a gynigir i bobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru yn ôl yn 2019. Mae nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus, gweithgareddau ymgysylltu a phapurau ymchwil wedi ein harwain at y foment hon, gyda safbwyntiau a gwybodaeth gan randdeiliaid ar draws y sector yn llywio'r cymwysterau TGAU sydd bellach yn cael eu haddysgu mewn ysgolion.
Ni fyddai'r raddfa hon o newid yn bosibl heb yr ymrwymiad a'r proffesiynoldeb a ddangosir gan benaethiaid, athrawon a staff cymorth. Rydyn ni’n parhau i wrando'n astud ar adborth gan randdeiliaid, gan gynnwys athrawon a dysgwyr, er mwyn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn cefnogi pobl ifanc yng Nghymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer bywyd, dysgu pellach a gwaith.
Cyflwyno tri phwnc newydd sbon
Ochr yn ochr â phynciau sefydledig sydd wedi'u diweddaru i ddiwallu anghenion y Cwricwlwm i Gymru, mae tri chymhwyster TGAU cwbl newydd bellach yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf.
TGAU Dawns
Mae'r cymhwyster newydd hwn yn cydnabod dawns fel disgyblaeth unigryw a gwerthfawr.
Bydd dysgwyr yn archwilio coreograffi, perfformiad, a gwerthfawrogiad beirniadol o weithiau dawns, gan ddatblygu sgiliau corfforol a mynegiant creadigol. Gall athrawon ddisgwyl pwyslais cryf ar ddysgu ymarferol, gyda dysgwyr yn magu hyder wrth berfformio a chreu gwaith gwreiddiol, yn ogystal â datblygu eu gallu i ddadansoddi a thrafod dawns o ystod o arddulliau a thraddodiadau.
TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol
Mae'r cymhwyster hwn yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol creadigrwydd digidol ac adrodd straeon yn y byd heddiw.
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau ymarferol mewn meysydd fel gwneud ffilmiau, creu cynnwys digidol, a chynhyrchu cyfryngau, ochr yn ochr â dealltwriaeth feirniadol o sut mae'r cyfryngau yn siapio ac yn adlewyrchu cymdeithas. Gall athrawon ddisgwyl i ddysgwyr gymryd rhan mewn gwaith gwirioneddol greadigol, sy’n seiliedig ar brojectau, gan ddefnyddio offer sy'n berthnasol i'r diwydiant a meithrin sgiliau y mae galw cynyddol amdanyn nhw ar draws ystod eang o yrfaoedd.
TGAU Astudiaethau Cymdeithasol
Mae Astudiaethau Cymdeithasol yn rhoi cyfle i ddysgwyr archwilio'r gymdeithas maen nhw’n byw ynddi, gan archwilio pynciau fel hunaniaeth, hawliau a chyfrifoldebau, cydraddoldeb ac anghydraddoldeb, a dylanwad llywodraethau yng Nghymru a thu hwnt.
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddylunio i helpu dysgwyr i ddeall newid cymdeithasol, dinasyddiaeth a'u rôl eu hunain mewn cymdeithas amrywiol. Bydd dysgwyr hefyd yn archwilio eu cynefin trwy weithredoedd ysgogwyr newid yng Nghymru, gan gynnwys yr ymgyrchydd gwrth-apartheid Hanef Bhamjee, yr amgylcheddwr Alex Griffiths, a'r ymgyrchwyr dros yr iaith Gymraeg Eileen a Trefor Beasley.
Gallwch chi ddarllen mwy am y cymwysterau newydd hyn yn ein blogiau pwnc-benodol sy’n ystyried yr hyn y gall athrawon a dysgwyr ddisgwyl ei weld o'r cymwysterau TGAU newydd yn fwy manwl:
Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion
Bellach mae gan ysgolion fynediad llawn at set o gymwysterau TGAU perthnasol a chyfoes er mwyn datblygu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion, diddordebau, galluoedd a dyheadau eu dysgwyr unigol.
Mae'r cymwysterau TGAU newydd wedi'u dylunio i roi asesiadau i ddysgwyr sy'n adlewyrchu'r addysgu a'r dysgu maen nhw wedi'u profi drwy gydol yr ysgol uwchradd o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae diben, nodau, cynnwys a phrofiadau pob cymhwyster yn cefnogi yr hawl i ddysgu 14 i 16 Llywodraeth Cymru, gan gynnig ehangder, cydlyniad a chysylltiad cryfach rhwng profiad yn yr ystafell ddosbarth a sut mae'r dysgu hwnnw'n cael ei gydnabod a'i wobrwyo.
Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o ddulliau asesu, gan ddarparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu a sicrhau gwerthusiad tecach o alluoedd dysgwyr. Maen nhw hefyd yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol lle bynnag y bo modd er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer y byd digidol a gwella eu cyflogadwyedd.
Yn y pen draw, bydd y cymwysterau newydd hyn yn helpu ysgolion i ddarparu amgylchedd addysgol sy'n ddeinamig, yn gynhwysol ac yn ysbrydoledig i bob dysgwr.
Edrych i’r dyfodol
Er bod y garreg filltir hon yn cynrychioli cwblhau'r broses o gyflwyno cymwysterau TGAU newydd, mae ein taith yn parhau tuag at system gymwysterau sydd wedi'i thrawsnewid yn gyfan gwbl ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed.
Ym mis Medi 2027, bydd dysgwyr yn dechrau astudio’r cymwysterau TAAU, Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau newydd am y tro cyntaf. Gall ysgolion ddisgwyl gweld cyrff dyfarnu yn cyhoeddi eu manylebau cymeradwy ar gyfer y cymwysterau newydd hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Gyda'i gilydd, bydd y Cymwysterau Cenedlaethol yn helpu dysgwyr yng Nghymru i fod yn gymwys ar gyfer y dyfodol.