Y Project Personol: cefnogi datblygiad sgiliau annibynnol o fis Medi 2027 ymlaen
Mae’r cymwysterau Project Personol newydd yn gyfle i ddysgwyr ddewis pwnc sydd o ddiddordeb gwirioneddol iddyn nhw er mwyn meithrin ymgysylltiad effeithiol wrth ddatblygu ac asesu'r sgiliau sy'n bwysig ar gyfer symud ymlaen mewn bywyd, dysgu pellach a gwaith.
Gall dewis y cymwysterau iawn gael dylanwad mawr ar hyder, sgiliau a chyfleoedd dysgwr yn y dyfodol, waeth pa lwybr y byddan nhw’n ei ddewis.
Mae cymwysterau Project Personol yn cynnig ffordd hyblyg o feithrin sgiliau hanfodol trwy astudio pwnc mae’r dysgwr wedi ei ddewis eu hunain. Boed y dysgwr dan sylw’n cymryd ei gamau cyntaf tuag at astudio annibynnol, neu eisoes yn gweithio'n hyderus ar lefel uwch, mae’r cymwysterau hyn wedi eu cynllunio i gefnogi cynnydd.
Bydd y cymwysterau newydd hyn ar gael o fis Medi 2027, ac fe’u crëwyd yn sgil gwaith ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys dysgwyr, rhieni, cyflogwyr a darparwyr addysg uwch.
Yn y blog hwn, byddwn ni’n egluro beth fydd yn y cymwysterau hyn a sut y gallen nhw fod o fudd i ddysgwyr ar unrhyw lwybr addysg, waeth beth fo’u nod.
Beth yw cymwysterau Project Personol?
Mae cymwysterau Project Personol yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu a dangos sgiliau hanfodol trwy ymgysylltu â phwnc o’u dewis.
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i gynllunio eu project, i osod nodau SMART a dylunio meini prawf llwyddiant, ystyried dibynadwyedd adnoddau, archwilio a chynhyrchu syniadau, ystyried ac ymateb i werthoedd a syniadau pobl eraill, a nodi llwyddiannau a meysydd i'w datblygu.
Nid yw dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu gwybodaeth o’u pwnc dewisol.
Mae cymwysterau Project Personol yn gymwysterau llai ac yn annibynnol sy’n gyfystyr â 60 o oriau dysgu dan arweiniad. Maen nhw wedi'u cynllunio i ategu cymwysterau eraill o fewn rhaglen astudio dysgwr, er enghraifft cymwysterau TGAU, TAAU neu’r Gyfres Sgiliau.
Gall dysgwyr gael marc Llwyddiant, Teilyngdod neu Ragoriaeth, yn dibynnu ar lefel eu cymhwyster.
Ynghyd â’r cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith newydd, mae’r cymwysterau Project Personol yn adeiladu ar gryfderau'r Project Unigol sy’n rhan o'r Dystysgrif Her Sgiliau mewn llawer o ysgolion.
Rhywbeth i bob dysgwr
Hyblygrwydd yw un o brif gryfderau'r cymwysterau Project Personol.
Byddan nhw ar gael ar lefel mynediad (lefel mynediad 1 hyd at lefel mynediad 3), lefel 1 a lefel 2, gan gynnig rhywbeth i ddysgwyr ar bob cam; o'r rhai sy'n meithrin sgiliau sylfaenol, megis trefnu, creadigrwydd ac annibyniaeth, i'r rhai sydd eisoes yn dangos mwy o ymreolaeth.
Mae dysgu sy’n seiliedig ar brojectau ac astudio’n annibynnol yn sgiliau pwysig ar gyfer y brifysgol a chyflogaeth. Gall llwyddiannau cynnar yng nghymwysterau Project Personol feithrin hyder a chreu sylfaen gwerthfawr ar gyfer cynnydd tuag at ddysgu lefel uwch.
Mae hyblygrwydd yn cael ei adlewyrchu yn sut mae’r cymwysterau’n cael eu hasesu hefyd.
Gall dysgwyr arddangos eu sgiliau mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys tystiolaeth ysgrifenedig, llafar, graffig, digidol, arteffact, perfformiad, neu ddigwyddiad. Ac yn union fel yn y gweithle, bydd yn rhaid i ddysgwyr ddefnyddio eu sgiliau yn ymarferol.
Bydd sawl corff dyfarnu yn cynnig cymwysterau Project Personol. Mae llawer o gyrff dyfarnu eisoes wedi dechrau cyhoeddi eu manylebau a'u deunyddiau ategol, felly rydyn ni’n annog athrawon i gysylltu â'u corff dyfarnu dewisol yn uniongyrchol os ydyn nhw’n awyddus i ddysgu mwy am eu cymwysterau.
Sut mae cymwysterau Project Personol yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru
Yn bwysig, cafodd cymwysterau Project Personol eu cynllunio i gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru.
Caiff dysgwyr eu hasesu ar y sgiliau hanfodol sydd wedi’u rhestru yn y cwricwlwm:
- Cynllunio a threfnu.
- Creadigrwydd ac arloesi.
- Meddwl yn feirniadol a datrys problemau.
- Effeithiolrwydd personol.
Drwy gynnig y cymwysterau hyn, gall ysgolion ddangos eu bod yn darparu'r dysgu a'r profiadau ehangach sy’n ofynnol fel rhan o'r hawl i ddysgu 14 i 16.
Manteision astudio Project Personol
Gan fod dysgwyr yn cael dewis eu pynciau eu hunain, mae cymwysterau Project Personol yn tueddu i feithrin ymgysylltiad a chymhelliant effeithiol. Mae gweithio ar bwnc sydd o wir ddiddordeb yn helpu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach yn ogystal â meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol, ymchwilio, a datrys problemau – sgiliau sy’n werthfawr yn y byd academaidd a’r byd proffesiynol.
Mae'r projectau hyn hefyd yn cynnig rhywbeth pendant y gall dysgwyr ei ddefnyddio mewn cyfweliadau swyddi neu goleg yn y dyfodol. Gall Project Personol sydd wedi'i gyflawni'n dda helpu dysgwr i sefyll allan, gan ddangos ymroddiad, menter, a'r gallu i weithio'n annibynnol – rhinweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n gyson gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.