Ymchwil i Strwythuro Asesu Cymhwysedd Galwedigaethol/Ymarferol
Un o'n prif nodau yn Cymwysterau Cymru yw sicrhau bod cymwysterau yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr.
Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni ystyried a yw'r trefniadau asesu ar gyfer y cymwysterau sy’n cael eu rheoleiddio gennym yn ddibynadwy, yn ddilys ac yn effeithiol.
Wrth gydbwyso’r agweddau hyn, cwestiwn sydd angen i ni ei ateb yw a ddylai dysgwyr gael eu hasesu yn erbyn holl ganlyniadau dysgu/meini prawf asesu diffiniedig, neu ddim ond sampl o’r deilliannau/meini prawf. Mae’r cwestiwn hwn yn hynod o bwysig yn achos cymwysterau galwedigaethol (VQs) sy’n asesu cymhwysedd gyda’r nod o sicrhau parodrwydd i weithio.
Wrth adolygu a diwygio cymwysterau galwedigaethol, mae ‘na ddadleuon bob amser ynghylch sut rydyn ni’n diffinio cymhwysedd, sut rydyn ni’n ei asesu ac, yn benodol, yr hyn sy'n bwysig i'w asesu. Roedd Cymwysterau Cymru am ymchwilio i enghreifftiau amrywiol y tu hwnt i'r cymwysterau galwedigaethol rydyn ni’n eu rheoleiddio i lywio ein dull o ateb y cwestiynau hyn.
Mae asesu cymhwysedd llawn yn cymryd llawer o amser. Fodd bynnag, efallai bydd rhanddeiliaid cymwysterau yn disgwyl bod asesiad yn cael ei gynnal o'r holl ddeilliannau dysgu, oherwydd y dybiaeth mai dim ond hyn fyddai’n gallu sicrhau dibynadwyedd wrth benderfynu ar barodrwydd i weithio. Gallai'r disgwyliad hwn fod yn arbennig o gryf yn achos galwedigaethau sydd â mwy o risg i'r dysgwr neu'r cyhoedd.
Mae’r adroddiad yma, a baratowyd gan AlphaPlus, yn archwilio sut y gellir strwythuro asesiadau o gymhwysedd galwedigaethol fel bod y cydbwysedd gorau'n cael ei daro rhwng dilysrwydd a dibynadwyedd ar y naill law, ac effeithiolrwydd ar y llaw arall.
Mae'r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o ddyluniadau asesu gwahanol o gymwysterau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio o wahanol lefelau a mathau. Dewiswyd yr astudiaethau achos i archwilio sefyllfaoedd lle gallai asesu cymhwysedd annibynadwy ddod â risgiau i ddysgwyr neu'r cyhoedd:
- meddygon israddedig
- gweithwyr meddygol proffesiynol tramor, gan gynnwys meddygon, nyrsys a bydwragedd
- dau fath gwahanol o gymhwyster peirianneg, a
- chynllun achredu o fewn proffesiwn gofalu.
Mae'r astudiaethau achos yn ystyried sut mae dylunwyr asesu yn samplu cynnwys yr asesiad, sut maen nhw'n rheoli risgiau i ddysgwyr a'r cyhoedd, a sut maen nhw'n cynnwys rhanddeiliaid yn y broses.
Mae'r canfyddiadau'n dangos bod mynnu asesu pob deilliant dysgu bob tro yn gallu creu problemau. Er enghraifft, gallai gorasesu a gormod o ganlyniadau 'negyddol ffug' arwain at leihau dibynadwyedd cyffredinol asesu. Ar yr un pryd, mae cefnogaeth rhanddeiliaid ar gyfer paratoi asesiad yn bwysig, gydag ystod o ddulliau cynllunio posibl wrth ystyried diddordeb y cyhoedd mewn rheolaeth gymesur o risg a sicrhau ei bod yn cael ei derbyn gan randdeiliaid. Gellid ystyried agweddau ar y cymhwysedd, lle mae anallu yn risg i ddiogelwch y cyhoedd, fel topigau sy'n gorfod cael eu hasesu. Er y gallai ystyried agweddau gyda llai o risg fel topigau y dylid neu gellid cael eu hasesu.
Mae'r hyn sy'n dod ar ôl y cymhwyster yn debygol o fod yr un mor bwysig â'r hyn sydd yn y cymhwyster. Er enghraifft, efallai bydd dulliau yn wahanol os yw gwaith yn cael ei oruchwylio ar ôl cymhwyso, o'i gymharu â sefyllfaoedd lle mae gwaith yr unigolyn sydd newydd gymhwyso yn cael ei wneud ar ei ben ei hun neu gyda dim ond hyn a hyn o oruchwyliaeth neu gymorth.
Mae’r adroddiad yn cysylltu’r astudiaethau achos â hanes asesu galwedigaethol a damcaniaeth dulliau asesu cydgysylltiol, cydadferol a datgysylltiol. Mae’n cynnwys rhywfaint o fyfyrdod ar yr heriau o gysylltu’r ddamcaniaeth honno ag ymarfer.
Mae Cymwysterau Cymru yn gobeithio bydd yr adroddiad hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn asesu cymhwysedd galwedigaethol neu ymarferol.